Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo Rheolwr yr Uned, Arweinwyr Tîm a Rheolwyr Prosiect gyda'u dyletswyddau ar brosiectau.
•Cynorthwyo â'r gofynion ar gyfer rheolaeth ariannol prosiectau a swyddogaethau. Rhoi adborth ariannol i Uwch Reolwyr YGC yn fisol neu fel bo'r angen.
•Cydgysylltu gydag Adain Adnoddau'r Adran a chynnal perthynas ddi-dor drwy holl swyddogaethau gwasanaeth YGC.
•Datblygu a chynnal gwybodaeth arbenigol yn o leiaf un canolfan gweithgarwch craidd y Tîm Gwasanaethau Cefnogol.
•Bod yn llwyr ymroddedig i fodloni anghenion y cleient.
•Darparu swyddogaeth Gefnogol gydlynol i YGC sy'n hwyluso cyflawni gwasanaethau yn broffesiynol ar draws y Gwasanaeth yn ei gyfanrwydd gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) Beirianneg Sifil, Peirianneg Strwythurol, Trwsio a Chynnal a Chadw, Gwasanaethau Pensaernïol a Rheolaeth Prosiect.
•Cyflawni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Canfod a chynnal y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag:-
-arfer gorau cyfredol o ran materion dylunio
-safonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys technoleg gyfredol)
-cyfrifoldebau proffesiynol a statudol (yn cynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Adeiladu 1984, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982, Rheoliadau Cynefinoedd 1994 a Rheoliadau addas e.e. rheoliadau CDM) a’u cymhwysiad i’r gwaith a’r swyddogaethau sy’n cael eu gweithredu.
•Darparu a chynnal cyfrifoldeb goruchwyliol, fel y dyrennir gan y rheolwr llinell, am y staff o fewn Gwasanaethau Cefnogol YGC - dyrannu gwaith, monitro a datblygu staff eilaidd.
•Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd gydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithredu â chynrychiolydd Iechyd a Diogelwch YGC.
•Sicrhau bod YGC yn ateb gofynion y Cyngor.
Prif ddyletswyddau
•Datblygu a chynnal perthynas broffesiynol gyda chleientiaid.
•Cynnal cofnod cryno o wybodaeth ariannol a chytundebol am yr holl waith sy'n cael ei wneud (cyfrifon cynlluniau, tystysgrifau taliadau ac ati)
•Cynnal cofnod o ganiatâd a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru
•Rheoli / datblygu Taflenni Amser a systemau sy'n ymwneud â rheoli prosiectau
•Sicrhau bod gofynion y System Rheoli Ansawdd yn cael eu hystyried yn llawn drwy swyddogaeth y Gwasanaethau Cefnogol yn ei gyfanrwydd.
•Rhoi adborth ariannol i Dîm Rheoli YGC ar bob maes gweithgaredd fel bo'r angen, gan gynnwys Peirianneg Sifil, Peirianneg Strwythurol, Trwsio a Chynnal a Chadw, Gwasanaethau Pensaernïol, Rheoli Prosiectau, Gwasanaethau Technegol Cysylltiedig a Rheolaeth Adeiladu.
•Cynnal a datblygu gweithdrefnau sy'n cefnogi ac yn ategu integreiddiad yr holl systemau ar wahân sy'n hanfodol ac/ neu'n neilltuol i ehangder gwasanaeth YGC.
•Paratoi datganiad cyfrif busnes ariannol ar gyfer yr holl swyddogaethau YGC, ar ddiwedd bob chwarter fan leiaf (Mehefin, Medi, Rhagfyr a Mawrth).
•Bod yn gyfrifol am gasglu, monitro a choladu Dangosyddion Perfformiad Allweddol YGC.
•Paratoi rhagolygon cyllidebol, proffiliau gwariant a chyflwyniadau archebion chwarterol i Lywodraeth Cynulliad Cymru a'r holl gleientiaid eraill, gan gwblhau cyflwyniadau ar ddiwedd blynyddoedd ariannol, mewn ymgynghoriad ag adeiniau/adrannau eraill, a chwblhau datganiadau ariannol misol sy'n ymdrin ag amrediad llawn gwasanaethau YGC.
•Prosesu anfonebau i’w talu (mewnol ac allanol) i’r holl gleientiaid, fel bo’r angen, ond ddim hwyrach na chylch dau fis.
•Sicrhau fod y trefniadau gweinyddol ac ariannol ar gyfer adnabod, archebu, cwblhau a thalu am waith gan YGC yn glir, yn syml ac yn gweithredu'n effeithiol ac yn sicrhau cydymffurfiaeth â gweithdrefnau caffael corfforaethol.
•Rheoli systemau a meddalwedd cyfrifiadur yng nghyswllt yr uchod a chynnal cyfrifoldeb am yr holl gronfeydd data a’r cofrestri sy’n hanfodol i YGC weithredu’n effeithlon sy’n cynnwys y Gofrestr Ffeiliau, Cronfa Ddata Prosiectau a’r Gofrestr Talu ac ati.
•Cysylltu â gwasanaethau eraill, cyfadrannau eraill, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol, ac unigolion sy’n ymwneud â holl agweddau’r gwaith.
•Goruchwylio ac arwain gwaith a datblygiad staff eilaidd.
•Adrodd i uwch staff, a derbyn cyfarwyddiadau ganddynt.
•Unrhyw ddyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n berthnasol, ac yn gymesur ag awdurdod y swydd.
•Materion o natur bersonol a chyfrinachol sydd i dderbyn sylw gofalus a chyda disgresiwn.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Rheoli gwariant ei hun ar brosiectau.
•Y gallu i weithio dan bwysau a symbylu is-staff.