Nodweddion personol
Hanfodol
Ymroddiad a brwdfrydedd i waith sy’n effeithio delwedd y Sir.
Gallu i ymdrin â’r cyhoedd yn gwrtais a chlir.
Gallu i weithio fel unigolyn.
Gallu i weithio fel rhan o dîm.
Hyblygrwydd, ymroddiad a hunan ddisgyblaeth.
Agwedd hyblyg tuag at oriau gwaith, lleoliad a dyletswyddau.
Dymunol
Gallu trefnu rhaglen waith ei hun, a gosod targedi realistig.
Gallu rhoddi arweiniad a chyfarwyddyd i eraill.
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
-
Dymunol
Addysg bellach mewn maes amgylcheddol
Cymhwyster Rheoli’n Ddiogel
Profiad perthnasol
Hanfodol
Profiad o ddefnyddio systemau cyfrifiadurol.
Sgiliau technoleg gwybodaeth.
Gallu dehongli ac ymateb i broblemau.
Profiad o gasglu a thrin data a pharatoi adroddiadau i reolwyr llinell.
Profiad o cydgordio gweithlu.
Profiad codi archebion a phrosesu anfonebau.
Profiad trefnu a gweithio gyda contractwyr.
Profiad ysgrifennu asesiadau risg a gweithdrefnau.
Profiad cyflwyno hyfforddiant tebyg i TBT (Tool Box Talks).
Dymunol
Dealltwriaeth o ofynion Deddf Iechyd a Diogelwch.
Profiad o weithio yn y maes cynnal tiroedd
Profiad o ddefnyddio peiriannau amrywiol megis strimiwr, chwythwr dail a torrwr gwrychoedd
Profiad Rheolaeth Traffig 12D mewn perthynas â gosod arwyddion ayb
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Gallu i gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig gyda cydweithwyr a chontractwyr.
Dymunol
Gwybodaeth am wasanaethau Priffyrdd a Bwrdeistrefol
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)