Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Swydd dymhorol 3 mis sy'n cynnwys glanhau strydoedd, ffyrdd a mannau agored yn ogystal â gweithredu cerbydau cysylltiedig.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifol am gerbydau a pheiriannau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth.
Prif ddyletswyddau
•Glanhau strydoedd, ffyrdd a thiroedd agored yn ogystal â gwagio biniau cyhoeddus a chasglu gwastraff tipio anghyfreithlon yn unol â rhaglenni gwaith, cyfarwyddiadau a pholisïau perthnasol.
Tasg
•Gwagio gwastraff ac ysgubo strydoedd, ffyrdd, meysydd chwarae a mynwentydd ac unrhyw leoliad arall yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Llinell.
•Gwagio cyfres o finiau stryd, biniau baw cŵn, biniau amlbwrpas a biniau ailgylchu yn unol â'r rhaglen.
•Ymdrin â nodwyddau hypodermig, anifeiliaid wedi’i lladd ar y ffordd, glanhau baw anifeiliaid, baw dynol ac ati.
•Cynorthwyo gyda chlirio eitemau a dipiwyd yn anghyfreithlon.
•Gweithio o fewn yr amseroedd a bennir gan y cyflogwr i sicrhau bod y gwasanaeth mwyaf effeithiol ac effeithlon yn cael ei ddarparu i drigolion y sir.
•Bod yn hyblyg i weithio ledled y sir yn ôl yr angen.
•Chwynnu yn ôl yr angen.
•Gweithio mewn ardaloedd trefol a gwledig ym mhob tywydd.
•Defnyddio unrhyw offer a ddarperir gan y Gwasanaeth i gynorthwyo gyda'r glanhau o ddydd i ddydd.
•Sicrhau bod lefelau glanweithdra perthnasol yn cael eu dilyn i fodloni safonau derbyniol i archwiliadau glendid allanol a gynhelir drwy gydol y flwyddyn.
•Mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol a ddarperir gan y gwasanaeth.
•Defnyddio unrhyw systemau technoleg gwybodaeth a allai gael eu cyflwyno gan y gwasanaeth i gynorthwyo gyda darparu gwasanaethau, adrodd ac ati.
•Cynorthwyo i symud y gwasanaeth ymlaen trwy gynnig awgrymiadau ar gyfer gwella, dylunio a gweithredu cylchdeithiau glanhau strydoedd/gwagio biniau, gan gyfrannu at gynnwys asesiadau risg ac ati.
•Cwblhau gwaith gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r swydd e.e. taflenni gwaith dyddiol, adroddiadau rhwydwaith, nodiadau trosglwyddo gwastraff ac ati.
•Gwagio cerbydau yn un o gyfleusterau trin gwastraff y Cyngor, neu un a weithredir gan gwmni allanol, gan ddefnyddio'r mecanwaith 'tipio', a sicrhau bod y cerbyd yn gadael y safle'n lân.
Iechyd a Diogelwch
•Cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch eich hun, eich cydweithwyr ac aelodau'r cyhoedd.
•Gweithio yn unol â gweithdrefnau rheoli yn ddiogel, asesiadau risg, polisïau'r Cyngor a chadw at y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch priodol.
•Gwisgo siacedi gwelededd uchel llachar, trowsus balistig, esgidiau diogelwch ac unrhyw ddillad diogelwch neu wisg berthnasol.
•Cymryd rhan mewn archwiliadau Iechyd a Diogelwch, BSI ac ati a dangos ymwybyddiaeth o'r risgiau a chydymffurfiaeth.
•Adrodd a chynorthwyo gyda chwblhau adroddiadau damweiniau / digwyddiadau treisgar (ffurflenni HS11) yn ogystal â ffurflenni yswiriant.
•Cydymffurfio â rheolau, rheoliadau a chyfarwyddiadau penodol mewn safleoedd trosglwyddo gwastraff.
•Mynychu Asesiadau Gwyliadwriaeth Iechyd y Cyngor yn ôl yr angen.
Cerbyd a Gyrru
•Gyrru cerbydau Categori B (hyd at 3.5T) e.e. cerbydau masnachol ysgafn.
•Cynnal gwiriadau dyddiol ar unrhyw gerbyd bob bore i sicrhau ei fod yn ddiogel bod ar y ffordd.
•Cofnodi pob gwiriad ac adrodd am unrhyw ddiffygion.
•Cynnal a chadw arferol gan gynnwys gwirio lefelau olew a dŵr y cerbyd.
•Sicrhau bod y cerbyd yn cael ei gadw'n lân.
•Gyrru unrhyw gerbyd a ddarperir gan y Gwasanaeth mewn modd diogel a chwrtais yn unol â chyfyngiadau cyflymder ffyrdd ac o fewn gofynion y gyfraith.
•Cynnal asesiad risg deinamig o ran glanhau neu wagio gwastraff a phenderfynu ar y lleoliad mwyaf diogel i leoli'r cerbyd ar y ffordd tra bod y gwaith yn digwydd.
Gofal Cwsmeriaid
•Sicrhau'r lefel uchaf bosibl o ofal cwsmer.
•Cysylltu'n hyderus ac yn frwdfrydig ag aelodau'r cyhoedd a busnesau.
Adrodd a Chydymffurfiaeth
•Ar ddiwedd y diwrnod gwaith, adrodd i'r arweinydd tîm am unrhyw faterion neu broblemau casglu sydd wedi codi.
•Cydymffurfio â'r holl bolisïau a gweithdrefnau mewnol ynghylch adrodd salwch a cheisiadau am wyliau blynyddol.
Corfforaethol
•Cyfrifoldeb dros hunanddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb dros reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd gyfwerth a rhesymol arall sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i roi gwybod am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn agored i niwed yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•Mae'r gwasanaeth Glanhau Strydoedd yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos, rhwng oriau 05:00 a 16:00.
•Bydd deiliad y swydd wedi'i amserlennu i weithio o ddydd Mercher i ddydd Sul, gan gynnwys penwythnosau.
•Efallai y bydd angen i weithio goramser yn achlysurol wrth i anghenion gweithredol godi.
•Rhaid i ddeiliad y swydd fod ar gael i gynorthwyo y tu allan i oriau gwaith arferol mewn argyfwng.
•Rhaid trefnu diwrnodau gwyliau blynyddol ar ôl ymgynghori â'r rheolwr llinell.
•Bydd yr wythnos waith cyfartalog yn 37 awr.
•Swydd dros dro am gyfnod o dri mis yw hon, gyda'r posibilrwydd o estyniad yn amodol ar ofynion y gwasanaeth.