Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•Arwain a goruchwylio’r broses adennill er sicrwydd adfer effeithiol ac effeithlon yn unol ag amcan/nod yr uned.
•Cynrychioli’r Cyngor yn y llysoedd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Arwain a chynghori y tîm adennill ar holl agweddau’r gwaith.
•Sicrhau y defnydd gorau o drefniadau cyffredinol adennill eraill fel yn briodol.
Prif ddyletswyddau
•Cynnal gwaith dydd i ddydd y gwasanaeth adennill ar gyfer yr holl ddyledion sydd yn ddyledus i’r Cyngor gan gynnwys treth cyngor, trethi annomestig, ardaloedd gwella busnes, dyledion cyffredinol ac unrhyw ddyledion eraill.
•Sicrhau gweithrediad yn unol â pholisïau a thargedau adennill yr uned, gwasanaeth, adran a’r Cyngor.
•Rhedeg rhaglen adennill llysoedd o derfyn hawl unigolyn/cwmni i dalu mewn rhandaliadau.
•Darparu cefnogaeth arbenigol i’r cymorthyddion ar faterion cymhleth.
•Sicrhau y darperir achosion llys ar gyfer cais am Orchymyn Dyled mewn da bryd, gan ddefnyddio adnoddau (cyfrifiaduron, meddalwedd, “stationery”) i sicrhau gwneud cwyn yn unol â’r gyfraith.
•Delio gyda ymholiadau a gwrthwynebiadau gan y cyhoedd i gais y Cyngor cyn dyddiad y Llys.
•Mynychu llys yr ynadon i drafod opsiynau gyda’r trethdalwyr/dyledwyr fel y gellir canfod ffordd ymlaen heb orfod cynnal y gwrandawiad.
•Ymgymryd â’r achos gerbron yr Ynadon gan sicrhau fod enw da y Cyngor yn cael ei warchod.
•Trefnu fod cofnodion priodol o ddigwyddiadau’r Llys yn cael eu cadw a fod cofnod o’r Gorchmynion yn cael eu rhestru gyda’r Clerc.
•Darparu ac anfon llythyrau Rhybudd o Orchmynion Dyled ac yna didol y gwaith adennill yn ôl y dull adennill mwyaf priodol; cytundeb, didyniadau o gymhorthdal incwm, didyniadau o gyflog, ayyb
•Mewn achosion lle na ellir adennill y ddyled drwy ‘gytundeb’, trefnu i asiantaeth allanol (beili) gasglu’r ddyled, a sicrhau bod hynny yn digwydd cyn gynted â phosib ar ôl y gwrandawiad Llys. Cydlynu y gwaith o ddydd i ddydd sydd yn mynd i’r asiantaethau allanol ac yna ymwneud â’r gwaith papur ddaw yn ôl.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Y Ddeddf Gwarchod Data, Rhyddid Gwybodaeth a Hawliau Dynol a chydlynu â’r Gwasanaeth Cyfreithiol yn ôl y gofyn.
•Ystyried a gweithredu ar opsiynau “anarferol” o adfer megis ‘charging orders’, achos methdal ayyb.
•Ar y cyd â’r Rheolwr, cynnal côd ymarfer ar y gwaith gyda asiantaethau allanol a gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor e.e CAB/ Cwmniau beili/Shelter/ gwasanaeth tai gan fonitro a gwerthuso y gwaith yn ôl y côd.
•Cynnal cyfarfodydd rheolaidd a chyd weithio yn agos gyda’r asiantaethau allanol.
•Creu a chadw bas data o ddyledwyr sydd yn fethdalwyr, gan gadw cofnod manwl o unrhyw symiau i gael eu cynnwys yn yr achos methdal.
•Paratoi adroddiadau rheolaidd o gyfrifon / dyledion na ellir eu hadennill ar gyfer eu dileu a’u hanfon i’w cymeradwyo yn briodol.
•Cyfrannu tuag at lunio cynllun gwasanaeth yn y maes adennill ac i sicrhau datblygu a gweithredu’r Cynllun Gwella’r Gwasanaeth yn ôl y gofyn.
•Cysoni taliadau a dderbynnir gan sicrhau eu bod yn cyrraedd y cyfrifon cywir.
•Cynnal ymchwiliadau credyd ar ran y gwasanaeth trethi a’r gwasanaeth grantiau yn yr Adran Tai.
•Adnabod unrhyw wendidau yn y modd y mae’r cymorthyddion yn delio â’r ochr adennill a gweithio ar y cyd ac eraill o fewn y gwasanaethau i ddatblygu gweithdrefnau a chanllawiau gweithredu i’w goroesi.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin.
Amgylchiadau arbennig
•Gofynnir i ddeilydd y swydd gwblhau prawf DBS llwyddiannus.
•Oherwydd yr angen am wybodaeth systemol neilltuol ar wahanol gyfnodau allweddol yn y flwyddyn ariannol disgwylir gweithio orau anghymdeithasol yn achlysurol.