Pwrpas y Swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Swydd dymhorol 3 mis sy'n cynnwys glanhau strydoedd, ffyrdd a mannau agored yn ogystal â gweithredu cerbydau cysylltiedig.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
• Cyfrifol am gerbydau a pheiriannau sy'n berthnasol i'r gwasanaeth.
Prif Ddyletswyddau
• Glanhau strydoedd, ffyrdd a thiroedd agored yn ogystal â gwagio biniau cyhoeddus a chasglu gwastraff tipio anghyfreithlon yn unol â rhaglenni gwaith, cyfarwyddiadau a pholisïau perthnasol.
Tasg
• Gwagio gwastraff ac ysgubo strydoedd, ffyrdd, meysydd chwarae a mynwentydd ac unrhyw leoliad arall yn ôl cyfarwyddyd y Rheolwr Llinell.
• Gwagio cyfres o finiau stryd, biniau baw cŵn, biniau amlbwrpas a biniau ailgylchu yn unol â'r rhaglen.
• Ymdrin â nodwyddau hypodermig, anifeiliaid wedi’i lladd ar y ffordd, glanhau baw anifeiliaid, baw dynol ac ati.
• Cynorthwyo gyda chlirio eitemau a dipiwyd yn anghyfreithlon.
• Gweithio o fewn yr amseroedd a bennir gan y cyflogwr i sicrhau bod y gwasanaeth mwyaf effeithiol ac effeithlon yn cael ei ddarparu i drigolion y sir.
• Bod yn hyblyg i weithio ledled y sir yn ôl yr angen.
• Chwynnu yn ôl yr angen.
• Gweithio mewn ardaloedd trefol a gwledig ym mhob tywydd.
• Defnyddio unrhyw offer a ddarperir gan y Gwasanaeth i gynorthwyo gyda'r glanhau o ddydd i ddydd.
• Sicrhau bod lefelau glanweithdra perthnasol yn cael eu dilyn i fodloni safonau derbyniol i archwiliadau glendid allanol a gynhelir drwy gydol y flwyddyn.
• Mynychu unrhyw hyfforddiant perthnasol a ddarperir gan y gwasanaeth.
• Defnyddio unrhyw systemau technoleg gwybodaeth a allai gael eu cyflwyno gan y gwasanaeth i gynorthwyo gyda darparu gwasanaethau, adrodd ac ati.
• Cynorthwyo i symud y gwasanaeth ymlaen trwy gynnig awgrymiadau ar gyfer gwella, dylunio a gweithredu cylchdeithiau glanhau strydoedd/gwagio biniau, gan gyfrannu at gynnwys asesiadau risg ac ati.
• Cwblhau gwaith gweinyddol sy'n gysylltiedig â'r swydd e.e. taflenni gwaith dyddiol, adroddiadau rhwydwaith, nodiadau trosglwyddo gwastraff ac ati.
• Gwagio cerbydau yn un o gyfleusterau trin gwastraff y Cyngor, neu un a weithredir gan gwmni allanol, gan ddefnyddio'r mecanwaith 'tipio', a sicrhau bod y cerbyd yn gadael y safle'n lân.
Iechyd a Diogelwch
• Cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch eich hun, eich cydweithwyr ac aelodau'r cyhoedd.
• Gweithio yn unol â gweithdrefnau rheoli yn ddiogel, asesiadau risg, polisïau'r Cyngor a chadw at y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch priodol.
• Gwisgo siacedi gwelededd uchel llachar, trowsus balistig, esgidiau diogelwch ac unrhyw ddillad diogelwch neu wisg berthnasol.
• Cymryd rhan mewn archwiliadau Iechyd a Diogelwch, BSI ac ati a dangos ymwybyddiaeth o'r risgiau a chydymffurfiaeth.
• Adrodd a chynorthwyo gyda chwblhau adroddiadau damweiniau / digwyddiadau treisgar (ffurflenni HS11) yn ogystal â ffurflenni yswiriant.
• Cydymffurfio â rheolau, rheoliadau a chyfarwyddiadau penodol mewn safleoedd trosglwyddo gwastraff.
• Mynychu Asesiadau Gwyliadwriaeth Iechyd y Cyngor yn ôl yr angen.
Cerbyd a Gyrru
• Gyrru cerbydau Categori B (hyd at 3.5T) e.e. cerbydau masnachol ysgafn.
• Cynnal gwiriadau dyddiol ar unrhyw gerbyd bob bore i sicrhau ei fod yn ddiogel bod ar y ffordd.
• Cofnodi pob gwiriad ac adrodd am unrhyw ddiffygion.
• Cynnal a chadw arferol gan gynnwys gwirio lefelau olew a dŵr y cerbyd.
• Sicrhau bod y cerbyd yn cael ei gadw'n lân.
• Gyrru unrhyw gerbyd a ddarperir gan y Gwasanaeth mewn modd diogel a chwrtais yn unol â chyfyngiadau cyflymder ffyrdd ac o fewn gofynion y gyfraith.
• Cynnal asesiad risg deinamig o ran glanhau neu wagio gwastraff a phenderfynu ar y lleoliad mwyaf diogel i leoli'r cerbyd ar y ffordd tra bod y gwaith yn digwydd.
Gofal Cwsmeriaid
• Sicrhau'r lefel uchaf bosibl o ofal cwsmer.
• Cysylltu'n hyderus ac yn frwdfrydig ag aelodau'r cyhoedd a busnesau.
Adrodd a Chydymffurfiaeth
• Ar ddiwedd y diwrnod gwaith, adrodd i'r arweinydd tîm am unrhyw faterion neu broblemau casglu sydd wedi codi.
• Cydymffurfio â'r holl bolisïau a gweithdrefnau mewnol ynghylch adrodd salwch a cheisiadau am wyliau blynyddol.
Corfforaethol
• Cyfrifoldeb dros hunanddatblygiad.
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor mewn perthynas â chyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb dros reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd gyfwerth a rhesymol arall sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i roi gwybod am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn agored i niwed yn cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Mae'r gwasanaeth Glanhau Strydoedd yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos, rhwng oriau 05:00 a 16:00.
• Bydd deiliad y swydd wedi'i amserlennu i weithio o ddydd Mercher i ddydd Sul, gan gynnwys penwythnosau.
• Efallai y bydd angen i weithio goramser yn achlysurol wrth i anghenion gweithredol godi.
• Rhaid i ddeiliad y swydd fod ar gael i gynorthwyo y tu allan i oriau gwaith arferol mewn argyfwng.
• Rhaid trefnu diwrnodau gwyliau blynyddol ar ôl ymgynghori â'r rheolwr llinell.
• Bydd yr wythnos waith cyfartalog yn 37 awr.
• Swydd dros dro am gyfnod o dri mis yw hon, gyda'r posibilrwydd o estyniad yn amodol ar ofynion y gwasanaeth.