Nodweddion personol
Hanfodol
Person brwdfrydig a hyblyg
Gallu meddwl yn ddadansoddol, gan ddatrys problemau a rhoi sylw digonol i fanylder
Hunan gynhaliol a hunan gymhelliol
Gallu blaenoriaethu gwaith a gweithio’n effeithiol tuag at amserlenni a safonau mewn sefyllfa newidiol ac amwys
Gallu cynnal perthynas dda gydag ystod eang o bobl a gweithio mewn tîm
Gallu meddwl am syniadau, a chynnig her adeiladol i syniadau gan eraill, gan weithio gydag eraill i sicrhau bod y syniadau gorau yn dwyn ffrwyth
Sgiliau cyfathrebu effeithiol, yn ysgrifenedig ac ar lafar
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Cymhwyster i lefel gradd neu gyfatebol
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol
Dymunol
Cymhwyster a/neu hyfforddiant mewn defnyddio rhaglenni TG i ddadansoddi a chyflwyno data
Cymhwyster mewn maes ystadegol
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o ymdrin â setiau data sylweddol, modelu data ac adrodd y canlyniadau ar ffurf weledol sy’n ddefnyddiol i wahanol ddefnyddwyr
Profiad o ddefnyddio Microsoft Power BI (yn cynnwys DAX a Power Query) neu becynnau dadansoddi / adrodd data tebyg
Profiad o waith o natur ystadegol
Profiad o weithredu prosiectau i amser ac i safon gytunedig
Dymunol
Profiad o gyflwyno i wahanol gynulleidfaoedd
Creu canllawiau neu bolisïau, gan gydweithio ag eraill wrth eu llunio
Rhoi arweiniad ar ddata / cynghori sut i ddefnyddio data
Profiad o ddefnyddio a dadansoddi gwybodaeth rheoli perfformiad
Profiad o gynnal gwaith ymchwil a dadansoddeg
Profiad o ddefnyddio SQL a / neu ieithoedd ymholi data eraill
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Sgiliau dadansoddi a datrys problemau lefel uchel
Sgiliau ystadegol a thrin data
Dealltwriaeth o egwyddorion ac ymarfer da o ran cyflwyno gwybodaeth mewn modd gweledol
Dealltwriaeth o’r maes gwybodaeth a phwysigrwydd defnyddio gwybodaeth yn effeithiol
Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno gwybodaeth da, a’r gallu i addasu yn unol â’r gynulleidfa
Dymunol
Gwybodaeth o egwyddorion rheoli perfformiad a chynllunio busnes
Gwybodaeth am gyflwyno data yn effeithiol ar wefannau
Sgiliau ymchwil
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)