Pwrpas y swydd
•Goruchwylio a monitro’r gweithredu o fewn y broses adennill ymhob agwedd er sicrwydd adfer effeithiol ac effeithlon yn unol ag amcan/nod yr uned.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Prif ddyletswyddau
•Cefnogi gwaith dydd i ddydd y gwasanaeth adennill ar gyfer yr holl ddyledion sydd yn ddyledus i’r Cyngor gan gynnwys treth cyngor, trethi annomestig, ardaloedd gwella busnes, dyledion cyffredinol ac unrhyw ddyledion eraill.
•Dyletswyddau cyffredinol adfer yn unol â’r gofyn ond cyfrifoldeb penodol am:
oMynychu llys yr ynadon gyda’r rheolwr /swyddog adennill i drafod opsiynau gyda’r trethdalwyr/dyledwyr fel y gellir canfod ffordd ymlaen heb orfod cynnal y gwrandawiad.
oGwirio cynnwys ôl ddyledion i’w dileu a’u cyflwyno i’r pennaeth cyllid i’w ystyried.
oParatoi rhestrau gwysion a trefnu bod staff yn eu gwirio cyn anfon gwysion allan.
oParatoi rhestr o’r gwysion ar gyfer defnydd y llys.
oDelio gyda ymholiadau a gwrthwynebiadau gan y cyhoedd i gais y Cyngor cyn dyddiad y Llys.
oGweithredu ar orchmynion dyled, sef llythyru y trethdalwyr a’u cyflogwyr fel sy’n berthnasol.
oCyfeirio achosion i’r beili.
oSicrhau bod didyniadau cyflog / budd-dal yn cael eu prosesu yn gywir.
oCadw achosion a anfonwyd i gwmniau beili mewn trefn a’u cysoni â’r system.
oCydweithio yn agos hefo CAB gan ddarparu gwybodaeth i’w cynorthwyo i roi cefnogaeth i drethdalwyr a gweithredu ar argymhellion y CAB o ran rhoi trefniadau dros dro mewn lle i drethdalwyr sydd yn cael trafferthion talu.
oCydweithio gyda tîm tai gwag yn yr Adran Tai ac Eiddo i ddarparu achosion ar gyfer ceisiadau ‘charging orders’/methdal gan yr uned gyfreithiol neu gwmni cyfreithiwyr allanol.
oCysoni taliadau a dderbynnir gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y cyfrifon cywir.
•Chwarae rhan llawn wrth i’r gwasanaeth sefydlu yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
•Chwarae rhan llawn wrth ddatblygu egwyddorion gweithredu’r tim ynghyd a chyfrifoldeb personol dros gadw atynt.
•Gweithredu’n hyblyg o fewn egwyddorion gweithredu’r Tim i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i drigolion Gwynedd.
•Edrych yn barhaus am gyfleoedd i wella’r gwasanaeth gan adnabod materion sy’n rhwystro’r tim rhag cyflawni yn effeithiol ac effeithlon a gweithredu er mwyn eu datrys.
•Sicrhau fod y wybodaeth sydd ei angen er mwyn profi pa mor dda yr ydym yn cyflawni’r hyn sy’n bwysig yn cael ei gadw gan ddefnyddioi’r wybodaeth honno i wella gwasanaeth.
•Cyfranu a chymryd penderfyniadau priodol er mwyn cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
•Cynorthwyo timau eraill i gyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
•Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau uchod.
•Bod yn gyfrifol am ddatblygiad personol er mwyn medru cyflawni’r swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•Gofynnir i ddeilydd y swydd gwblhau prawf DBS llwyddiannus.
•Oherwydd yr angen am wybodaeth systemol neilltuol ar wahanol gyfnodau allweddol yn y flwyddyn ariannol disgwylir gweithio am oriau anghymdeithasol yn achlysurol.