Pwrpas y swydd
•Cynorthwyo a cefnogi pobl i ddatrys eu problemau tai a dod o hyd i atebion effeithiol i’w anghenion tai i’w hatal rhag mynd yn ddigartref. Cynnal asesiadau digartrefedd, yn unol â deddfwriaeth digartrefedd a’r cod canllawiau.
•Rhoi Cefnogaeth i unigolion Digartref i atal Digartrefedd.
•Rhoi Cefnogaeth i unigolion Digartref
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•-
•-
Prif ddyletswyddau
•Darparu gwasanaeth ble fo’r cwsmer yn ganolbwynt - i’r bobl hynny sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o fod yn ddigartref.
•Delio gyda chleientiaid mewn ffordd ddiduedd gan beidio a’u barnu
•Cynnal asesiad o amgylchiadau tai y cleientiaid i adnabod y problemau/trafferthion
•Cynnal ymweliadau cartref ac asesiadau mewn lleoliadau eraill, fel ysbytai pan a phryd fo angen.
•Cynnal ymweliadau yn y carchardai neu Hosteil mechniaeth y Gwasaneth Prawf Cenedlaethol pan a phryd fo angen
•Trafod Cleientiau risg uchel a chynghori ar addasrwydd yr eiddo.
•Edrych ar atebion posib i gleientiaid i ddatrys eu problem tai, sicrhau fod eu hanghenion a’u dymuniadau yn cael eu hystyried.
•Cymell cleientiaid i fod yn rhagweithiol i ddod o hyd i atebion a chymryd cyfrifoldeb am eu canlyniad tai
•Ceisio cael gwared â’r rhwystrau i gael atebion effeithiol i gleientiaid a thynnu cymorth gan staff eraill o’r Cyngor neu asiantaethau allanol fel bo’r angen.
•Darparu cyngor a chymorth ar opsiynau tai realistig a’u cyfeirio a’u harwain i asiantaethau eraill fel bo’r angen.
•Cymryd camau rhesymol i helpu i atal neu liniaru digartrefedd yn unol â rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 fel:
onegodi gyda landlordiaid
ocynorthwyo gyda cheisiadau am fudd-dal tai a Thaliadau Tai Dewisol
ocyfeirio at wasanaethau arbenigol megis cyngor ar ddyledion
odefnydd effeithiol o’r gronfa atal yn unol â chanllaw'r gronfa atal
ocyd-gysylltu gyda landlordiaid ac asiantaethau gosod tai i sicrhau llety preifat arall
otrefnu talu blaen-dâl a rhent ymlaen llaw pan fo angen a monitro a mynd ar ôl ad-daliadau
ocyd-gysylltu gyda swyddogion Iechyd yr Amgylchedd (Tai) am broblemau gyda thenantiaethau sector preifat fel dadfeddiannu anghyfreithlon, aflonyddu ac eiddo nad ydynt yn ffit.
•Pan na ellir atal na lleddfu digartrefedd, cynnal asesiadau digartrefedd statudol a gwneud ymholiadau perthnasol yn unol â deddfwriaeth digartrefedd a'r cod canllaw.
•Darparu hysbysiadau ysgrifenedig am ddyletswyddau’r Cyngor dan Ran 2 Deddf Tai (Cymru) 2014.
•Trefnu llety interim/dros dro addas fel bo angen yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac asesiadau risg unigol.
•Trefnu cludiant i lety dros dro pan fo angen.
•Gwneud trefniadau i ddiogelu neu gadw eiddo personol cleientiaid digartref os nad ydynt yn gallu gwneud trefniadau addas eu hunain.
•Sicrhau fod clientiaid yn cael eu symud o lety dros dro i lety addas arall cyn gynted â phosib.
•Cefnogi cleientiaid i wella ansawdd eu bywydau drwy er enghraifft, eu helpu i ddatblygu rhwydweithiau cymdeithasol drwy roi gwybodaeth a chyngor ar weithgareddau cymdeithasol yn eu hardal.
•Rhoi cymorth gyda chael y budd-daliadau gorau, cadw cyllideb a rheoli dyled a chyfeirio i gael cymorth gan arbenigwr ble fo’n briodol.
