Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynllunio, cydlynu a darparu rhaglen o weithgareddau a phrosiectau pobl ifanc
•Adeiladu rhwydweithiau eang fel bo modd datblygu’r gwaith yma i’r eithaf.
•Cydweithio gyda gweddill Tim y Gwasanaeth Ieuenctid i sicrhau fod y gwaith yn pontio’n esmwyth ar draws y timau a bod Iechyd a Lles yn dod yn rhan allweddol o’r gwasanaeth
•Gweithio hefo ppobl ifanc o fewn penawdau y 5 Ffordd at Les ac yn sicrhau Llais pobl ifanc ym mhopeth sydd yn cael wneud
•Datblygu llwybr hydwythder emosiynol sydd yn ‘non clinical’ ar y cyd gyda Asiantaethau eraill
•Cydlynu y grŵp Iechyd meddwl
•Gweithredu rhaglen o weithgareddau a phrosiectau gan sicrhau y profiad gorau i bobl ifanc
•Bydd y swydd yma yn canolbwyntio ar yr oedran 11 - 25
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Bydd y Gweithiwr Ieuenctid yn gyfrifol am arolygaeth a threfniadaeth y prosiectau. Bydd hefyd yn gyfrifol am offer gan sicrhau ei fod yn ateb gofynion iechyd a diogelwch.
Prif ddyletswyddau
•Gweithio yn uniongyrchol gyda pobl ifanc 11 – 25 oed i ddatblygu eu iechyd a’u Lles Emosiynol drwy gynnig rhaglen eang o weithgareddau all arwain tuag at achrediad / cymhwyster
•Cydlynu y Grŵp Iechyd a Lles Pobl Ifanc
•Cyfrifoldeb am y Comisiwn / cytundeb ymchwil Iechyd Meddwl
•Rhoi briff anghenion i’r swyddog Hyfforddiant – sesiynau Iechyd a Lles
•Darparu sesiynau Llesiant
•Paratoi, trefnu, cynllunio, gwerthuso, trefnu a rheoli adnoddau ar gyfer pob prosiect
•Sicrhau gofod ble caiff person ifanc y cyfle i fwynhau eu hunain, teimlo’n ddiogel, cael cefnogaeth, cael eu gwerthfawrogi, dysgu sut i gymryd rheolaeth dros eu bywydau gan adnabod a gwrthwynebu dylanwadau niweidiol a all eu effeithio
•Adeiladu perthynas bositif gyda Gwasanaethau / Asiantaethau eraill ee CAHMS
•Trefnu a cynnal digwyddiadau yn ystod gwyliau a penwythnosau
•Sefydlu a datblygu grwpiau o bobl ifanc i gyfranogi mewn cyrsiau / cynlluniau sydd wedi eu achredu
•Hyrwyddo a datblygu cyfleoedd achredu a rhaglenni, ymysg pobl ifanc sy’n ateb y gofynion lleol
•Mynychu cyfarfodydd safoni a hyfforddi a drefnir gan gyrff dyfarnu yn ôl yr angen
•Gweithredu yn ol yr angen fel mentor a brocer fel sy’n cael ei ddiffinio yn y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn yr ysgolion, trwy waith un i un neu waith grwp
•Datblygu ystod o gyfleoedd dysgu i bobl ifanc gan ddefnyddio dulliau anffurfiol gwaith ieuenctid, sy’n addas ar gyfer anghenion y bobl ifanc.
•Cyd-weithio mewn partneriaeth gyda CAHMS, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Teuluoedd yn Gyntaf, Gwasanaethau Cymdeithasol, Gyrfa Cymru, Ganolfan Fyd Gwaith, Diogelwch Cymunedol ac asiantaethau eraill a all fod o fudd i gefnogi’r person ifanc
•Galluogi pobl ifanc i gael mynediad i gyflawniadau cydnabyddedig (e.e. Cynlluniau Her Ieuenctid a Chyflawniad Ieuenctid ASDAN, Agored Cymru, Gwobr Dug Caeredin, Gwobr John Muir).
•Cymell pobl ifanc trwy roddi ymdeimlad o gyflawni a chydnabyddiaeth iddynt
•Cyd-weithio gyda’r Adran Addysg, YOTs, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch Cymunedol ac asiantaethau eraill a all fod o fudd i gefnogi person ifanc.
