Swyddi ar lein
Swyddog Cefnogol Hwb Menter (Cyfnod Mamolaeth)
£25,704 - £29,988 y flwyddyn
- Cyfeirnod personel:
- 25-28614
- Teitl swydd:
- Swyddog Cefnogol Hwb Menter (Cyfnod Mamolaeth)
- Adran:
- Swyddi cyffredinol
- Gwasanaeth:
- Swyddi cyffredinol
- Dyddiad cau:
- 28/07/2025 01:00
- Cyflog:
- £25,704 - £29,988 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- M-Sparc, Gaerwen / Hybrid / Teithio i amrywaieth o leoliadau ar draws Gwynedd ac Ynys Môn
Manylion
Hysbyseb Swydd
Swyddog Cefnogol Hwb Menter (Cyfnod Mamolaeth)
Lleoliad:M-Sparc, Gaerwen / Hybrid / Teithio i amrywaieth o leoliadau ar draws Gwynedd ac Ynys Môn
- Yn Adrodd i: Rheolwr Hwb Menter
- Yn Gyfrifol am: Neb
- Ystod Cyflog: £25,704.22 - £29,988.90
- Diben y Swydd: Cefnogi Rheolwr yr Hwb Menter gyda cyfrifoldebau gweinyddol, cyfathrebu a monitro
Cyfrifoldebau
Cyfathrebu â Cleientiaid: Bod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad cymorth busnes dros y ffôn ac e-bost. Asesu anghenion cymorth cleientiaid a gwneud trefniadau fel y bo'n briodol ar gyfer cymorth dilynol.
Cefnogi Prosiectau: Cefnogi prosiect Hwb Menter yn ei weithgareddau o ddydd i ddydd, gan gynorthwyo i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflawni ar amser, i safon uchel.
Cydymffurfiaeth prosiect: Gweithio gyda’r Rheolwr a’r tîm prosiect ehangach i weinyddu’r prosiect, a sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r holl reolau e.e. caffael, cyhoeddusrwydd, casglu tystiolaeth.
Monitro prosiect: Sefydlu a chynnal system ffeilio i gasglu a chofnodi holl ddata angenrheidiol y prosiect. Cefnogi’r Rheolwr gyda monitro dyletswyddau adrodd y cynllun, i gynnwys ariannol a dangosyddion perfformiad fel bo angen.
Adrodd Prosiect: Cynorthwyo i gasglu holl wybodaeth angenrheidiol ar gyfer hawliadau misol i Lywodraeth Cymru. Sicrhau cymryd cofnodion cywir.
Hwyluso Grantiau: Cynorthwyo i hwyluso grantiau cychwyn / datblygu busnes, gan gynnwys trefnu paneli asesu, olrhain cyllid a chyfathrebu canlyniadau â chleientiaid.
Trefnu Digwyddiadau: Cynorthwyo gyda trefnu a chydlynu digwyddiadau ar draws y ddwy Sir gan gynnwys: cyfarfodydd mewnol, digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned, digwyddiadau i aelodau’r Hwb yn ogystal ag ymgysylltu gyda rhanddeiliaid.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth: Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth trwy'r cymorth busnes a ddarperir er mwyn darparu gwasanaeth cynhwysol i bob cleient.
Arall: Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall resymol sy’n cyfateb â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Sgiliau/Profiad
Hanfodol:
• Profiad o ddelio gyda’r cyhoedd, busnesau ac amryw o rhanddeiliaid yn defnyddio amrywiaeth o ffynhonellau cyfathrebu.
• Profiad o ddelio gyda chofnodion a dyletswyddau gweinyddol.
• Profiad o gydymffurfiaeth o fewn Rhaglenni wedi’i ariannu gan y Llywodraeth
• Profiad o drefnu digwyddiadau a recriwtio mynychwyr.
• Sgiliau TGaCH dda, yn benodol phecyn ‘Microsoft Office’.
• Y gallu i ddatblygu, meithrin a chynnal perthnasau gweithio da gyda rhanddeiliaid, busnesau, cynrychiolwyr cymunedau a gyda’r Llywodraeth ar bob lefel.
Dymunol:
• Gwybodaeth rhesymol o Ogledd Orllewin Cymru.
• Gwybodaeth rhesymol o sefydliadau rhanbarthol a chenedlaethol sy'n ymwneud â darparu gwasanaethau Cefnogi Busnes, e.e. Busnes Cymru
• Gwybodaeth rhesymol o wahanol grwpiau, sefydliadau a rhwydweithiau sy'n ymwneud â gweithgarwch economaidd cymdeithasol yn y rhanbarth.
• Gwybodaeth am drefnu digwyddiadau.
• Gwybodaeth am waith hyrwyddo.
Cymwysterau
Hanfodol:
- CGC (NVQ) lefel 3 neu uwch
Dymunol:
- Gradd / NVQ4 / Cymhwyster SFEDI
- Cymhwyster sgiliau Swyddfa / TGaCH
Nodweddion
Mae'r rhain yn disgrifio'r nodweddion yr ydym yn eu disgwyl gan unigolyn yn y swydd hon.
• Chwaraewr Tîm
• Trefnus
• Agos-atoch
• Dibynadwy
• Manwl a Chywir
Arall
- Trwydded yrru DU lawn a mynediad i gar
- Y gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg (Lefel 5 ar y canllawiau iaith)
- Parodrwydd i deithio
- Parodrwydd i weithio tu allan i oriau gweitio cyffredin (unai yn M-SParc neu'r lleoliadau lloeren)
Dyddiad cau : 1pm 28/07/2025
Am fwy o wybodaeth : cysylltu gyda Sara Roberts, Rheolwr Hwb Menter
I ymgeisio : Menter Môn - Swyddi