Swyddi ar lein
Athro/Athrawes - Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad Adran Cymraeg - Ysgol Bro Idris, Dolgellau
£33,731 - £51,942 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-28857
- Teitl swydd:
- Athro/Athrawes - Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad Adran Cymraeg - Ysgol Bro Idris, Dolgellau
- Adran:
- Addysg
- Gwasanaeth:
- Ysgolion
- Dyddiad cau:
- 08/10/2025 12:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol
- Cyflog:
- £33,731 - £51,942 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Ysgol Bro Idris, Dolgellau
Manylion
Hysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION CYNRADD/UWCHRADD
YSGOL BRO IDRIS, DOLGELLAU
(Cyfun 3 - 16: 540 o ddisgyblion)
Dyddiad dechrau: 1af Ionawr 2026
Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad Adran Cymraeg
Swydd Barhaol
Mae’r Llywodraethwyr yn dymuno penodi Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad Adran Gymraeg i Ysgol Bro Idris, Dolgellau. Mi fydd yr ysgol yn anelu at gyflwyno addysg o’r ansawdd gorau ac i ragori ymhob agwedd o’i gweithgareddau. Hyrwyddir rhaglen addysg ddwyieithog ac mae ethos a gweinyddiad yr ysgol yn adlewyrchu hynny.
Disgwylir i'r ymgeisydd ar gyfer y swydd hon fod:
- yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o holl ofynion y cwricwlwm Cynradd a/neu Uwchradd ac yn barod i arloesi yn y maes addysgu a dysgu 3 – 16 oed.
- yn gwbl ymrwymedig i addysg ddwyieithog gyflawn.
Ystyrir ceisiadau hefyd gan:
- ymgeiswyr sy’n athrawon Cynradd a/neu Uwchradd da ond heb arbenigedd lefel uchel yn y maes.
- Darperir hyfforddiant.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog (£33,731 - £51,942) y flwyddyn ynghyd â lwfans Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu (CAD 2) o £5,977 y flwyddyn yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda’r Pennaeth Strategol, Mrs Jano Owen rhif ffôn 01341 424949, e-bost:- pennaeth@broidris.ysgoliongwynedd.cymru
PWYSIG:- Pecyn cais i’w gael ar wefan Cyngor Gwynedd a gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.
Mae hefyd pecyn cais i’w gael gan Miss Eirian R Hoyle, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Bro Idris, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1HY (Rhif ffôn: 01341 424949). Os y dymunir gellir dychwelyd y cais drwy’r post neu gallwch ebostio’r cais i e-bost y Rheolwr Busnes:- sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru. dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DYDD MERCHER, 8fed Hydref 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.
Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person
Mae ffurflen gais am y swydd yma ar gael i’w lawr lwytho ar dudalen Swyddi Dysgu ar wefan Cyngor Gwynedd (www.gwynedd.llyw.cymru)
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD
CYMWYSTERAU /HYFFORDDIANT GALWEDIGAETHOL/CYMWYSEDDAU | Dull Asesu
|
HANFODOL |
|
Gradd Anrhydedd | Ffurflen Gais |
Statws athro wedi cymhwyso | Ffurflen Gais |
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus | Ffurflen Gais |
DYMUNOL |
|
GWYBODAETH A SGILIAU
|
|
HANFODOL |
|
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol | Ffurflen gais a chyfweliad |
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sectorau cynradd neu uwchradd i ddatblygu eu maes. | Ffurflen gais a chyfweliad |
Meddu ar y gallu i ddadansoddi Data er mwyn cynllunio i wella safonau o fewn eu maes. | Ffurflen gais a chyfweliad |
Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau hunan arfarnu o fewn eu maes. | Ffurflen gais a chyfweliad |
Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy’n sicrhau safonau uchel o ymddygiad. | Ffurflen gais a chyfweliad |
Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o’r Iaith Gymraeg/Cwricwlwm Cymreig yn yr ysgol | Ffurflen gais a chyfweliad
|
DYMUNOL |
|
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sectorau cynradd ac uwchradd | Ffurflen gais a chyfweliad |
|
|
PROFIAD
|
|
HANFODOL |
|
Tystiolaeth o brofiad perthnasol o arwain cyfadran yn effeithiol | Ffurflen gais a chyfweliad |
Profiad o ddatblygu strategaethau addysgu a dysgu effeithiol o fewn cyfadran | Ffurflen gais a chyfweliad |
DYMUNOL |
|
| |
NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL
|
|
HANFODOL |
|
Dangos brwdfrydedd ac ymroddiad tuag at y broses ddysgu | Ffurflen gais a chyfweliad |
Hawdd mynd ato/ati a gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill | Ffurflen gais a chyfweliad |
Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol, gwneud penderfyniadau a chyflwyno gweledigaeth glir | Ffurflen gais a chyfweliad |
Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol | Ffurflen gais a chyfweliad |
Y gallu i weithio dan bwysau a chyfarfod â therfynau amser | Ffurflen gais a chyfweliad |
Yn rhugl o ran safon sgiliau ar lafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg | Ffurflen gais a chyfweliad |
DYMUNOL |
|
|
|
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas craidd swydd Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu – Cymraeg 3 - 16 yr ysgol hon yw rhoi cymorth i ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth broffesiynol a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau i gefnogi datblygiad Ysgol Bro Idris 3 - 16 fel Cymuned Ddysgu lwyddiannus.
