Nodweddion personol
Hanfodol
Bod yn berson sensitif, ymroddedig gonest a dibynadwy gyda’r gallu i weithredu mewn modd sy’n parchu hawliau’r unigolyn bob amser.
Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dîm.
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
QCF 2/CGC 2 Gofal (neu gymhwyster cyfatebol) neu ymrwymiad i gymhwyso o fewn amserlen benodedig
Dymunol
Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin, gymorth cyntaf
Hyfforddiant perthnasol yn y maes gofal cymdeithasol
Profiad perthnasol
Hanfodol
-
Dymunol
Profiad o ofalu neu ymwneud ag oedolion bregus.
Profiad o waith domestig cyffredinol megis cadw tŷ
Profiad o weithio mewn tîm proffesiynol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Meddu a’r sgiliau rhyngbersonol da
Sgiliau cyfathrebu da
Dealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal
Dymunol
Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd penodol
Ymwybyddiaeth o Ddeddf Gofal 2000 a dealltwriaeth o’r safonnau perthnasol
Meddu ar drwydded yrru ddilys.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).