Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Gweithredu o fewn y broses Trethi o ddydd i ddydd i sicrhau cyfrifoldeb am eithriadau, disgowntiau a thaliadau cywir.
•Bydd cyfuniad o waith swyddfa gefn a’r rheng flaen, a bydd disgwyl i’r swyddog gyfrannu tuag at y drefn o sicrhau presenoldeb nifer digonol o swyddogion yn ystod oriau agor swyddogol y Cyngor.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•-
Prif ddyletswyddau
•Delio â ymholiadau cyffredinol a phrosesu ceisiadau am wasanaeth a dderbynnir dros y ffôn.
•Rhoi cyngor ar hawliau y cyhoedd yn y maes trethi a’u cynghori ar sut i fynd o gwmpas eu hawlio.
•Sicrhau bod y cwsmer yn derbyn biliau wedi eu addasu yn gywir yn dilyn hysbysiadau o unrhyw newid mewn amgylchiadau.
•Delio ag ymholiadau cyffredinol a phrosesu ceisiadau am wasanaeth a dderbynnir ar e-bost/ trwy ffurflen electronig neu ar bapur gan ymateb ar ffurf llythyr neu e-bost. (Angen sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig cadarn).
•Delio â chwynion gan y cyhoedd gan gyfeirio rhai fwy cymhleth / cynhennus i’r Arweinydd Tîm Trethi.
•Derbyn a phrosesu taliadau dros y ffôn.
•Derbyn a phrosesu ceisiadau i dalu trwy drefniant debyd uniongyrchol.
•Trefnu ad-daliadau amserol ar gyfer unrhyw ordaliadau.
•Ceisio olrhain trethdalwyr sydd ac ôl ddyled ac wedi symud allan heb ein hysbysu o’u cyfeiriad newydd.
•Sicrhau ei bod yn cadw cofnod clir a chryno o pob cyswllt â’r cwsmer fel bo tystiolaeth o’r broses ddilynwyd petai angen mynd ac achosion i dribiwnlys.
•Prosesu ceisiadau am ostyngiadau / eithriadau gan gasglu tystiolaeth o’r hawl.
•Defnyddio aml systemau (mewnol ac allanol) i geisio sicrhau nad yw’r cwsmer yn ein twyllo o ran eu hamgylchiadau.
•Cytuno ar drefniadau talu pan fo gan y cwsmer ôl ddyled.
•Cynorthwyo y swyddogion adennill yn ôl yr angen.
•Prosesu canlyniadau adolygiadau systemol
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Gofynnir i ddeilydd y swydd gwblhau prawf DBS llwyddiannus.
•Oherwydd yr angen am wybodaeth systemol neilltuol ar wahanol gyfnodau allweddol yn y flwyddyn ariannol disgwylir gweithio oriau anghymdeithasol yn achlysurol.