Disgwylir i’r Pennaeth Maes:-
- Ysgwyddo cyfrifoldeb ac atebolrwydd am bob agwedd o fewn y gyfadran.
- Datblygu a chynnal tîm effeithiol o athrawon ar draws safleoedd yr ysgol i hybu’r dysgu a’r addysgu i’r safon uchaf.
- Codi safonau a chyrhaeddiad disgyblion o fewn y maes dysgu penodol ac i fonitro a chefnogi cynnydd disgyblion.
- Bod yn atebol am gynnydd disgyblion o fewn y maes dysgu penodol.
- Datblygu ac ymestyn arfer dysgu athrawon eraill.
- Darparu cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol ar gyfer y disgyblion, yn unol ag amcanion yr ysgol â’r polisïau Cwricwlaidd a bennwyd gan y Pennaeth Strategol a’r Corff Llywodraethol a pholisïau Cenedlaethol.
- Rheoli yn effeithiol a sicrhau bod yr athrawon sydd yn y gyfadran yn cyfrannu tuag at bortffolio'r maes dysgu penodol.
- Rheoli yn effeithiol a threfnu athrawon/ staff cefnogi dysgu, adnoddau cyllidol a ffisegol o fewn y gyfadran
- Cydweithio gyda Cydlynydd Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu – Cymraeg 3 – 16oed.
Dyletswyddau’r Swydd
Mae gofynion y swydd hon i'w gyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno.
Mae’r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Mae'r dyletswyddau hyn i'w cyflawni yn ôl cyfarwyddyd rhesymol y Pennaeth Strategol a’r Dirprwy Bennaeth o bryd i'w gilydd fel y bo'n briodol.
Prif Ofynion
Rhaid i ddyletswyddau proffesiynol Pennaeth Safonau yr ysgol hon gael eu cyflawni yn unol â darpariaethau’r Deddfau Addysg, Gorchmynion a Rheoliadau sy’n weithredol dan y Deddfau Addysg, offeryn llywodraethu'r ysgol, unrhyw ddogfen ymddiriedolaeth sy’n berthnasol i’r ysgol ac unrhyw gynllun sy’n cael ei baratoi neu ei gynnal gan Yr Awdurdod Lleol dan Adran 48 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(87).
Rhaid cyflawni’r dyletswyddau yn unol ag unrhyw reolau, reoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan gorff llywodraethu’r ysgol ac y mae’r corff hwnnw yn gyfrifol amdanynt; ac yn yr un modd
unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan Yr Awdurdod Lleol o ran materion nad yw’r corff llywodraethu yn gyfrifol amdanynt.
Mae'r Pennaeth Maes Safonau yn atebol i’r Corff Llywodraethol a Phennaeth Strategol yr Ysgol a Phennaeth Addysg Statudol Gwynedd.
