Pwrpas y swydd
•Monitro'r Rhaglen Sicrwydd Diogelwch i gwmpasu bygythiadau technoleg presennol a chyfredol ar draws Isadeiledd Cyfathrebu a Systemau Traffig Cymru.
•Cydlynu a dogfennu'n effeithiol y gofynion cydymffurfio â Seiberddiogelwch, yn unol â pholisïau, safonau a deddfwriaeth diogelwch lle bo hynny'n berthnasol, yn unol ag arfer gorau y diwydiant.
•Cefnogi holl achrediadau diogelwch Isadeiledd Cyfathrebu a Systemau Traffig Cymru.
•Adrodd ar, a dogfennu Risgiau Seiberddiogelwch a Gwydnwch.
•Datblygu perthynas dda â staff technegol a chymorth i sicrhau bod anghenion systemau a gwybodaeth yn cael eu nodi a'u diwallu.
•Darparu cyngor ac arweiniad yn ystod camau cynllunio prosiect i sicrhau bod gofynion Seiberddiogelwch a gwydnwch yn cael eu hystyried yn y fanyleb gyfan.
•Cefnogi, llunio a darparu sgiliau ac arbenigedd yr ail a'r drydedd llinell ar gyfer yr holl galedwedd a meddalwedd sy'n cynnwys elfennau diogelwch rhwydwaith Traffig Cymru.
•Cefnogi cyfathrebu ac isadeiledd systemau ar draws 26 o safleoedd gyda mynediad ffeibr.
•Darparu mewnbwn ar ddiogelwch a gwytnwch yr isadeiledd a'r gallu i adfer trwy ymateb yn llwyddiannus i ddigwyddiadau.
•Sicrhau bod isadeiledd y systemau yn cael ei gefnogi yn unol â'r polisïau a'r gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ac Asiantaethau'r Cefnffyrdd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Staff:
•Darparu arweiniad a chefnogaeth i randdeiliaid eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r Tîm Twneli, y Tîm Systemau Trafnidiaeth Ddeallus, y Tîm Cyfathrebu Cyhoeddus a'r Ystafelloedd Rheoli Gweithredol.
•Gweithio fel arweinydd technegol ar gyfer diogelwch ar brosiectau integreiddio systemau amrywiol.
•Byddwch yn adnodd technegol i dimau prosiect eraill.
•Gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid eraill a monitro cynnydd gweithgareddau amrywiol y prosiectau.
Cyllid:
•Byddwch yn ymwybodol o strwythurau cyllidebol a chefnogi cyfyngiadau prosiectau/contractau.
•Darparu gwasanaethau ar gyfer prosiectau bach, canolig a mawr.
Data / Offer / Meddalwedd:
•Cael mewnbwn i agweddau Seiberddiogelwch ar systemau critigol monitro a rheoli diogelwch. Darparu cymorth technegol i unrhyw brosiectau technegol newydd.
•Rhoi mewnbwn i unrhyw galedwedd neu feddalwedd a ddefnyddir er budd diogelu'r holl systemau a data Traffig Cymru.
•Cael mewnbwn i agweddau diogelwch systemau sy'n cael effaith ar yr holl randdeiliaid mewnol ac allanol ac sy'n cael effaith uniongyrchol ar y cyhoedd (a gwneud penderfyniadau amdanynt).
•Bod yn gyfrifol am sefydlu a chadw polisïau y wal dân fewnol ac allanol.
•Cyfrifoldeb am y gwasanaeth hidlo'r defnydd o'r we.
•Datblygu a chynnal amcanion, strategaeth a pholisi diogelwch y system.
•Sicrhau bod cynlluniau, polisïau a strategaethau o'r fath yn cael eu cytuno â rhanddeiliaid perthnasol.
•Sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol yn cael eu diweddaru pan wneir newidiadau.
•Cyd-gysylltu ag unigolion/cyrff allanol i ddatrys materion cymhleth.
Prif ddyletswyddau
Gwneud penderfyniadau, trefniadaeth ac arloesi:
•Adolygu cydymffurfiaeth â safonau Seiberddiogelwch yn rhagweithiol.