•Mynychu cyfarfodydd cynllunio’r gwasanaeth ieuenctid, cyfarfodydd adolygu etc. fel bo angen
•Mynychu cyfarfodydd safonni a hyfforddi a drefnir gan gyrff dyfarnu, ac i raeadru gwybodaeth am ddatblygiadau newydd yn y maes Iechyd a Lles i aelodau eraill y tîm gwaith ieuenctid
•Cydymffurfio gyda unrhyw weithdrefnau a systemau y Gwasanaeth
•Datblygu ac ehangu cwricwlwm y prosiectau drwy feithrin cysylltiadau gyda asiantaethau a darparwyr gan gynnwys ymgynghori a phobl ifanc, cyd weithio hefo ysgolion a darparwr addysg eraill
•Cyfrifoldeb dros fewnbynnu unrhyw wybodaeth sydd ei angen i’r system gasglu gwybodaeth
•Cydlynnu at y Safonau Galwedigaethol i Waith Ieuenctid, Hawliau’r Plentyn
•Paratoi adroddiadau cynnydd ar ei waith/gwaith
•Mynychu cyfarfodydd y Gwasanaeth Ieuenctid gan gymryd rhan lawn yn y trafodaethau a rhannu gwybodaeth gyda’r timoedd
•Trefnu a cynnal digwyddiadau, darparu prosiectau a gweithgareddau yn ystod gwyliau ysgol ar y cyd hefo’r Gweithwyr Cymunedol
•Chwilio am grantiau er mwyn datblygu y gwaith ymhellach
•Sicrhau bod unrhyw adroddiad wedi ei gwblhau i’r amser dynodedig
•Sicrhau bod Llais person Ifanc yn cael ei glywed trwy bopeth sydd yn cael ei gynnig a’i ddatblygu
•Mewn cysylltiad ar rheolwr sicrhau datblygiad addas o fesur perfformiad a casglu gwybodaeth o waith er gallu mesur effeithiolrwydd y cynllun a cyflawni amcanion a osodwyd gyda threfniadau adrodd a chynllunio.
•Mynychu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid a drefnir gan, neu ar ran, y Cyn
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
Cyflogaeth:
•JNC i Weithwyr Ieuenctid a Chymuned
•Pwyntiau 14-17
Gwyliau Blynyddol:
•Telerau JNC - 30 diwrnod o wyliau am y 5 mlynedd cyntaf ac yna 35 diwrnod ar ôl hynny
Lleoliad:
•Caernarfon, Dolgellau neu Pwllheli
Oriau Gwaith:
•Yr wythnos waith: 37 awr yr wythnos, dim mwy na 8 sesiwn min nos mewn pythefnos, ac ar brydiau gall fod yn ofynnol i fod yn hyblyg er mwyn cwrdd ag anghenion gwaith penodol. Bydd yn golygu gweithio min nos (3 sesiwn) ynghyd a ambell benwythnos a all fod yn breswyl, o fewn y 37 awr.
Oriau: Yr oriau i gynnwys gwaith min nos ac ar benwythnosau a gall rhai fod yn breswyl
•Mae’r swydd yn amodol ar gwblhau archwyliad llwyddiannus drwy’r Bwrdd Cofnodi Troseddau
Defnydd car:
•Trwydded yrru lawn a defnydd o gar. Bydd deilydd y swydd yn cael ei ddynodi fel “defnyddiwr car hanfodol”
Ieithyddol:
•Bydd angen i ddeilydd y swydd fod yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig yn y Gymraeg a’r Saesneg o’r cychwyn
Defnyddiwr Ffon Symudol:
•Darperir ffôn symudol ar gyfer dibenion y swydd.
•Bydd angen i chi weithio ar draws y Sir
•Gallwch ddatgan diddordeb mewn secondiad
•Gallwn ystyried gweithio llai o oriau
•Byddwn yn ail edrych ar y swydd ddisgrifiad ddiwedd Mawrth 2020
Mae gan yr Adran raglen barhaus o hyfforddiant a datblygu sgiliau personol. Gweithredir Cynllun Gwerthuso a fydd yn cyfrannu at y ddarpariaeth hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd gymryd rhan yn y rhaglen. Byddwch yn dilyn y matrics hyfforddiant ar gyfer Gweithwyr Maes.
•Tynnir eich sylw at y ffaith fod dyletswyddau a chyfrifoldebau penodol mewn rhai achosion yn anodd eu dadansoddi’n fanwl a gallent newid o dro i dro heb newid cymeriad cyffredinol y dyletswyddau na lefel y cyfrifoldeb. Yn ychwanegol, mae'n ofynnol i bob aelod o'r staff dderbyn elfennau o hyblygrwydd yn eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau, a phan fo angen, cyfnewid o fewn yr Awdurdod er mwyn cyfarfod anghenion a gofynion y gwasanaeth sy'n newid yn barhaus. Bydd angen o'r fath yn galluogi i arbenigedd penodol y deilydd dyfu a datblygu er lles y cyflogwr a'r gweithiwr.