Pe byddai angen, disgwylir i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio ar unrhyw safle yn ôl y gofyn
Cyfrifoldebau Proffesiynol
Cynllunio Strategol:
- Arwain datblygiadau mewn meysydd llafur, adnoddau, cynlluniau gwaith, polisïau marcio, asesu a strategaethau dysgu ac addysgu o fewn y gyfadran.
- Dosbarthu gwersi’r gyfadran.
- Chwarae rhan rheolaeth ganol allweddol drwy gynorthwyo’r Pennaeth Strategol wrth greu gweledigaeth, ymdeimlad o bwrpas a balchder yng ngwaith y gyfadran.
- Cynllunio cynlluniau gwaith y gyfadran, eu cynnal a’u gweithredu, a monitro ac arfarnu’r holl bolisïau a’r ddogfennaeth berthnasol.
- Monitro a chefnogi cynnydd a datblygiad cyffredinol disgyblion o fewn y gyfadran.
- Monitro presenoldeb disgyblion ynghyd â’u perfformiad mewn perthynas â’r targedau a osodwyd ar gyfer pob unigolyn.
- Cynnal a chefnogi disgyblaeth y gyfadran.
- Chwarae rhan allweddol fel rheolwr canol yn natblygiad pob agwedd ar fywyd yr ysgol, gan gynnwys ei pholisïau a’u gweithrediad.
- Nodi a chymeradwyo llwyddiannau aelodau unigol yr Adran, eu hybu a meithrin doniau unigol.
- Helpu i greu tîm effeithiol drwy hybu cydweithredu wrth ymgymryd â datblygiadau cwricwlaidd.
- Cadeirio a llunio’r agenda ar gyfer y cyfarfod adran. Cadw cofnodion bras ar y pro-fforma a ddarperir a’u dosbarthu i aelodau’r Adran, Y Pennaeth a’r Rheolwr Cyswllt priodol.
- Rhoi ar waith bolisïau asesu a gosod targedau'r ysgol, gan wneud defnydd effeithiol o’r data i fonitro a gwerthuso cyrhaeddiad disgyblion yn y pwnc.
- Sicrhau bod pob aelod o’r gyfadran yn casglu asesiad ffurfiol pob hanner tymor, ei rhoi ar system dracio cynnydd yr ysgol a gosod targedau priodol i’r disgyblion ar sut i wella. Sicrhau bod y targedau yma yn cael eu trafod ar ddiwedd pob tymor cyn gosod targedau eraill.
- Dadansoddi data y gyfadran a chreu adroddiad sy’n adnabod a nodi camau priodol i ddatblygu’r maes a’r gyfadran.
- Creu adroddiad blynyddol ynghylch perfformiad a datblygiad y gyfadran ar gyfer y Pennaeth Strategol a’r Corff Llywodraethol.
- Hybu gweithgareddau allgyrsiol a diwylliannol, e.e. clwb gwaith cartref, ymweliadau, cystadlaethau.
- Monitro safon y dysgu ac addysgu o fewn y gyfadran.
- Sicrhau bod asesiadau risg yr adran yn cael eu hadolygu a’u hadnewyddu trwy gydweithio gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch yr ysgol.
- Defnyddio amser Arwain a Rheoli yn effeithiol at y pwrpasau uchod.
- Cydweithio gyda chydlynwyr cwricwlaidd eraill er mwyn datblygu cynlluniau integredig.
- Cydweithio’n rheolaidd gyda’r rheolwr Cyswllt ar gyfer cynhaliaeth broffesiynol ac i ddatblygu yn effeithiol reolaeth y gyfadran.
- Goruwchwylio a monitro cywirdeb y rhestrau arholiadau a’r dyddiadau a chydweithio’n effeithiol gyda’r swyddog arholiadau priodol
- Rheoli’r adnoddau – gofod, staff, arian ac offer yn effeithiol, gan gynnwys defnyddio cyllideb y gyfadran yn ofalus wrth archebu, trefnu a chynnal a chadw offer a stoc a chadw cofnodion priodol. Sicrhau gwerth am arian.
- Cynnal awdit o’r holl eitemau stoc a chynnal gorolwg o’u defnydd.
- Cyfrannu tuag at weithgareddau marchnata'r ysgol
- Paratoi'r gyfadran ar gyfer nosweithiau agored
- Cyflawni dyletswyddau rhesymol eraill a bennwyd gan y Pennaeth Strategol.