•Ymateb i ddigwyddiadau diogelwch TG, ymchwilio a dadansoddi, dogfennu ac adrodd, gan gynnwys argymhellion gwella.
•Monitro ynglŷn â thorri diogelwch, ymosodiadau neu weithgareddau anarferol, gan gynnwys adnabod cam-drin unrhyw ganiatâd ac ati.
•Nodi syniadau ac effeithlonrwydd newydd ynghylch sut y gall Traffig Cymru greu gwelliannau effeithlonrwydd, gwella'r gwasanaethau a ddarperir i randdeiliaid eraill neu greu cyfleoedd newydd o fewn y Tîm Isadeiledd Cyfathrebu a Systemau Traffig ac o fewn prosiectau cyfredol ac ar draws y sefydliad.
•Rhoi mewnbwn i'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch dewis cyflenwyr a chynhyrchion.
•Rheoli eich llwyth gwaith cymhleth a thechnegol iawn eich hun i gyrraedd y targedau.
•Gallu cyflawni tasgau lluosog ar yr un pryd.
•Yn gallu taro cydbwysedd rhwng gofynion cyflawni gwaith prosiect a gwaith cymorth pwysau uchel a gwaith cymorth ad-hoc i sicrhau eu bod yn parhau i fod ar gael i'r Tîm Isadeiledd Cyfathrebu a Systemau Traffig.
•Arwain ar bolisïau a gweithdrefnau, y bydd yn ofynnol iddo/iddi eu dogfennu.
•Rhoi mewnbwn i'r broses gynllunio busnes.
•Cyfrannu tuag at sicrhau bod targedau perfformiad a mesuriadau gwella yn cael eu cyflawni neu y rhagorir arnynt.
Cyfathrebu:
•Sgiliau cyfathrebu rhagorol i gyfathrebu â rhanddeiliaid amrywiol.
•Ysgrifennu adroddiadau ar gyfer rhanddeiliaid ar berfformiad Seiberddiogelwch.
•Paratoi cyflwyniadau a'u cyflwyno i gynulleidfa amrywiol o wahanol randdeiliaid yn ôl yr angen.
•Gweithio'n rhagweithiol gyda gwahanol aelodau o'r tîm llif gwaith a rhanddeiliaid perthnasol eraill ar draws y sefydliad ac endidau / cwmnïau allanol i sicrhau bod gofynion Seiberddiogelwch yn cael eu diffinio'n briodol a sicrhau cydymffurfiaeth.
•Dogfennu gofynion rhanddeiliaid yn glir trwy gysylltu â defnyddwyr mewn cyfarfodydd a gweithdai.
•Datblygu ac adolygu manylebau cysyniadol a thechnegol.
•Paratoi a chyflwyno hyfforddiant i'r defnyddwyr.
•Cynrychioli'r adran yn allanol ac mewn cyfarfodydd â rhanddeiliaid eraill.
•Darparu cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr ac uwch reolwyr.
Arall:
•Gallu datrys problemau ar sawl lefel.
•Gwneud awgrymiadau i ddatrys materion cymhleth a thechnegol.
•Gall fod yn ymgynghorydd i'r sefydliad i wella cymwysiadau a datblygu rhai newydd.
•Gweithio ar sawl tasg ar yr un pryd.
•Yn gyfrifol am nodi risgiau yn unol ag ISO/27001 a sicrhau bod cyfrifoldeb yn cael ei gymryd amdanynt.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodwyd yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a pholisïau iechyd a diogelwch cyfatebol.
•Gweithredu y tu mewn i bolisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â chanllawiau rheoli gwybodaeth y sefydliad. Sicrhau yr ymdrinnir â gwybodaeth bersonol mewn modd sy’n cydymffurfio â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon, ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl troed carbon y sefydliad.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall rhesymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am unrhyw bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau arbennig
•Gan fod Traffig Cymru yn gweithredu ar sail 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, bydd angen gweithio oriau a phenwythnosau anghymdeithasol o bryd i'w gilydd, gyda thaliad yn cael ei ddarparu yn unol â'r telerau ac amodau cyflogaeth.
•Bydd galwadau brys yn destun trafodaeth benodol.