Pwrpas y Swydd.
Gweithio fel rhan o dîm preswyl cartref plant:
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Fel aelod o’r tim, darparu gofal uniongyrchol ac ymyrraethau ataliol i blant a phobl ifanc o ddydd i ddydd ynghyd a dyletswyddau a thasgau cefnogol eraill o fewn yr uned.
• Cydweithio’n agos gyda partneriaid mewnol ac allanol i gael y canlyniadau gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth.
• Darparu ystod o ymyrraethau gan ddefnyddio’r ymyrraeth fwyaf effeithiol a phwrpasol i gyd-fynd ag anghenion plant a’u teuluoedd.
• Mae y gwaith yma yn rhan o brosiect ehangach felly yn ôl y gofyn bydd angen i chi weithio mewn tai preswyl eraill yn Wynedd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Offer – cegin a choginio, sicrhau deunydd priodol o gyfleusterau’r adeilad
Prif Ddyletswyddau. .
• I gyfrannu tuag at llunio cynlluniau gofal a chefnogaeth, cymryd rhan mewn adolygiadau a chyfarfodydd eraill, ac i gynorthwyo wrth weithredu’r cynlluniau.
• Bod yn aleod o dim, gan gefnogi cyd-weithwyr a derbyn cefnogaeth fel bo’r angen.
• Datblygu perthynas weithio dda gyda’r plant i ddatblygu ymddiriedaeth, gwella cyswllt a mynediad i wasanaethau a chynorthwyo gyda chyfathrebu a chydlynu.
• Datblygu gwydnwch a hyder teuluoedd i’w grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus a chymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain drwy roddi iddynt y sgiliau angenrheidiol.
• Mynychu Cyfarfodydd Cynllunio ac Adolygu a chyfrannu tuag at ddatblygu cynllun gweithredu. Cadw nodiadau o’r cyfarfodydd a fynychir a’r gwaith achos a wneir. Darparu crynodeb ac adroddiadau o waith achos
• Annog a chefnogi i ddilyn y cynllun gweithredu.
• Llunio a darparu amrediad o ymyrraethau i gefnogi plant yn eu cymunedau lleol.
• Hybu a galluogi Plant i fyw bywyd annibynnol yn y gymuned.
• Hybu a galluogi Plant i gyrraedd eu llawn botensial, mewn modd sydd yn hyrwyddo eu lles, iechyd, datblygiad a diogelwch.
• Sicrhau bod y gwasanaeth yn ymateb i anghenion y plentyn gan ddilyn cynllun ymddygiad yn ol yr angen.
• Cynorthwyo a chefnogi i ofalu am y plant.
• Bod yn wyliadwrus o arwyddion o anhapusrwydd a chamdriniaeth ,ac i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn a’u monitro.
• I adael i’r rheolwr llinell, neu unrhyw berson addas arall, wybod am unrhyw ymarfer gwael neu bryderus neu unrhyw dystiolaeth sy’n crybwyll hynny.
• I gymryd gofal o anghenion corfforol pobl ifanc fel bo angen e.e coginio, golchi, smwddio, siopa, ymolchi, rheoli arian, neu drwy cynorthwyo’r plant I gwblhau’r tasgau hyn.
• Rhoi gwybod i gyd-weithwyr o unrhyw ddatblygiadau/digwyddiadau perthnasol e.e wrth newid shift.
• I siarad efo, a gwrando ar blant, gan gofnodi unrhyw beth arwyddocaol.
• Mynychu cyfarfodydd ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel bo’r angen ac a ystyrir yn addas gan y Rheolwr Tim.
• Derbyn goruchwyliaeth gyson.
• Bod yn hyblyg, o fewn ffiniau rhesymol, er mwyn sicrhau darpariaeth staff ddigonol ar gyfer yr uned.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod
gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Mae natur y swydd yn golygu gweithio tu allan i oriau arferol swyddfa, gan gynnwys penwythnosau.
Lleolir y swydd yn Deiniolen ond yn ôl y gofyn i weithio mewn tai preswyl eraill yn Wynedd.