Pwrpas y Rôl
Mae'r Uwch Swyddog Caffael yn gyfrifol am gydlynu gweithgareddau caffael a rheoli contractau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Mae’n gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau caffael, rheoli contractau, gwneud y mwyaf o werth cymdeithasol, a chefnogi cyflawni strategaethau caffael yn effeithiol. Bydd yr Uwch Swyddog Caffael yn cynnal perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid ac yn cyflawni'r gwerth gorau ym mhob gweithgaredd caffael.
Cyfrifoldebau Craidd y Tîm
- Cyfrifol am ymgorffori gwerthoedd ac ymddygiadau Uchelgais Gogledd Cymru.
- Cyfrifoldeb ar y cyd fel rhan o'r tîm i gyflawni blaenoriaethau Uchelgais Gogledd Cymru.
- Cyfrifol am gefnogi cydweithwyr ac aelodau'r tîm i gyflawni blaenoriaethau Uchelgais Gogledd Cymru.
- Gweithredu fel llysgennad i Uchelgais Gogledd Cymru a'r rhanbarth.
Cyfrifoldebau Penodol i'r Rôl
- Cydweithio wrth reoli'r holl weithgareddau caffael, trafodaethau contractau, monitro a gwerthuso perfformiad cyflenwyr ar ran Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Sicrhau bod yr holl weithgareddau caffael yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, rheoliadau caffael cyhoeddus a'r arferion gorau.
- Arwain ar sicrhau y rheolir cyflenwyr a chontractau'n effeithiol.
- Gweithio'n agos gyda thimau mewnol, gan gynnwys rheolwyr prosiect a swyddogion cyllid, i sicrhau bod gweithgareddau caffael yn cyd-fynd ag anghenion busnes.
- Darparu cyngor a chefnogaeth ar gaffael yn fewnol ac yn allanol, gan sicrhau gwneud penderfyniadau ar gyrchu a rheoli risg yn effeithiol.
- Cyfrannu at ddatblygu a gweithredu strategaethau, polisïau a phrosesau caffael ar ran Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.
- Cynnal dadansoddiad o'r farchnad a gwerthusiadau cyflenwyr i sicrhau dibynadwyedd, gwerth am arian, a'u bod yn cyd-fynd â nodau'r sefydliad.
- Adeiladu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda chyflenwyr, contractwyr, a phartneriaid allweddol.
- Cydweithio i ymgorffori gwerth cymdeithasol a buddion cymunedol mewn arferion caffael.
- Dirprwyo yn absenoldeb y Rheolwr Caffael a Gwerth Cymdeithasol.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau gofynnol a rhesymol eraill sy’n gymesur â lefel y rôl i gefnogi cyflawni blaenoriaethau sefydliadol.