Pwrpas y Swydd.
Gweithio fel rhan o dîm preswyl, a chynorthwyo’r rheolwr i ddarparu gofal i blant mewn gofal mewn Cartref Plant:
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
• Fel aelod o’r tim, darparu gofal uniongyrchol ac ymyrraethau ataliol i blant a phobl ifanc o ddydd i ddydd ynghyd a dyletswyddau a thasgau cefnogol eraill o fewn yr uned.
• Cydweithio’n agos gyda partneriaid mewnol ac allanol i gael y canlyniadau gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth.
• Gweithredu fel dirprwy reolwr y cartref, gan gymryd cyfrifoldeb am rhai agweddau penodol wedi’w delegeiddio gan Reolwr yr uned.
• Mynychu cyfarfodydd ar ran yr uned.
• Cynorthwyo’r rheolwr gyda thasgau sy’n gysylltiedig a chynnal cofrestriad y cartref gydag Arolygaeth Gofal Cymru.
• Darparu ystod o ymyraethau gan ddefnyddio’r ymyrraeth fwyaf effeithiol a phwrpasol i gyd-fynd ag anghenion plant a’u teuluoedd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Offer – cegin a choginio, sicrhau deunydd priodol o gyfleusterau’r adeilad
Rhoi goruchwylaieth i staff.
Rheoli cyllid.
Archebu nwyddau/cyfarpar.
Sicrhau diogewlch yr adeilad.
Prif Ddyletswyddau. .
• I gyfrannu tuag at llunio cynlluniau gofal a chefnogaeth, cymryd rhan mewn adolygiadau a chyfarfodydd eraill, ac i gynorthwyo wrth weithredu’r cynlluniau.
• Bod yn aleod o dim, gan rhoi arweiniad, cefnogi cyd-weithwyr a derbyn cefnogaeth fel bo’r angen.
• Datblygu perthynas weithio dda gyda theuluoedd i ddatblygu ymddiriedaeth, gwella cyswllt a mynediad i wasanaethau a chynorthwyo gyda chyfathrebu a chydlynu.
• Datblygu gwydnwch a hyder teuluoedd i’w grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus a chymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain drwy roddi iddynt y sgiliau angenrheidiol.
• Mynychu Cyfarfodydd Cynllunio ac Adolygu a chyfrannu tuag at ddatblygu cynllun gweithredu. Cadw nodiadau cyfredol o’r holl gyfarfodydd a fynychir a’r gwaith achos a wneir. Darparu crynodeb ac adroddiadau o waith achos. .
• Annog a chefnogi teuluoedd i ddilyn y cynllun gweithredu.
• Llunio a darparu amrediad o ymyrraethau i gefnogi teuluoedd yn eu cymunedau lleol.
• Hybu a galluogi Plant i fyw bywyd annibynnol yn y gymuned.
• Hybu a galluogi Plant i gyrraedd eu llawn botensial, mewn modd sydd yn hyrwyddo eu lles, iechyd, datblygiad a diogelwch.
• Sicrhau bod y gwasanaeth yn ymateb i anghenion y plentyn.
• Bod yn wyliadwrus o arwyddion o anhapusrwydd a chamdriniaeth ,ac i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn a’u monitro.
• I adael i’r rheolwr llinell, neu unrhyw berson addas arall, wybod am unrhyw ymarfer gwael neu bryderus neu unrhyw dystiolaeth sy’n crybwyll hynny.
• I gymryd gofal o anghenion corfforol pobl ifanc fel bo angen e.e coginio, golchi, smwddio, siopa, ymolchi, rheoli arian, neu drwy cynorthwyo’r plant I gwblhau’r tasgau hyn.
• Rhoi gwybod i gyd-weithwyr o unrhyw ddatblygiadau/digwyddiadau perthnasol e.e wrth newid shift.
• I siarad efo, a gwrando ar blant, gan gofnodi unrhyw beth arwyddocaol.
• Mynychu cyfarfodydd tim ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel bo’r angen ac a ystyrir yn addas gan y Rheolwr Tim, gan gynnwys dirprwyo i’r rheolwr.
• Derbyn goruchwyliaeth gyson.
• Rhannu cyfrifoldebau goruwchylio staff parhaol gyda Rheolwr y cartref.
• Rhoi arweiniad i staff efo materion sy’n codi o ddydd i ddydd.
• Bod yn gyfrifol am rediad yr uned o ddydd i ddydd yn absennoldeb y rheolwr.
• Cynorthwyo’r rheolwr i sicrhau rheolaeth effeithiol o holl agweddau rhedeg yr uned o ddydd i ddydd, gan gynnwys rheoli’r gyllideb a sicrhau cydymffurfiaeth gyda Deddf Corestru ac Arolygu Gofal Cymdeithasol.
• Bod yn hyblyg, o fewn ffiniau rhesymol, er mwyn sicrhau darpariaeth staff ddigonol ar gyfer yr uned.
• Ymgyfarwyddo a pholisïau, trefniadau a chanllawiau’r Cyngor ynglŷn ag arferion da a materion yn ymwneud ac Iechyd a Diogelwch.
• Mynychu cyrsiau hyfforddi yn unol ag anghenion hyfforddi.
• Ymgymryd ag unrhyw dasg sydd yn addas a rhesymol i’r swydd ac sydd er lles a datblygiad y plentyn.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Gall y swydd olygu gweithio oriau anghymdeithasol tu allan i oriau swyddfa arferol ar adegau.
• Mae’r swydd wedi ei lleoli ym Deiniolen, ond bydd hefyd yn golygu teithio gan y bydd yn delio gydag achosion ar draws Gwynedd.