Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Chwarae rôl ganolog ym mhob agwedd o’r gwaith sydd yn gysylltiedig â rhedeg prosiectau blaenoriaeth yr Adran Tai ac Eiddo, gan arwain, cyflawni, rheoli a pherchnogi prosiectau sy’n rhan o’r Cynllun Gweithredu Tai.
•Atodir y ddolen i’r Cynllun Gweithredu Tai (CGT) presennol – bydd yn gynllun byw a fydd yn newid yn rheolaidd ac felly nid yw’r prosiectau yn gyfyngedig i’r hyn a gynhwysir yn y CGT presennol.
•https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Dogfennau-trigolion/Tai---dogfennau/Cynllun-Gweithredu-Tai.pdf
•Mae prosiectau o natur strategol, ariannol a thechnegol (maes datblygu) yn rhan o’r CGT a rhennir y prosiectau yn ôl arbenigedd, sgiliau a phrofiad aelodau’r Uned Cyflenwad Tai.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Rheoli, monitro ac adrodd ar gyllidebau prosiectau yn ogystal â monitro gwaith prosiectau gan wahanol rhan-deiliaid.
Prif ddyletswyddau
•Gweithio ar brosiectau allweddol yr Adran, yn gyfrifol am reolaeth prosiect o ddydd-i-ddydd, yn atebol i’r Reolwr Cyflenwad Tai.
•Cyflawni’r rôl rheolaeth prosiect gan lunio dogfennau o safon uchel, gan gynnwys ond ddim yn gyfyngedig i: y Ddogfen Cychwyn Prosiect, cynlluniau prosiect, y log risgiau a materion ac adroddiadau cynnydd. Bydd angen sicrhau bod yr holl ddogfennau yn parhau’n gyfredol gydol y prosiect.
•Arwain a rheoli gwahanol agweddau gwaith yn gysylltiedig â phrosiectau’r Cynllun Gweithredu Tai.
•Gweithredu’n rhagweithiol i yrru’r prosiect yn ei flaen, drwy fod yn gyfrifol am reoli holl elfennau ac adnoddau cysylltiedig.
•Cyflawni’r holl dasgau gwaith perthnasol i sicrhau fod prosiect yn cael ei gwblhau’n llwyddiannus gan anelu i gyflawni amcanion y prosiect mor effeithiol ac effeithlon a sy’n bosib.
•Arwain, rheoli, monitro ac adrodd ar adnoddau a chyllid prosiectau.
•Cynorthwyo, cyfrannu, arwain, rheoli a chydlynu gwaith i gwblhau achosion busnes.
•Cyfarwyddo ac ysgogi timau prosiect a monitro eu gwaith.
•Sicrhau bod y prosiect yn cyrraedd at yr holl allbynnau a chanlyniadau angenrheidiol, a hynny o fewn terfynau cost, amser ac ansawdd.
•Llunio ac arwain ar weithrediad strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr ar gyfer budd-ddeiliaid y prosiect ar gyfer rheoli eu disgwyliadau.
•Defnyddio dulliau a thechnegau rheoli newid i gefnogi cyflawni yn effeithiol ac yn effeithlon, gan feddwl am ddatrysiadau creadigol ac arloesol i rwystrau, a’u gweithredu’n llwyddiannus.
•Cydweithio’n agos gyda’r budd-ddeiliaid perthnasol, gan feithrin perthynas effeithiol a dylanwadol gyda phrif swyddogion y Cyngor, y Cabinet, aelodau etholedig a budd-ddeiliaid allanol fel sy’n ofynnol.
•Rheoli unrhyw gyfraniadau allanol / trydydd parti i’r gwaith yn y prosiect.
•Rheoli a monitro’r risgiau o fewn y prosiect, gan ddatrys problemau a materion sy’n codi, a chymryd camau adferol, neu uchafu materion o bwys.
•Adrodd ar gynnydd y prosiect i Fyrddau Rhaglen, byrddau prosiect, Cyfarfodydd Herio Perfformiad, y Cabinet ac unrhyw bwyllgor/grwp mewnol arall neu gyrff allanol perthnasol yn ôl y gofyn,
•Gwirio a rheoli ansawdd cynhyrchion ac allbynnau’r prosiect– gan sicrhau cysondeb, eu bod yn gydnaws â strategaethau eraill y Cyngor, a’u bod yn bodloni unrhyw safonau corfforaethol technegol ac arbenigol eraill.
•Cydweithio gydag aelodau eraill y tîm, swyddogion Cyfadrannau’r Cyngor a budd-ddeiliaid allanol fel Gweision Sifil Llywodraeth Cymru yn unol â gofynion y prosiectau.
•Ymateb i ohebiaeth ac ymholiadau yn gysylltiedig â phrosiectau unai ar lafar, dros ffon, ar e-bost neu drwy lythyr.
•Cyfrannu i adnabod, ymchwilio ac asesu dichonoldeb prosiectau newydd ar gyfer ymestyn ein Cynllun Gweithredu Tai yn y dyfodol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Trwydded yrru gyfredol ddilys ac yswiriant busnes car.
•Bydd angen gweithio ar ben eich hun tu allan i oriau swyddfa arferol yn ôl y gofyn.
•Bydd angen i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio drwy Wynedd gyfan ar adegau.