Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cefnogi lleoliadau blynyddoedd cynnar a’r plant sydd yn y lleoliadau
•Gweithredu’r CiG, gofynion Dechrau’n Deg a’r Cod ADY
•Sefydlu perthynas weithiol, effeithiol gyda’r Arweinyddion a’r plant gan weithredu fel unigolyn proffesiynol.
•I weithio o dan reolaeth a goruchwyliaeth y tim athrawon ymghynghorol a chyd weithio i gyrraedd rhaglen waith y tim dan oruchwyliaeth y Grŵp Ansawdd Blynydoedd Cynnar
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Ffon Symudol
•Offer TG
Prif ddyletswyddau
Cefnogaeth i Arweinyddion
•Darparu mewnbwn yn y Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar o dan Arweiniad yr Athrawon Ymgynghorol yn unol â gofynion y Grŵp Ansawdd Blynyddoedd Cynnar
•Cynorthwyo gyda datblygu a gweithredu cynlluniau datblygu y lleoliadau
•Cyd-weithio gydag Athrawon Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar i sicrhau ansawdd ar draws y Sir.
•Cydweithio gyda Cymorthyddion o fewn Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar i fodelu pecynnau ymyrraeth effeithiol gyda’r disgyblion sydd ar lefel targedu.
•Defnyddio TGCh yn effeithiol i gefnogi gweithgareddau dysgu a datblygu cymhwysedd ac annibyniaeth disgyblion yn ei ddefnydd.
•Sefydlu perthynas weithio gynhyrchiol gyda’r athrawon, cydweithwyr a’r lleoliadau.
•Rhannu arferion da gyda staff o fewn Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar a modelu technegau yn ôl yr angen.
•Cydweithio gyda staff eraill fel tîm iaith a Chwarae, tîm ADY, tîm Dechrau’n Deg i gefnogi’r lleoliadau
•Cefnogi lleoliadau i weithredu ar dargedau, hwyluso cynnwys Proffil Un Tudalen gan gynnig syniadau a’r weithredu gofynion arbenigwyr yn y maes. Cynnig syniadau/deunyddiau a gweithgareddau dysgu fel y bo’n briodol.
•Monitro a gwerthuso ymateb a chynnydd disgyblion yn erbyn cynlluniau gweithredu drwy arsylwi a chofnodi.
•Darparu adborth ac adroddiadau gwrthrychol a chywir i staff eraill ar gyflawniad, cynnydd a materion eraill disgyblion, gan sicrhau fod tystiolaeth briodol ar gael.
•Cyfrannu at gefnogi lleoliadau i fod yn lleoliadau Cyfathrebu Cyfeillgar, lleoliadau cyn Ysgol iach, lleoliadau sy’n gallu bod yn ran o ddarpariaeth lleoliadau coedwig/arfordirol, lleoliadau diogel sy’n rhoi lles a hapusrwydd plentyn yn gyntaf a lleoliadau sy’n rhoi ffocws ar sicrhau ansawdd a safon ar draws y meysydd dysgu.
•Sefydlu perthynas adeiladol gyda arweinyddion a phlant, gan gyfnewid gwybodaeth ddilys a diweddar er mwyn sicrhau datblygiad amserol a chyfredol.
Cefnogaeth i blant
•Gweithio gyda grwpiau bychan o blant e.e. modelu y ddarpariaeth fel egwyddorion Elkan, darllen stori a.y.b
•Rhoi llais y plentyn a thrywydd y plentyn yn flaenoriaeth
•Cynnig syniadau a’r dysgu posib fel bod y safonau a gwybodaeth y plant yn cael eu hymestyn yn amserol a chyson.
•Drwy fod a gwybodaeth gadarn am ddatblygiad plentyn y gallu i gynnig camau perthnasol yn unol a charreg filltir y plentyn.
Cefnogaeth i’r Cwricwlwm
•Cynllunio a Gweithredu gweithgareddau dysgu sy’n cyd fynd a gofynion y Cyfnod Sylfaen a’r CiG.
•Bod yn ymwybodol a gwerthfawrogi ystod o weithgareddau, cyrsiau, sefydliadau ac unigolion, ar gyfer darparu cefnogaeth i’r lleoliadau i ehangu a chyfoethogi eu dysgu.
•Cydweithio gyda’r Uwch Athrawes i weithio ar prosiectau amrywiol e.e. cynlluniau y grant GDDBC ac adrodd fel sydd angen ar berfformiad y prosiect
Cyffredinol:
•Ymwybyddiaeth o bolisïau a gweithdrefnau’r Awdurdod, Mudiad Meithrin, AGC, ADY a Diogelu plant.
•Sefydlu perthynas adeiladol a chyfathrebu gydag asiantaethau eraill er mwyn cefnogi cyflawniad a chynnydd y lleoliad a’r disgyblion.
•Mynychu cyfarfodydd rheolaidd a chymryd rhan ynddynt.
•Cymryd rhan mewn hyfforddiant a gweithgareddau dysgu eraill, fel y bo’n ofynnol.
•Adnabod hunan gryfderau ac ardaloedd arbenigedd a defnyddio’r rhain i gynghori a chefnogi eraill.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gweithio tymor ysgol yn unig
•Angen gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol