Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Rheoli datblygiad a gweithrediad effeithiol systemau technoleg gwybodaeth, dylunio systemau gweithredol a gweithdrefnau'r gwasanaethau mewn ffyrdd cost-effeithiol a fydd yn arwain at arferion gweithio mwy effeithlon ac effeithiol yn yr Adran
•Arwain ar faterion monitro perfformiad a sicrhau bod yr Adran yn cydymffurfio â chyfundrefn monitro perfformiad.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyllid - Cyfrifoldeb am phrosiectau penodol technoleg gwybodaeth i gyfarfod anghenion darparu gwasanaeth yr Adran.
•Offer – Cyfrifoldeb am offer sydd yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau dydd i ddydd y swydd yn ogystal ac offer arbennigol, meddalwedd a chaledwedd technoleg gwybodaeth yr Adran.
Prif ddyletswyddau
•Cymryd cyfrifoldeb ac atebolrwydd am berfformiad ei hun mewn perthynas a darparu systemau gwybodaeth cost effeithiol o safon i’r holl wasanaethau oddi fewn yr Adran.
•Darparu gwybodaeth arbenigol mewn technolegau datblygu systemau, diogelwch systemau, a ffyrdd o reoli a chynorthwyo gwasanaethau’r Adran
•Gwerthuso, gweithredu a chefnogi pecynnau meddalwedd gan sicrhau’r defnydd gorau o fuddsoddi mewn meddalwedd i fodloni gofynion yr Adran.
•Bod yn gyfrifol am gynllunio gwaith yn effeithiol o fewn fframwaith gwasanaethau a rheoli perfformiad cadarn gydag ymrwymiad cryf i gyflawni i safon uchel.
•Arwain, rheoli, a chyflwyno prosiectau systemau technoleg yn unol â blaenoriaethau’r Adran a gofynion Tîm Rheoli’r Adran
•Gwerthuso gofynion cwsmeriaid yn gyson a darparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer
•Sicrhau fod gofynion rheoli perfformiad yn cael eu cwrdd, gan arwain at lefelau uchel o foddhad cwsmeriaid.
•Hyfforddi, mentora a chefnogi swyddogion gyda llai o brofiad o ddefnyddio systemau technoleg gwybodaeth a hwyluso mynediad syml a chyson i Reolwyr / Swyddogion perthnasol i wybodaeth am y llwyth gwaith a pherfformiad
•Bod yn gyfrifol am gydlynu’r defnydd o dechnoleg gwybodaeth oddi fewn yr Adran, megis contractau cynnal a chadw, thrwyddedau meddalwedd, uwchraddio meddalwedd, a chyd-drefnu systemau.
•Rheoli’r datblygiad a’r gweithrediad effeithiol o systemau cyfrifiadurol a threfniadol yr Adran a datblygu eu defnydd a’u llawn botensial.
•Gweithio mewn modd sydd yn sicrhau gwerth gorau i’r Cyngor drwy fabwysiadu egwyddorion ymarfer da o fewn y maes technoleg gwybodaeth a gweithredu mewn ffordd sydd yn ddatblygiadol a heriol.
•Cydlynu adroddiadau ac ymateb i holiaduron perthnasol yr Adran.
•Datblygu a rheoli prosiectau technoleg gwybodaeth y gwasanaethau, creu canllawiau a hyfforddi defnyddwyr systemau cyfrifiadurol fel bo’r angen.
•Gweinyddu, cysoni a diweddaru gwybodaeth gyhoeddus yr Adran ar y safle we fewnol ac allanol a hwyluso cyfleoedd hunan wasanaeth sydd yn ychwanegu gwerth. Trefnu gwybodaeth i’w ddatgelu ar Gofrestr Gyhoeddus a mynediad i wybodaeth.
•Sicrhau bod yr Adran yn cydymffurfio a gofynion statudol ar gyfer casglu data, datgelu gwybodaeth, cynnal cofrestrau cyhoeddus a chynhyrchu a chyflwyno adroddiadau ar ddangosyddion perfformiad.
•Sicrhau bod perfformiad y gwasanaethau yn cael ei fonitro yn rheolaidd ac yn gyson a hwyluso trefniadau i Reolwyr gallu gwneud hyn eu hunain.
•Sicrhau bod Rheolwyr yn dehongli gwybodaeth monitro perfformiad yn gywir a’u cynorthwyo i ymateb i’r wybodaeth yn briodol.
•Cefnogi Rheolwyr i greu a dyrannu rhaglenni archwilio rhagweithiol yn seiliedig ar risg, adnoddau, effeithlonrwydd ac egwyddorion blaenoriaethau gorfodaeth gyfredol.
•Defnyddio sgiliau technoleg gwybodaeth flaengar i lunio a chynhyrchu gwybodaeth monitro perfformiad priodol sy’n bodloni anghenion y gwasanaethau, aelodau a chwsmeriaid. Cyfrannu tuag at ddatblygu dangosyddion perfformiad lleol a gosod safonau gwasanaeth a thargedau.
•Arwain ar faterion Diogelu Data a gweithredu fel cynrychiolydd Diogelu Data’r Adran.
•Darparu Cyngor a chefnogaeth ar faterion i ymwneud a thechnoleg gwybodaeth i’r Uwch Reolwr Trafnidiaeth, Pennaeth Adran Rheoleiddio, Tîm Rheoli’r Adran, y Cyngor ai’r pwyllgorau yn ôl y galw a mynychu pwyllgorau a chyfarfodydd fel bo’r angen.
•Cyfrannu at ddatblygu polisïau a gweithdrefnau traws-wasanaeth, ac i gynrychioli’r Gwasanaeth ar weithgorau corfforaethol yn ôl yr angen.
•Cynrychioli’r Cyngor ar grwpiau cenedlaethol, Rhanbarthol, ac isranbarthol sydd yn berthnasol i ofynion y swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Angen i weithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol.