Nodweddion personol
Hanfodol
Yn gallu ysgogi eraill i ddiwallu amcanion, mewn ffordd gefnogol
Sgiliau datrys problemau
Gwydnwch a phenderfyniad
Rhaid meddu ar drwydded yrru lawn, ddilys a defnydd o gar.
Parodrwydd i weithio tu allan i oriau swyddfa a phan fo angen.
Yn barod i deithio ar draws Cymru.
Dymunol
Hyblyg mewn perthynas ag oriau gwaith.
Diddordeb mewn cynllunio pecynnau hyfforddiant perthnasol ymlaen llaw ac
i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd mewn gwaith cymdeithasol neu gymhwyster perthnasol i’r swydd
Hyfforddiant rheoli (neu dystiolaeth o gymhwysedd mewn rheoli staff)
Dymunol
Cymwysterau penodol mewn perthynas â gwaith gyda phlant a phobl ifanc.
Cymhwyster rheoli.
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o weithio yn y Gwasanaethau Maethu
Profiad neu wybodaeth o’r materion sy’n wynebu gwasanaethau plant i Blant sy’n derbyn gofal
Profiad o ysgrifennu adroddiadau
Profiad o weithio gyda rhanddeiliaid eraill y tu allan i'r awdurdod lleol
Dealltwriaeth a gwybodaeth am Maethu Cymru
Dymunol
Profiad o reoli neu gyfrannu at reoli cyllideb
Profiad ôl-gymhwyso mewn lleoliad gwaith cymdeithasol gofal plant
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Yn medru dangos ei fod yn gallu ysgogi ei hunan a'r gallu i weithio ar ei liwt ei hun yn ôl y terfynau a gytunwyd.
Y gallu i drefnu ei hun ac eraill i flaenoriaethu gwaith a chyflawni targedau.
Yn gallu ysgogi eraill.
Yn deall pwysigrwydd rheoli gwybodaeth wrth fonitro, cynllunio ac adolygu gwasanaethau.
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig gyda defnyddwyr gwasanaeth, staff, rheolwyr, asiantaethau eraill a'r cyhoedd
Yn medru galluogi defnyddwyr gwasanaeth a staff i gyfrannu at gynllunio a datblygu gwasanaethau.
Yn gallu cadeirio ystod o gyfarfodydd yn effeithiol
Sgiliau TG da ac ymrwymiad i atebion ar sail technoleg
Dymunol
-
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)