Nodweddion personol
Hanfodol
•Brwdfrydedd, egni, dyfalbarhad a'r ewyllys i ddatrys problemau.
•Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg.
•Yn meddu ar hunan-ysgogiad.
•Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu'n effeithiol.
•Gallu i dynnu grwpiau ac unigolion i gydweithio.
•Personoliaeth ddiplomataidd a chroesawgar.
•Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dim.
•Defnydd o Gar .
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
•Cymhwyster sydd yn cyfateb i NVQ lefel 4 neu’n uwch
Dymunol
•Gradd neu gymhwyster cyfwerth mewn pwnc sy’n berthnasol i anghenion y swydd
•Cymhwyster ECDL neu gynhwyster cyfwerth yn nefnydd cyfrifiaduron
Profiad perthnasol
Hanfodol
•Profiad o gyfathrebu gydag unigolion a grwpiau ar lefel eang.
•Cefndir o weithio fel aelod o dîm, ac hefyd fel unigolyn heb oruchwyliaeth
•Profiad yn y maes Cefnogi pobl mewn cymunedau
•Profiad o ddatblygu cymunedol
Dymunol
•Profiad o ddatblygu a rheoli prosiectau.
•Profiad o dargedu grantiau o ffynonellau ariannol amrywiol.
•Profiad o hwyluso cydweithio
•Profiad o ddatblygu a gweithredu prosiectau adfywio.
•Profiad o drefnu gwasanaethau cymunedol.
•Profiad o weithio mewn Llywodraeth Leol
•Profiad yn y maes iechyd a lles
•Profiad o reoli mudiad gwirfoddol.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
•Sgiliau ysgogi eraill.
•Sgiliau arwain.
•Sgiliau cyhoeddus.
•Sgiliau cyfathrebu - yn llafar ac ysgrifenedig, yn y Gymraeg a'r Saesneg.
•Sgiliau perthnasol i allu delio gyda chwsmeriaid /pobl o bob oedran a chefndir.
•Sgiliau perthnasol ar gyfer paratoi strategaethau ac achosion am grantiau.
•Sgiliau rheoli prosiect, gan gynnwys rheolaeth ariannol.
•Dealltwriaeth o'r her sydd yn wynebu mentrau Cymunedol a grwpiau Cymunedol Gwynedd I fod yn darapru mwy o wasanaethau
•gwybodaeth eang am y maes cefnogi pobl, yn cynnwys yr agweddau unigedd, costau byw ayyb I sicrhau lles pobl Gwynedd.
•Sgiliau gweinyddol a chyfrifiadurol.
Dymunol
•Gwybodaeth am yr ardal ac amcanion Cyngor Gwynedd.
•Gwybodaeth am fethodoleg datblygu cymuned.
•Gwybodaeth am ganllawiau rhaglenni ariannol.
•Gwybodaeth am wasanaethau amrywiol Cyngor Gwynedd.
•Gwybodaeth am wasanaethau partneriaid Cyngor Gwynedd sy’n cefnogi pobl yn ein cymunedau.
•Dealltwriaeth am becynnau meddalwedd cyfrifiadurol Windows.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)