•Cymhorthi Arweinydd tîm i lenwi’r dychweliadau chwarterol Cefnogi Pobl
•Cefnogi cleientiaid i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant
•Cefnogi cleientiaid i gymryd rhan mewn cyflogaeth/cyfleoedd gwirfoddoli.
•Cefnogi
•Hybu cleientiaid i fyw bywyd iach a gweithgar a mynd i’r afael gyda materion fel camddefnyddio sylweddau, problemau iechyd meddwl
•Trefnu a gweithredu cynlluniau cefnogi i’r holl gleientiaid sy’n y cynllun gan fonitro ac adolygu’r cynlluniau hynny yn rheolaidd, sicrhau fod cynlluniau cefnogol yn cael eu llunio mewn ymgynghoriad gyda’r cleient
•Cysylltu â darparwyr gwasanaethau fel dŵr, nwy neu drydan ar ran y cleient fel bo’r angen.
•Cadw cofnodion manwl a chyfredol o’r gefnogaeth a ddarperir ar ffeiliau’r unigolion
•Dilyn y materion sy’n berthnasol i dai a chymorth, budd-daliadau lles a deddfwriaeth berthnasol arall.
•Adnabod unrhyw anghenion cefnogi i’r cleientiaid a chyd-gysylltu gyda gweithwyr cefnogol priodol.
•Cyflwyno archebion swyddogol a phrosesu anfonebau i’w talu yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor.
•Cynnal asesiadau ar y cyd gyda thîm 16+ y Gwasanaethau Cymdeithasol i asesu pobl ifanc 16/17 oed sy’n ddigartref neu o dan fygythiad o fod yn ddigartref, yn unol â Phrotocol Cyd-weithio’r Cyngor.
•Sicrhau fod cleientiaid wedi cofrestru am Dai Cymdeithasol ar y gofrestr tai cyffredin a chyd-gysylltu gyda’r Tîm Opsiynau Tai i sicrhau fod yr wybodaeth yn gyfredol.
•Datblygu perthynas weithio agos gydag adrannau eraill o’r Cyngor neu asiantaethau allanol fel bo’r angen (fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaeth Iechyd, yr Heddlu, GISDA, CEFNI, NACRO, DIP a’r Gwasanaeth Prawf)Gwasanaethau Cyfiawnder Troseddol a phartneriaid eraill fel Rheolwyr Troseddwyr Integredig (IOM), ‘Prison Link’ Cymru, Tîmau Ailsefydlu, PACT, CRC ac asiantaethau Cefnogol eraill yn cynnwys Mynychu cyfarfodydd perthnasol a chynadleddau.
•Mynychu cyfarfodydd trefniadau amlasiantaethol amddiffyn y cyhoedd (MAPPA 1 a MAPPA 2), ar ofyn y Gwasaneth Prawf.
•Mynychu Cyfarfodydd Tîm a chyfrannu at ddatblygiad a gwella’r gwasanaeth.
•Defnydd effeithiol o systemau TG i gofnodi gwybodaeth i ddibenion ystadegol (e.e. modiwlau Cyngor Tai a Digartrefedd Academi).
•Unrhyw waith gweinyddol cyffredinol sydd ei angen i gadw gwybodaeth yn gyfredol ar system ffeilio achosion a system Academy.
•Darparu gwybodaeth ystadegol ac adroddiadau fel bo’r angen.
•Mynychu cyrsiau ar ddeddfwriaeth digartrefedd ac unrhyw gyrsiau perthnasol eraill sy’n ymwneud â maes tai a chefnogaeth tai sy’n cyfrannu at ddatblygiad personol yn y swydd.
•Yn rhagweithiol yn myfyrio ac adolygu arferion gwaith eich hun ac adnabod meysydd i’w gwella a / neu hyfforddiant - ar y cyd gyda’r rheolwr llinell
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Yn rhagweithiol yn myfyrio ac adolygu arferion gwaith eich hun ac adnabod meysydd i’w gwella a / neu hyfforddiant - ar y cyd gyda’r rheolwr llinell.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Efallai y bydd angen i ddeilydd y swydd gynorthwyo mewn swyddfeydd ardal eraill yn achlysurol, yn dibynnu ar y galw.
•Gall hi fod yn ofynnol i ddeilydd y swydd weithio oriau anghymdeithasol os cyfyd unrhyw argyfwng