Swyddi ar lein
Gweithiwr Cymdeithasol PIMC
£39,862 - £48,226 y flwyddyn | Parhaol
- Cyfeirnod personel:
- 25-28833
- Teitl swydd:
- Gweithiwr Cymdeithasol PIMC
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Tim Nos
- Dyddiad cau:
- 03/10/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Parhaol | 37 Awr
- Cyflog:
- £39,862 - £48,226 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Uned Hergest, Bangor
Manylion
Hysbyseb Swydd
Hysbyseb Swydd – Gweithiwr Cymdeithasol PIMC
Gwasanaeth: Plant - Tîm Nos
Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu.
Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Gwybodaeth am y swydd:Ydych chi...
- Am gyfrannu i gyflogwr sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau?
- Yn dymuno gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg?
- Yn berson brwdfrydig a phositif?
- Yn meddu ar sgiliau pobl da
Os mai ‘ydw’ yw eich ateb i’r pwyntiau uchod, beth am ddod i weithio gyda ni?
Dyma gyfle cyffroes i fod yn rhan o dîm Gwaith Cymdeithasol Gwynedd.
Fel Gweithiwr Cymdeithasol byddwch yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau unigolion yma yng Ngwynedd drwy eu cynorthwyo i fyw eu bywydau yn y modd y maent eisiau ei fyw.
Byddwch yn cefnogi unigolion drwy anawsterau cymdeithasol a phersonol, ar yr un pryd â hyrwyddo eu hawliau dynol a’u llesiant. Byddwch yn gweithio gydag unigolion, gan gefnogi eu perthnasoedd â’u teuluoedd, grwpiau a chysylltiadau â’u cymuned. Eu helpu i adnabod eu cryfderau, datblygu eu sgiliau a gweithio ar broblemau neu heriau y gallent fod yn eu hwynebu.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn cynnal cofrestriad fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a gallu arddangos sgiliau yn unol a’r Swydd Ddisgrifiad a’r Manylion Person (ynghlwm).
Gweler y Pecyn Gwybodaeth – Cewch ragor o wybodaeth am y swydd a’r disgwyliadau yn y Swydd Ddisgrifiad a’r Manylion Person. Cewch hefyd wybodaeth am becyn cyflogaeth deiniadol sydd ar gael.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Cysylltwch â ni:
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Jane Pearson. ar 07909995418 neu janelouisepearson@gwynedd.llyw.cymru
Rhagwelir cynnal cyfweliadau - i'w gadarnhau
Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076
E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 03/10/2025
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm.
Yn berson dibynadwy a hyblyg sy’n awyddus i weithio mewn dulliau
newydd a creadigol.
Brwdfrydig, hunan dibynnol a phendant.
Cefnogi arferion gwrth-wahaniaethol
Cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, asiantaethau eraill
a darparwyr
Ymrwymedig i werthoedd, egwyddorion, nodau ac amcanion y
gwasanaeth.
Person sy’n awyddus i ddysgu a datblygu
Gallu cyfathrebu yn effeithiol a chreu perthynas efo unigolion sy’n
defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster Gwaith Cymdeithasol perthnasol yn unol â Fframwaith
Cymwysterau Gofal Cymdeithasol Cymru
Wedi cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru fel Gweithiwr Cymdeithasol
Cymhwyster Cadarnhau (Consolidation 3 Blynedd Gyntaf mewn
Ymarfer) (neu brofiad cyfatebol)
Angen ymrwymo i gwblhau Cymhwyster Cydnabyddedig Deddf Iechyd
Meddwl AMHP a sicrhau Cymeradwyaeth o fewn 3 blynedd o dderbyn y
swydd
Dymunol
Cymhwyster Addysgwr Ymarfer
Cymhwyster Cydnabyddedig Deddf Iechyd Meddwl AMHP
Cymhwyster Asesydd Budd (BIA)
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio mewn tîm
Profiad o weithio yn uniongyrchol efo oedolion/plant /pobl ifanc a
theuluoedd
Profiad o asesu anghenion a llunio cynllun gofal
Profiad o weithio efo asiantaethau eraill
Profiad o ddelio efo achosion diogelu
Profiad o wneud gwaith llys (gwaith plant)
Profiad o waith gofal cymunedol gyda oedolion a’u gofalwyr.
Profiad o ddelio efo achosion cymhleth
Profiad o weithio i ddeddfwriaethau gwahanol
Dymunol
Profiad o fentora o fewn y rôl gwaith cymdeithasol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i gyfeiriadau a blaenoriaethu yn
addas .
Gallu i ymgymryd ag asesiadau cymdeithasol a chreu cynlluniau gofal.
Gwybodaeth o ddeddfwriaeth berthnasol, sgiliau rheoli gofal,
dealltwriaeth o arferion gwaith cymdeithasol da.
Gallu i ddefnyddio system wybodaeth gyfrifiadurol mewn perthynas ag
anghenion Gwasanaeth
Gallu derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad yn effeithiol er budd y
Gwasanaeth a datblygiad personol
Sylfaen sgiliau amrywiol yn seiliedig ar brofiad o weithio efo unigolion
sy’n defnyddio gwasanaethau , plant a theuluoedd .
