Nodweddion personol
Hanfodol
Un sy’n rhoi sylw i fanylion
Un sy’n gallu blaenoriaethu gwaith, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol
Un sy’n gallu gweithio fel rhan o dîm
Un sy’n medru cyfathrebu ag ystod o swyddogion mewnol, Aelodau a swyddogion allanol
Person egnïol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel a’r gallu i weithio ar ei phen/ben ei hun
Un sy’n gallu ymdopi ag adegau o waith trwm mewn swyddfa brysur
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Gradd, cymhwyster proffesiynol neu profiad perthnasol yn y maes
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol a phersonol parhaus
Dymunol
Sgiliau technoleg gwybodaeth uchel iawn gyda phrofiad o ddefnyddio
gwahanol becynnau
meddalwedd gan gynnwys Microsoft Office (e.e. Word, Outlook, Excel,
PowerPoint)
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o ddatblygu fframweithiau a gweithdrefnau er mwyn cyflwyno gwell gwasanaeth
Profiad o weithio a chyfathrebu a nifer o fudd-ddeiliaid
Profiad o weithio ar becynnau gwaith cymhleth
Profiad o allu ymdopi a nifer o dasgau pwysig yr un pryd
Profiad o greu ystod eang o ddogfennaeth amrywiol
Dymunol
Profiad o gofnodi mewn cyfarfodydd
Profiad o weithio gyda methodoleg rheoli prosiectau e.e. PRINCE2
Profiad o gynghori, herio a dylanwadu ar lefel strategol mewn sefydliad
cymhleth
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth
Y gallu i gynllunio, monitro, adrodd, trefnu, cynllunio a chyflwyno’n effeithiol
Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar, wrth drin a phobl, ac ar bapur a pharchu’r angen i fod yn gyfrinachol
Y gallu i gyfieithu dogfennau
Y gallu i weithio o dan gyfarwyddyd a chydweithio fel aelod o dîm
Dymunol
Yn hyddysg yn y broses a chamau statudol ynghlwm wrth faes ad-drefnu ysgolion
Gwybodaeth am hanfodion methodoleg rheoli prosiectau PRINCE2
Profiad o roi cymorth gydag achosion busnes
Anghenion ieithyddol
Hanfodol
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)