Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Gweithio fel aelod o'r Tim Maethu yn asesu, recriwtio a chefnogi gofalwyr maeth ar gyfer anghenion plant mewn angen. Gweithredu fel aelod llawn o'r tím hwnnw gan gynnwys dyletswyddau cynnal gofalwyr a darganfod lleoliadau i blant mewn angen.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Denu gofalwyr maeth mewn niferoedd digonol er mwyn diwallu anghenion plant mewn angen.
•I gyfrannu at weithredu ac adolygu strategaeth recriwtio'r gwasanaeth .
•Asesu a darparu unigolion neu deuluoedd mewn perthynas â'u haddasrwydd i faethu yn unol á gofynion statudol.
•Darparu a darganfod lleoliadau i blant mewn angen, unai o fewn adnoddau'r tîm neu adnoddau a ddarperir gan asiantaethau annibynnol.
•Cyfrannu at ymdrechion yr Awdurdod Lleol i ddarparu gwasanaethau i blant mewn angen yn unol á Deddf Plant 1989.
•Cyfrannu at hyfforddiant o safon uchel i ofalwyr maeth.
•Darparu adnoddau ar gyfer hyfforddiant mewn maes lleoliadau teulu.
•Mynychu cyfarfodydd perthnasol.
•Bod yn rhan o rota dyletswydd y tîm a cynghor a chefnogi gofalwyr maeth ar sail bod yn weithiwr dyletswydd.
•Ymateb i geisiadau am wybodaeth gan y Cyhoedd, asiantaethau eraill, y wasg ayyb ynglŷn á maethu.
•Gweithio á phobl broffesiynol eraill er mwyn hyrwyddo lles plant mewn angen.
•Yn unol â chymhwyster a phrofiad cynnig lleoliadau ymarfer i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol.
•Gweithio o fewn gofynion statudol a pholisïau a chanllawiau adrannol.
•Mynychu hyfforddiant ac ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol.
•Cyfrannu at weithgaredd gwerthuso ansawdd.
•Cyfrannu at asesu darpar fabwysiadwyr pan fo angen
Chwarae rhan llawn wrth i’r gwasanaeth sefydlu yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
Chwarae rhan llawn wrth ddatblygu egwyddorion gweithredu’r tim ynghyd a chyfrifoldeb personol dros gadw atynt.
Gweithredu’n hyblyg o fewn egwyddorion gweithredu’r Tim i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i drigolion Gwynedd.
Edrych yn barhaus am gyfleoedd i wella’r gwasanaeth gan adnabod materion sy’n rhwystro’r tim rhag cyflawni yn effeithiol ac effeithlon a gweithredu er mwyn eu datrys.
Sicrhau fod y wybodaeth sydd ei angen er mwyn profi pa mor dda yr ydym yn cyflawni’r hyn sy’n bwysig yn cael ei gadw gan ddefnyddioi’r wybodaeth honno i wella gwasanaeth.
Cyfranu a chymryd penderfyniadau priodol er mwyn cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
Cynorthwyo timau eraill i gyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau uchod.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
•
Amgylchiadau arbennig
•Parodrwydd i weithio oriau hyblyg gan gynnwys rhai nosweithiau a Sadyrnau a Suliau yn achlysurol.
•Trwydded Yrru Llawn.
•Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o dan y Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974. Yn sgil hyn bydd angen gofyn i'r Swyddfa Cofnodion Troseddol am ddadleniad ar ymgeiswyr llwyddiannus. Bydd y Cyngor yn darparu ffurflen
briodol i'r perwyl hwn ac yn talu'r ffi gysylltiedig. Darperir manylion pellach ynglŷn á'r broses yn ôl yr angen.
•Disgwylir bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gofrestredig fel Gweithiwr Cymdeithasol cymwysedig gyda Chyngor Gofal Cymru.