Sgiliau gwaith llys (Swydd maes plant)
Dymunol
-
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Darparu gwasanaeth ymateb brys i argyfwng gofal tu allan i oriau gwaith arferol i awdurdodau Gwynedd ac
•Ynys Môn
•Sicrhau bod plant ac oedolion mewn perygl yn cael eu gwarchod rhag niwed
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer Gwaith: Ffon symudol, Gliniadur ayb
Prif ddyletswyddau
Mi fydd y dyletswyddau isod i gyd o fewn cyd-destun a threfniadau gweithredu tîm allan o oriau
Dyletswyddau Cyffredinol
•Ymarfer o fewn y fframweithiau deddfwriaethol a’r canllawiau perthnasol sy’n sail i ddarpariaeth gwasanaethau
•cymdeithasol yng Nghymru
•Gweithredu’r cod ymarfer proffesiynol fel gweithiwr proffesiynol cofrestredig
•Meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf a chynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun. Cefnogi cydweithwyr
•gyda'u datblygiad trwy fentora.
•Datblygu ymarfer gwaith cymdeithasol trwy oruchwylio a myfyrio. Cefnogi cydweithwyr ar wahanol adegau yn
•eu gyrfa gyda myfyrdod parhaus trwy weithgaredd ymarfer myfyriol unigol neu grŵp.
•Rheoli eich gwaith eich hun a bod yn atebol amdano.
•Cydweithio o fewn timau, rhwydweithiau a systemau amlddisgyblaethol ac aml- sefydliadol. Cynghori
•cydweithwyr ar feysydd gwaith cymhleth trwy'r rôl fentora.
•Arfer barn broffesiynol a gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi cydweithwyr ar
•wahanol adegau yn eu gyrfa i ddatblygu hyder ynghylch barn broffesiynol trwy'r rôl fentora.
•Rheoli materion moesegol, cyfyng-gyngor a gwrthdaro mewn sefyllfaoedd cymhleth. Cefnogi gweithwyr
•cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd i reoli materion mwy cymhleth trwy'r rôl fentora.
•Paratoi a chyflwyno adroddiadau a chofnodion proffesiynol gan sicrhau bod gwybodaeth yn gywir, yn gyson, ac
•yn cael ei rhannu'n ddiogel ac yn briodol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol gamau o'u gyrfa i
•ddatblygu eu sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chadw cofnodion trwy'r rôl fentora.
•Cefnogi pobl i gymryd rhan mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
•Eiriol gydag ac ar ran unigolion, teuluoedd, cynhalwyr, grwpiau a chymunedau.
•Cydweithio â phobl sydd angen gofal a chymorth a gweithwyr proffesiynol eraill mewn sefyllfaoedd cymhleth, a
•chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa.
•Cynnal asesiadau ac ymarfer sy'n seiliedig ar gryfder mewn ffordd sy'n hyrwyddo hunan benderfyniad,
•annibyniaeth a grymuso a chefnogi cydweithwyr gyda chyngor ac arweiniad ar wahanol gamau yn eu gyrfa.
•Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o amgylch y maes gwaith hwn trwy'r rôl
•fentora.
•Cynnal asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan ddefnyddio sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ i nodi beth sy’n
•bwysig i’r unigolyn, anghenion cymwys a datblygu cynlluniau sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sy’n hwyluso
•gofal a chymorth.
•Byw’n Iach – SD-CY Swydd Ddisgrifiad Cymraeg 03/14 Tudalen 2 o 2
•2 Prif Ddyletswyddau.
•Paratoi, cynhyrchu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau gydag unigolion, teuluoedd, gofalwyr, grwpiau,
•cymunedau a chydweithwyr proffesiynol. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfa o
•amgylch y maes gwaith hwn o fewn rôl fentora.
•Nodi, asesu ac ymchwilio i Oedolyn neu Blentyn sy’n wynebu risg yn unol â deddfwriaeth berthnasol a
•Gweithdrefnau Diogelu Cymru. Cefnogi gweithwyr cymdeithasol ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd i
•ddatblygu eu sgiliau a gwneud penderfyniadau yn ymwneud â gweithio ym maes diogelu o fewn rôl fentora.
•Bod yn fodel rôl a rhannu arfer da, cyngor a chefnogaeth i alluogi cydweithwyr tîm, gweithwyr cymdeithasol llai
•profiadol i ddatblygu eu gyrfaoedd. Bydd hyn yn cynnwys mentora, cydweithio ar achosion a chefnogi sicrwydd
•ansawdd y gwasanaeth trwy archwilio a samplu ffeiliau ac ymarfer a chynghori cyd-weithwyr cymdeithasol ar
•feysydd gwaith arbenigol o fewn y rôl fentora.
Dyletswyddau Lleol
•Ymrwymo i gwblhau cwrs Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy (AMHP) a sicrhau
•cymeradwyaeth fel AMHP o fewn 3 blynedd o gychwyn y swydd .
•Oherwydd natur y gwaith o ran gweithio allan o oriau arferol bydd y gweithiwr cymdeithasol yn gyfrifol am
•wneud penderfyniadau heb gyfarwyddyd y rheolwr yn rheolaidd .
•Mi fydd pob sefyllfa angen ei asesu a’i flaenoriaethu o ran lefel risg
•Gweithwyr cymdeithasol yn gweithio ar draws gwasanaethau oedolion a phlant
Dyletswyddau Eraill
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf
•Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod
•gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n
•gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y
•swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
•Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Amgylchiadau arbennig
•-