Datblygiad Cwricwlaidd:
- Cyfrannu at ddilyniant a pharhad o fewn cwricwlwm ysgol gyfan.
- Datblygu cynlluniau gwaith a pholisïau adrannol/cyfadrannol gweithredol a chyflawn sy’n cyflawni gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a chwricwlwm Dyfodol Am Oes, yn ymateb i bolisïau ysgol sy’n cyfeirio at ofynion pynciol ond hefyd at ddatblygiad sgiliau, yn rhoi sylw amlwg i lythrennedd, rhifedd, TGCH, cymhwysedd ddigidol a sgiliau dysgu yn ogystal ag agweddau trawsgwricwlaidd a dimensiwn Cymreig, safbwynt rhyngwladol a sgiliau ehangach.
- Datblygu cynlluniau gwaith sy’n cynnwys ystod o ddulliau dysgu ac addysgu yn cynnig profiadau cyfoethog i’r disgyblion ynghyd ag amrywiaeth o ddulliau asesu ar adegau allweddol sy’n fodd i fesur yn gywir gynnydd disgyblion.
- Datblygu strategaethau ar gyfer datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion.
- Monitro a gwerthuso addysgu o fewn yr adran, dangos blaengaredd o ran hybu cysondeb, a dangos arweiniad yn y maes.
- Datblygu cysylltiadau buddiol ac addas gyda mentrau lleol a rhai rhanbarthol a chyda sefydliadau cenedlaethol.
- Datblygu strategaethau a threfniadau ar gyfer dysgu ac addysgu disgyblion gydag anghenion addysgol ychwanegol, drwy gydweithio gyda’r Adran ADY a Phennaeth ADY.
- Sicrhau bod y gyfadran yn cefnogi gweithredu’r holl ofynion statudol cyfredol.
- Bod yn effro i ddatblygiadau cenedlaethol o ran y pwnc a’r modd y dysgir ef, ymateb iddynt a rhannu’r wybodaeth gydag athrawon y gyfadran.
- Cadw mewn cysylltiad â’r swyddogion arholiadau o ran gwybodaeth sy’n deillio o’r byrddau arholi.
- Cyfrannu at weithgareddau pontio ac arwain y gyfadran i hybu blaengaredd yn y maes hwn.
- Darparu gwybodaeth i rieni yn ystod nosweithiau rhieni a thrwy adroddiadau.
Hunan Arfarnu:-
- Amcanu at gysondeb safonau o ran effeithiolrwydd y dysgu a’r addysgu o fewn yr adran.
- Monitro safonau dysgu ar draws yr holl ystod gallu yn y gyfadran ac ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
- Monitro ansawdd yr addysgu yn y gyfadran gan hybu addysg effeithiol ac ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
- Monitro effeithiolrwydd polisïau a chynlluniau gwaith.
- Arsylwi gwersi ac arsylwi llyfrau yn rheolaidd a rhoi adborth pwrpasol i godi safonau.
- Gwneud defnydd effeithiol o agenda’r cyfarfodydd cyfadran i drafod effeithiolrwydd unedau a chyrsiau, ynghyd â chynnydd a chyrhaeddiad disgyblion
- Gwneud dadansoddiad systematig o ganlyniadau’r arholiadau allanol a mewnol.
- Ymgymryd â marcio ar draws yr adran o asesiadau allweddol er mwyn dilysu safonau; gosod gradd/lefel i’r disgyblion gyda tharged ar sut i wella. Monitro canlyniadau asesiadau mewnol a defnyddio’r canlyniadau hynny i wella cyrsiau ac i gefnogi disgyblion.
- Arwain a chyfrannu tuag at ddarparu datblygiad proffesiynol personol, drwy raglen effeithiol o Reoli Perfformiad.
- Rhoi ystyriaeth i ddisgwyliadau ac anghenion eraill o’r adran, ac yn fwy penodol gofalu fod myfyrwyr ac Athrawon Newydd Gymhwyso yn cael eu cynnal, eu monitro a’u harfarnu mewn perthynas â safonau polisïau’r ysgol.
- Paratoi adroddiad hunan arfarnu’r adran yn flynyddol.