Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Rôl y Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd yw cynorthwyo’r dasg o fynd i’r afael â thangyflawni trwy weithio mewn partneriaeth â theuluoedd, rhieni, gofalwyr, disgyblion ac asiantaethau eraill lle bynnag y bo’n briodol. Y nod yw galluogi disgyblion, yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig, i gael mynediad llawn at gyfleoedd addysgol, a chefnogi teuluoedd i oresgyn y rhwystrau i waith dysgu ac i gymryd rhan ym mywyd yr ysgol ac ym mywyd eu cymunedau.
•Bydd gwaith y Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd yn canolbwyntio ar weithgareddau ataliol ac ymyriadau cynnar. Bydd yn gweithio gyda’r rhai sy’n meddu ar anghenion islaw’r trothwyon hynny sy’n ysgogi sylw’r gwasanaethau statudol. Bydd ei ffocws allweddol ar gydlynu gwasanaethau ac ar ddatblygu model integredig â phartneriaid a fydd yn canolbwyntio ar ysgolion.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Gliniadur
•Ffon symudol
Prif ddyletswyddau
•Gweithio gyda Swyddogion Cyswllt Teulu o fewn ysgolion unigol, gan gynnwys y cyfnodau pontio allweddol, er mwyn nodi’r teuluoedd hynny sy’n anodd eu cyrraedd a’r rhai sy’n ymddieithrio o’r system addysg neu o dan anfantais oherwydd tlodi.
•Cynnal cyfarfodydd â phartneriaid i integreiddio dulliau ar draws ffiniau sefydliadol a chefnogi partneriaid, er mwyn gwella ymgysylltiadau a deilliannau i deuluoedd.
•Cynrychioli ysgolion fel rhan o’r dull partneriaeth a chynnal darlun cywir o gynnydd teuluoedd fel pwynt cyswllt canolog, gan gydgysylltu ag asiantaethau a swyddogion ymroddedig sy’n ymgysylltu â theuluoedd, e.e. Swyddog Cyswllt Teulu, Gweithiwr Allweddol, Gweithiwr Arweiniol.
•Datblygu a rhannu dulliau gweithredu dros amser er mwyn sicrhau bod ysgolion ac ymyriadau partner allanol yn cydgysylltu’u negeseuon i deuluoedd, a’u bod yn cael eu defnyddio.
•Gweithio gyda phartneriaid i ganfod effeithiau’r ymyriadau a dderbyniwyd gan deuluoedd/pobl ifanc unigol trwy ddatblygu a rhannu’r dulliau a ddefnyddir i’w mesur.
Gwybodaeth am y maes rhianta a chefnogaeth
•Deall hawliau a chyfrifoldebau sylfaenol rhieni i fagu eu plant, a chefnogi rhieni trwy eu helpu i wella’u sgiliau rhianta, e.e. trwy ddarparu gwybodaeth briodol neu atgyfeiriadau i ystod eang o wasanaethau yn y gymuned.
•Gweithio gyda Swyddogion Cyswllt Teulu mewn ysgolion i nodi cymorth yn y gymuned ar gyfer rhieni sydd â phlant ag arwyddion cynnar o broblemau cymdeithasol ac emosiynol neu broblemau’n ymwneud â’u hiechyd neu’u hymddygiad, a gweithio gydag asiantaethau cymorth i atal problemau rhag gwaethygu a rhag llesteirio gallu’r plentyn i ymgysylltu â’r ysgol a’i waith dysgu.
•Darparu gwybodaeth ddiduedd neu atgyfeiriadau i rieni am wasanaethau lleol perthnasol sydd ar gael i rieni, plant a theuluoedd gan gynnwys y rhai a ddarperir gan sefydliadau addysg, gofal cymdeithasol, cyfiawnder ieuenctid, darparwyr gofal plant, y sector gwirfoddol ac eraill.
•Gweithio mewn partneriaeth â’r Rheolwr Ysgolion Bro i ganfod ffyrdd o gefnogi rhieni i feithrin eu hymgysylltiad â gwaith dysgu’u plant
•Cefnogi rhieni a’u plant yn ystod cyfnodau pontio i sicrhau eu bod yn ymgysylltu’n barhaus â’u gwaith dysgu.
•Sicrhau bod rhieni’n teimlo’n hyderus i ymgysylltu â gwaith dysgu’u plant trwy hwyluso a threfnu cyfleoedd dysgu teuluol o fewn y gymuned megis Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY) a Dosbarthiadau Hyfedredd Cyfrifiadurol mewn partneriaeth â darparwyr lleol.
•Cynnal ymweliadau cartref lle bo’n briodol i gefnogi rhieni wrth iddynt annog eu plant i barhau â’u gwaith dysgu ar sail gyflawn a rheolaidd.
Adrodd
•Cadw cofnodion a’r holl ddogfennau sy’n ymwneud â chyfarfodydd/cyswllt â phlant a phobl ifanc a’u teuluoedd.
•Gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Ysgolion Bro i sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw’n dda a bod gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn modd amserol. Cyswllt ag asiantaethau eraill
•Cymryd rhan mewn gweithgorau mewnol a thrawssefydliadol fel y bo’n briodol ar gyfer cyfnewid gwybodaeth ac arferion gorau.
•Mynychu’r cyfryw gyfarfodydd yn ôl y gofyn i wella presenoldeb fwy fyth a helpu i hysbysu gwasanaethau eraill, neu ddatblygu’r rôl ymhellach.
•Cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ystod o asiantaethau lleol er mwyn cynnal gwybodaeth am wasanaethau y gellid cyfeirio rhieni atynt.
•
Cyfathrebiadau/cyfryngau cymdeithasol
•Gweithio gyda’r Rheolwr Ysgolion Bro i ddatblygu a chynnal cynnwys y cyfryngau cymdeithasol i sicrhau ei fod bob amser yn gyfredol, yn gynhwysfawr, yn gyfoes ac yn canolbwyntio ar amlygu’r ethos cymunedol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-