Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Paratoi bwyd syml ar gyfer brecwast, gweini bwyd, gosod y ffreutur a chlirio ar ol brecwast. Golchi’r offer a glanhau’r gegin ar ffreutur.
• Mae’r ysgol hon wedi ymrwymo i diogelu a hyrwyddo lles plant a phobl Ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Offer
2 Prif Ddyletswyddau.
• Gweithio dan gyfarwyddid y Cogydd a Gofal neu’r Dirpwy.
• Paratoi bwyd syml ar gyfer brecwast a gweini’r bwyd.
• Yn cadw holl adeiladau ag offer y gegin yn lan, gan gynnwys y ffreutur.
• Glanhau llawr y ffreutur gan lanhau pob tamaid o fwyd gan ddefnyddio mop tamp os bydd angen.
• Gwneud dyletswyddau cyffrediniol yn y gegin a’r ffreutur, megis golchi llestr, gosod a chlirio dodrefn ffreutur.
• Bydd y Cymorthydd Cyffredinol yn cymryd gofal o’r gegin yn ystod cyfnod brecwast yn absenoldeb y Cogydd.
• Cynnal safon uchel o lendid personol a gwisgo gwisg cegin lan briodol.
• Cydymffurfio a pholisïau Iechyd a Diogelwch a Diolgwlech Bwyd Cyngor Gwynedd.
• Yn cyflawni unrhyw ddelytswyddau perthnasol yn ôl cais rhesymol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
•
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.