Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud.
•Rheoli prosiectau mewn cydymffurfiaeth â Gweithdrefnau Rheoli prosiect YGC ac anghenion cleientiaid ac fel a gyfarwyddyd gan y Prif Beiriannydd / Rheolwr yr Uned.
•Bod yn rhan o'r Tîm Rheoli Prosiect a chydymffurfio â Gweithdrefnau Rheoli prosiect ac anghenion cleientiaid.
•Trin a chynnal perthynas broffesiynol yn weithredol gyda chleientiaid newydd a chyfredol, gan sicrhau gwellhad parhaol mewn cyflwyno gan sicrhau a gweithredu ar adborth perfformiad.
•Datblygu gallu personol arbenigol mewn materion yn ymwneud â prosiect, risg a rheolaeth ariannol.
•Rheoli a goruchwylio Timau Prosiect hyblyg, gan gynnwys staff prosiect mewnol ac allanol ynghyd â chontractwyr.
•Bod yn rhan o Dîm Prosiect hyblyg a chyflawni'r oll sydd i'w ddisgwyl o aelodau tîm prosiect er mwyn sicrhau cyflwyniad llwyddiannus prosiect.
•Darparu a chydymffurfio â holl ofynion adrodd i'r Rheolwr Uned/Rheolwr Prosiect yn ôl cywirdeb disgwyledig a dyddiadau terfyn.
•Mentora staff iau a bod yn adeiladol ac yn rhagweithiol wrth ddatblygu staff i'r safon uchel disgwyledig.
•Darparu graddau disgwyledig o oruchwyliaeth safle gan gyd-fynd â darpariaeth briff y prosiect.
•Bod yn ymwybodol o, a gweithredu gweithdrefnau newydd a gyflwynwyd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r Cyngor yn ogystal â datblygiadau cenedlaethol er mwyn bod yn ymwybodol o holl fentrau'r Llywdoraeth/UE a'u heffeithiau.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•caffael a chynnal y wybodaeth fwyaf diweddar ynglŷn â’r:-
oarfer gorau cyfredol o ran materion dylunio
odulliau caffael ar gyfer prosiectau
osafonau a datblygiadau technegol (gan gynnwys technoleg gyfredol)
oCyfrifoldebau proffesiynol a statudol (yn cynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982,
•rheoli a goruchwylio staff eilaidd.
•dirprwyo ar ran y rheolwr uniongyrchol uwch yn ei h/absenoldeb.
•Sicrhau y caiff holl daflenni amser a chymeradwyaeth staff eu cwblhau yn unol â gweithdrefnau YGC.
•Bod yn gwbl gyfarwydd â chynlluniau a gweithdrefnau'r adran, gan gynnwys bob dogfen safonol, canllawiau/gweithdrefnau gweithredol a Chynllun Busnes.
•Bod yn gwbl gyfarwydd â holl feddalwedd a systemau'n seiliedig ar TG gofynnol sydd yn hwyluso gweithrediad y gweithgareddau a amlinellir sydd yn gynhendid ag adran 'Pwrpas y Swydd' (uchod).
Prif ddyletswyddau
•datblygu a chynnal perthynas ymarferol a phroffesiynol gyda phrif gleientiaid.
•paratoi amcangyfrifon costau, cynnal asesiadau risg, cynllunio gofynion staff archwilio, cynhyrchu rhaglenni a rhagolygon gwariant. Monitro cynnydd gwirioneddol yn erbyn y rhagolygon a chymryd camau adferol angenrheidiol i gyflawni cyflawniad y prosiect yn unol â'r briff gofynnol ac mewn cydymffurfiaeth â'r Gweithdrefnau Rheoli Prosiect.
•Bod yn weithgar wrth ddatblygu a monitro'r Cynllun Busnes er mwyn sicrhau bod yr uned yn gweithredu hyd eithaf ei gallu a bod targedau allweddol yn cael eu cyflawni.
•Gweithredu fel Goruchwylydd gwaith ar safleoedd adeiladu pan fo angen ac i ymgymryd â chyfrifoldebau a dyletswyddau dirprwyedig yn unol â gofynion y swydd.
•cynorthwyo i ddatblygu a chynnal y ddogfen contract model
•ymgymryd â'r dyletswyddau sy'n ofynnol dan Reoliadau CDM.
•rheoli a chynorthwyo i reoli prosiectau Lefel 2+3.
•cynnal astudiaethau dichonoldeb, casglu data, ymchwiliadau cychwynnol, asesiadau technegol, a gweithdrefnau dylunio, gweinyddol, ansawdd ac ariannol ar gyfer gwaith fydd yn cael ei wneud ar ran y Cleient.
•Sicrhau bod prosiectau yn cydymffurfio â deddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch ac amgylcheddol.
•goruchwylio rheolaeth ariannol, weinyddol a thechnegol gwaith adeiladu, ymchwilio, asesu neu waith cynnal a chadw a wneir ar ran y Cleient. Cynorthwyo wrth ddatrys materion cytundebol ar ran cleientiaid.
•datblygu arbenigedd yn yr holl systemau a meddalwedd cyfrifiadurol perthnasol.
•Cysylltu â gwasanaethau eraill, cyfadrannau eraill, Aelodau’r Cyngor, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol, ac unigolion sy’n ymwneud â holl agweddau’r gwaith.
•rheoli, goruchwylio ac arwain gwaith a datblygiad staff fel rhan o dîm prosiect.
•adrodd i uwch staff, a derbyn cyfarwyddiadau ganddynt.
•dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill sy’n berthnasol, ac yn gymesur ag awdurdod y swydd.
•Cyfrifol am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu oddi mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithio'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•Rheoli gwariant ei hun ar brosiectau.
•y gallu i weithio dan bwysau. Gallu ysgogi staff er mwyn sicrhau llwyddiant YGC.
•Yr angen i weithio tu allan i oriau swyddfa mewn Ymchwiliadau Cyhoeddus, ymgynghoriadau, arddangosiadau a chyfarfodydd y Cyngor a phan fyddwch yn cael eich galw allan i sefyllfaoedd argyfwng.