NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
- Yn rhagweithiol wrth barhau i ddysgu am y diweddaraf yng nghyswllt diwydiant cymhleth sy’n newid yn gyflym.
- Medru ennill sgiliau a diweddaru’n barhaus wrth i’r diwydiant fynd yn ei flaen.
- Angen bod yn annibynnol a medru gwneud penderfyniadau ar ei ben ei hun ac fel rhan o dîm.
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
- Yn meddu ar radd (neu gymhwyster cyfatebol) mewn maes priodol.
DYMUNOL
-
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
- Profiad o gefnogi a/neu ddatblygu cymwysiadau
- Profiad dadansoddi a dylunio systemau.
DYMUNOL
- Profiad o Systemau Gwybodaeth Daearyddol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
- Gwybodaeth a gallu mewn datblygu meddalwedd a chyda gwybodaeth am dechnoleg ymylol ac arferion gwaith.
- Yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y maes arbenigedd
- Medru cyfathrebu mewn modd technegol ac annhechnegol
- Medru datrys problemau yn rhesymegol.
- Sgiliau dogfennu da
- Gwybodaeth am y cylch datblygu sustemau
DYMUNOL
- Gwybodaeth o’r model ITIL.
- Gwybodaeth o safonau perthnasol e.e. BS7799.
- Gwybodaeth o un neu fwy o’r isod:
Microsoft SQL Server
Java
JavaScript
VBScript
Technoleg .NET e.e. C# , web services, MVC
HTML
XML
IIS
Dylunio’r We
Diogelwch y We
Datblygu cymwysiadau symudol e.e. Android, iOS
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
GWRANDO A SIARAD – LEFEL CANOLRADD
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.
Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
DARLLEN A DEALL – LEFEL CANOLRADD
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.
Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
YSGRIFENNU – LEFEL CANOLRADD
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan)