Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Gweithio o fewn yr Adran Addysg, yn benodol fel rhan graidd y tîm moderneiddio addysg. Yn chwarae rôl ganolog i gymhorthi bob agwedd o’r gwaith sydd yn gysylltiedig â rhedeg prosiectau blaenoriaeth y Cyngor.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Archebu adnoddau swyddfa o dan arweiniad Rheolwr y Rhaglen.
Prif ddyletswyddau
•Bod yn gyfrifol am weithredu pecynnau gwaith trwy:
•Casglu a dadansoddi gwybodaeth sydd angen er mwyn cyflawni cynhyrchion pecynnau gwaith dynodedig o fewn amserlenni disgwyliedig
•Cwblhau ymchwil a pharatoi gwybodaeth ystadegol, gan gynnwys elfennau cyllidol
•Ymgymryd â thasgau gweinyddol cyffredinol ar gyfer y rhaglen gan gynnwys trefnu a chofnodi cyfarfodydd, cyfieithu dogfennau a threfnu cyfieithiadau
•Cwblhau gwaith yn gysylltiedig â gofynion statudol prosesau ad-drefnu ysgolion (yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol)
•Rhoi gwybodaeth i staff mewn gwasanaethau eraill o’r Cyngor am y Rhaglen
•Derbyn ac ymateb i geisiadau am wybodaeth ar faterion yn ymwneud â’r Rhaglen
•Cydweithio i sefydlu system ffeilio gadarn
•Cwblhau gwaith yn unol â chyfarwyddiadau a chynnal y weithdrefn rheoli fersiwn dogfennau
•Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau mewnol ac allanol yn ymwneud â’r rhaglen
•Ymdrin ag archebion a phrosesu anfonebau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen
•Comisiynu gwaith gan ymgynghorwyr allanol yn ôl y gofyn
•Creu ystod o wahanol ddogfennau e.e. bwletin diweddaru’r wefan
•Dyletswyddau perthnasol eraill sy’n cael eu gosod gan y Rheolwr Llinell
Chwarae rhan llawn wrth i’r gwasanaeth sefydlu yr hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd.
Chwarae rhan llawn wrth ddatblygu egwyddorion gweithredu’r tim ynghyd a chyfrifoldeb personol dros gadw atynt.
Gweithredu’n hyblyg o fewn egwyddorion gweithredu’r Tim i gyflawni yr hyn sy’n bwysig i drigolion Gwynedd.
Edrych yn barhaus am gyfleoedd i wella’r gwasanaeth gan adnabod materion sy’n rhwystro’r tim rhag cyflawni yn effeithiol ac effeithlon a gweithredu er mwyn eu datrys.
Sicrhau fod y wybodaeth sydd ei angen er mwyn profi pa mor dda yr ydym yn cyflawni’r hyn sy’n bwysig yn cael ei gadw gan ddefnyddioi’r wybodaeth honno i wella gwasanaeth.
Cyfranu a chymryd penderfyniadau priodol er mwyn cyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
Cynorthwyo timau eraill i gyflawni’r hyn sy’n bwysig i bobl Gwynedd
Gweithredu mewn ffordd rhagweithiol; bod yn agored i feddwl yn wahanol; yn egnïol ac ymroddedig gydag integriti personol er mwyn cyflawni’r swyddogaethau uchod.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Trwydded yrru gyfredol ddilys ac yswiriant busnes car.
•Bydd angen gweithio ar ben eich hun tu allan i oriau swyddfa arferol yn ôl y gofyn.
•Bydd angen i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio drwy Wynedd gyfan ar adegau.