Pwrpas y Swydd.
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Cyflawni gofynion gweinyddol yr Uned Blynyddoedd Cynnar gan osod systemau effeithiol mewn lle i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd.
• Cefnogi trefniadau monitro yr Uned
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau.
• Cyflawni gofynion gweinyddol yr Uned Blynyddoedd Cynnar gan osod systemau effeithiol mewn lle i sicrhau gweinyddiaeth o ansawdd i’r gofynion canlynol:-
o Trefnu cyfarfodydd, digwyddiadau a hyfforddiant gan baratoi rhaglenni, casglu a dosbarthu gwybodaeth, llythyru ac atgoffa.
o Mynychu cyfarfodydd a chadw cofnodion manwl a chywir.
o Prosesu geiriau fel llythyrau ac adroddiadau.
o Cadw a sefydlu systemau ffeilio papur ac electroneg.
o Ateb y ffon gan gofnodi negeseuon a chynnal dyddiaduron y staff perthnasol.
o Archebu adnoddau, llungopïo, casglu a dosbarthu post.
o Codi, prosesu a thracio anfonebau gan gynhyrchu adroddiadau monitro ariannol fel bod angen.
o Derbynfa a llogi ystafelloedd gan osod yr ystafelloedd i ddymuniad y cleientiaid.
o Cefnogi gyda trefniadau gweinyddol trefnu hyfforddiant i’r gweithlu Blynyddoedd Cynnar.
• Gweithio fel rhan o dîm ar gyfer darparu gweinyddiaeth gyffredinol yn swyddfa a dirprwyo dros aelodau eraill o’r tîm gweinyddol fel bod angen (a gall olygu ar adegau weithio o safleoedd eraill)
• Adrodd ar unrhyw faterion i’r Uwch Gymhorthydd Gweinyddol neu Uwch Rheolwr o fewn yr uned.
• Cynorthwyo i farchnata holl waith uned drwy sicrhau ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd rheolaidd fel-
o Diweddaru rheolaidd i’r safle wê a cyfryngau cymdeithasol Teulu Gwynedd
o Gwybodaeth ar hysbysfyrddau canolfannau.
o Cynhyrchu erthyglau, datganiadau a defnyddiau cyhoeddusrwydd.
o Trefnu hysbysebion i’r wasg.
• Gofalu am dderbynfa trwy ymateb i ymholiadau ymwelwyr sydd yn dewis galw heibio a hefyd ymateb i alwadau ffôn neu e-bost a chyfeirio ymlaen fel bo angen. Sicrhau safon uchel o ofal cwsmer gan gymryd a throsglwyddo negeseuon yn glir a chryno a thrin yr ymholwyr pob amser yn gwrtais. Cadw’r dderbynfa yn daclus bob amser. Helpu gyda gwiriadau Iechyd a Diogelwch y safle.
• Cyfrifoldeb dros weinyddu llogi adnoddau.
• Sicrhau cysondeb yn y gefnogaeth weinyddol o fewn y Gwasanaeth gan gydweithio’n agos gyda Cymhorthyddion ac Uwch Gymhorthyddion eraill o fewn yr uned.
• Cyflawni gofynion monitro yr Uned drwy weithio ochr yn ochr gyda’r Uwch Swyddog Busnes, Swyddog Busnes a’r Uwch Gymhorthydd Gweinyddol.
• Cynorthwyo gyda holl anghenion monitro data sy’n ymwneud ag asesiadau plant a thaliadau ar gyfer darparwyr ar gyfer holl rhaglenni’r Uned.
• Cynorthwyo’r Swyddogion Busnes i sicrhau fod adroddiadau cyllidol a pherfformiad ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ogystal a chyfarfodydd perthnasol yr adran.
• Cyfrifoldeb i sicrhau dealltwriaeth chywir a chyson wrth defnyddio system data newydd yr Uned yn ogystal ag unrhyw system arall.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
AMODAU GWAITH
Cyflogaeth: Dros dro
Oriau Gwaith: Oriau sefydlog 37 awr yr wythnos ond gofynnir i weithio ar rota. Yn achlysurol bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol.