Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cydweithio gyda aelodau eraill o’r tîm datblygu i greu datrysiadau meddalwedd newydd ac i gefnogi datrysiadau sy’n bodoli’n barod.
•Ar gyfer pob prosiect sicrhau y glynir wrth Fethodoleg Datblygu Systemau Cyngor Gwynedd gan gyd weithio i sicrhau bod pob pecyn gwaith yn cael ei gyflawni ar amser, o fewn y gyllideb ac yn unol â’r fanyleb.
•Wrth weithio fel rhan o dîm, nodi lle mae modd defnyddio TGCh i greu cyfleon ac arbedion effeithlonrwydd a gwell Gofal Cwsmer.
•Cynorthwyo i sicrhau gweithrediad parhaus isadeiledd TGCh y Cyngor.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•-
Prif ddyletswyddau
Data/Offer/Meddalwedd:
•Bod â mewnbwn i agweddau technegol prosiectau
•Rhoi cefnogaeth ar gyfer cymwysiadau o amryw ffwythiant, gan gynnwys dadansoddi problemau, eu datrys a’u hosgoi.
•Cysylltu gyda phartïon allanol i ddatrys materion
•Sicrhau bod dogfennau perthnasol yn cael eu diweddaru pan fo newidiadau’n cael eu gwneud fel rhan o’r broses datblygu.
Gwneud penderfyniadau, trefnu ac arloesi:
•Rhoi cymorth technegol i eraill.
•Rhoi mewnbwn i syniadau newydd yng nghylch sut y gall TGCh greu gwelliannau
•Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau i sicrhau bod elfennau o brosiectau’n cael eu cwblhau ar amser, y tu mewn i’r gyllideb ac i’r safonau disgwyliedig.
•Rheoli ei (l)lwyth gwaith hynod gymhleth a thechnegol ei hun er mwyn cyrraedd targedau.
•Mewnbwn i’r broses gwneud penderfyniadau o ran dethol cyflenwyr a chynnyrch.
•Medru sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion cyflawni gwaith prosiect a gwaith cefnogi pwysau mawr ac adhoc er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael i sustemau TGCh y Cyngor.
•Mewnbwn i’r broses cynllunio busnes.
•Cyfrannu tuag at sicrhau bod targedau perfformaid a mesuriadau gwella yn cael eu cyflawni, neu ragori arnynt.
Cyfathrebu:
•Sgiliau cyfathrebu ardderchog er mwyn cyfathrebu â defnyddwyr ledled y Cyngor i fyny at yr uwch reolwyr.
•Dogfennu gofynion defnyddwyr yn glir trwy gysylltu gyda defnyddwyr mewn cyfarfodydd a gweithdai.
•Datblygu manylebau cysyniadol a thechnegol.
•Paratoi a chyflwyno hyfforddiant i’r defnyddwyr.
•Cynrychioli’r adran TGCh mewn cyfarfodydd ar draws y Cyngor ac yn allanol o bryd i’w gilydd.
Arall:
•Medru datrys problemau mewn nifer o feysydd o arbenigedd.
•Gall fod yn yn ymgynghorydd i’r busnes er mwyn gwella cymwysiadau a datblygu rhai newydd.
•Gweithio ar sawl tasg yr un pryd.
•Yn gyfrifol am godio a dylunio cymwysiadau dan arweiniad rhaglenwyr/dadansoddwyr y Cyngor.
•Yn gyfrifol am adnabod risgiau yn unol â fframwaith rheoli risgiau TGCh.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gan fod swyddogaeth gyfrifiadurol y Cyngor yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, mae’n bosib y bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ac ar benwythnosau o dro i dro a fydd yn gymwys am daliad yn unol ag Amodau a thelerau cyflogaeth y Cyngor. Bydd galwadau brys yn destun i drafodaeth benodol.