Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynnal trefn rheolaeth amgylcheddol er sicrhau cydymffurfiaeth statudol yr adran ag anghenion deddfwriaethol amgylcheddol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Staff sy’n gysylltiedig â’r dyletswyddau a nodwyd. Unrhyw offer, cerbyd, beiriant neu nwyddau sy’n ymwneud â’r dyletswyddau a nodwyd.
Prif ddyletswyddau
•Arwain, datblygu, gweithredu a chynnal Sustem Rheolaeth Amgylchedd (SRA) i safon ISO 14001a gweithredu fel prif bwynt cyswllt yr Adran.
•Cynorthwyo gyda chynnal ein hachrediadau Ansawdd (ISO 9001) a Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (ISO 45001) a chydweithio â'r Ymgynghorydd Iechyd, Diogelwch a Llesiant i baratoi ar gyfer archwiliadau mewnol ac allanol.
•Arwain ar faterion Asesiadau Risg yr Adran a sicrhau bod y Gofrestr Risg yn gyfredol.
•Datblygu polisi, gweithdrefnau a strategaeth amgylcheddol.
•Cynnal cyswllt gyda sefydliadau trydydd parti megis Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill.
•Monitro, adolygu ac archwilio cydymffurfiaeth a chynlluniau SRA.
•Darparu diweddariad amgylcheddol rheolaidd i swyddogion/timau perthnasol yr Adran.
•Cyfuno ac adrodd ar ddata amgylcheddol ar gyfer dangosyddion perfformiad allweddol amgylcheddol.
•Sicrhau fod holl ddigwyddiadau amgylcheddol yn cael eu hymchwilio a’u hadrodd yn unol â gweithdrefnau’r Cyngor ac anghenion statudol.
•Cynnal ymweliadau rheolaidd â gweithfeydd/safleoedd er monitro cydymffurfiaeth â gofynion amgylcheddol.
•Paratoi a chynnal gwybodaeth, gohebiaeth, cofnodion ac adroddiadau yn amserol yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol.
•Cynorthwyo’r Unedau gweithredol i gyflawni gwelliannau sydd wedi eu hadnabod fel canlyniad o drefn gwella perfformiad y cyngor, yn dilyn archwiliadau neu pan fo newid i ofynion statudol.
•Cynorthwyo ac arwain i sefydlu trefniadau gwaith ar gyfer cynlluniau, contractau a thendrau ble fo agweddau amgylcheddol yn berthnasol.
•Cynorthwyo i adnabod anghenion hyfforddiant a darparu hyfforddiant amgylcheddol i staff a’r gweithlu.
•Cyd-gordio a threfnu cyfarfodydd fel yr angen.
•Gosod agenda, darparu cofnodion a dosbarthu gwybodaeth berthnasol yn ymwneud â chyfarfodydd amrywiol.
•Gweithredu sustemau a meddalwedd cyfrifiadurol ynghylch yr uchod i lefel gallu uchel.
•Sefydlu ‘Grŵp Gwaith Rheolaeth Amgylcheddol’, yn cynnwys cynrychiolaeth o holl hapddalwyr perthnasol yr Adran.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•Bydd angen gweithio tu allan i oriau gwaith i ymateb i anghenion y gwasanaeth a digwyddiadau argyfwng.