Swyddi ar lein
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
£38,843 - £48,175 y flwyddyn
- Cyfeirnod personel:
- 25-28578
- Teitl swydd:
- Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
- Adran:
- Swyddi cyffredinol
- Gwasanaeth:
- Swyddi cyffredinol
- Dyddiad cau:
- 22/07/2025 12:00
- Cyflog:
- £38,843 - £48,175 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Ynys Mon
Manylion
Hysbyseb Swydd
Cyflogwr: Menter Môn
Teitl y Swydd: Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Cytundeb: Dros dro (12 mis)
Oriau : Llawn amser (fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth i geisiadau i weithio'n rhan-amser)
Cyflog : £38,843.23 - £48,175.00 + pensiwn buddion diffiniedig.
Dyddiad cau : 12pm 22/07/2025
Cyfweliad : 31/07/2025
Am fwy o wybodaeth : cysylltu gyda Sioned Morgan Thomas (Cyfarwyddwr Corfforaethol) ar 07538 129 890
I ymgeisio : Menter Môn - iMenter Môn - Swyddi
Teitl y Swydd:
Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu
Lleoliad:
Hybrid
(Cartref / Swyddfa – lleoliad y brif swyddfa yw Llangefni)
Band Cyflog:
£38,843.23 - £48,175.00 (Rheolaethol) +
pensiwn buddion diffiniedig.
Atebol i:
Cyfarwyddwr Corfforaethol
Yn gyfrifol am:
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Hyd y Contract:
12 mis gyda'r posibilrwydd o ymestyn.
Oriau: Llawn amser (37 awr yr wythnos), fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth i geisiadau i weithio'n rhan-amser (ar sail pro rata).
Pwrpas y Rôl:
Yn gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a goruchwylio cynlluniau marchnata a chyfathrebu strategol i gefnogi brand, nodau ac amcanion Menter Môn yn fewnol
ac ymhlith rhanddeiliaid allanol.
Cyfrifoldebau
Cynllunio Strategol:
Datblygu a gweithredu strategaethau marchnata a chyfathrebu.
Alinio gweithdrefnau marchnata gyda gweledigaeth / nodau busnes grwp Menter Môn.
Gweithio gyda'r Rheolwr Gyfarwyddwr ac Uwch Reolwyr i sicrhau bod negeseuon yn gyson, yn berthnasol ac yn effeithiol.
Rheoli Brand:
Goruchwylio defnydd a chysondeb brand Menter Môn ar draws holl sianeli cyfathrebu a phob phortffolio.
Cynnal ac esblygu canllawiau brand Menter Môn.
Creu a Rheoli Cynnwys:
Datblygu dealltwriaeth o'r holl weithgareddau prosiect, a chefnogi timau wrth ddatblygu cynnwys ar gyfer llwyfannau digidol, datganiadau i'r wasg,
cylchlythyrau a llyfrynnau.
Adnabod ac arwain ar straeon diddorol a pherthnasol.
Rheoli calendrau cynnwys ar draws pob platfform (cyfryngau cymdeithasol / gwefan ac ati).
Marchnata Digidol:
Gweithio gyda chontractwyr allanol i reoli cynnwys, dyluniad a pherfformiad ein gwefan.
Dadansoddi data analytig er mwyn uchafu ein hymdrechion marchnata digidol.
Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus:
Meithrin a rheoli perthnasau o fewn y cyfryngau.
Paratoi datganiadau i'r wasg a thrin ag ymholiadau'r cyfryngau.
Cydlynu cyfweliadau, digwyddiadau i'r wasg, ac ymddangosiadau cyhoeddus.
Archwilio ac arbrofi:
Mabwysiadu technegau arloesol i gyfathrebu negeseuon i wahanol gynulleidfaoedd. Disgwylir i'r deilydd swydd ddangos parodrwydd i roi cynnig ar
ddulliau newydd.
Rheoli Digwyddiadau:
Cefnogi a chydweithio â thimau wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau hyrwyddo, lansiadau cynnyrch, sioeau masnach, a gweminarau.
Cyfathrebu Mewnol:
Cefnogi ymgysylltu mewnol trwy ddiweddariadau digidol, cylchlythyrau a chyhoeddiadau i staff.
Alinio negeseuon mewnol â diwylliant ac amcanion y cwmni.
Arweinyddiaeth a Chydweithio:
Creu a rheoli perthnasoedd gyda'r holl staff – Cyfarwyddwyr, Rheolwyr, Swyddogion Prosiect a swyddogion cymorth.
Cydweithio a rheoli contractwyr allanol e.e. dylunio, cynhyrchu ffilmiau, rheoli digwyddiadau a chefnogaeth cyfathrebu cyffredinol.
Mynychu cyfarfod rheolwyr misol mewnol a chyfarfodydd strategol eraill lle bo hynny'n berthnasol.
Rheoli cyllidebau bach fel y cytunwyd â thimau prosiect.
Cynrychioli'r cwmni: Ymagwedd ragweithiol wrth ddatblygu perthnasoedd gyda rhanddeiliaid allanol i hyrwyddo'r cwmni a datblygu ei enw da yn lleol ac
yn genedlaethol.
Arall: Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol ac yn rhesymol gan reolwyr llinell a/neu'r Uwch Dîm Rheoli.
Sgiliau / Profiad Cymwysterau
Hanfodol:
Y gallu i gyfathrebu (ar lafar ac yn ysgrifenedig) i'r safon uchaf yn y
Gymraeg a'r Saesneg
Y gallu i reoli prosiectau lluosog a i derfyniadau amser.
Yn gallu i gydweithio yn effeithiol ag unigolion ar bob lefel o'r sefydliad,
tra'n herio syniadau yn hyderus pan fo angen.
Gwybodaeth a dealltwriaeth o dechnegau / meddalwedd marchnata a
dadansoddi.
Gwybodaeth o wahanol sianeli cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu
negeseuon penodol.
Profiad o ddatblygu a gweithredu cynlluniau cyfathrebu.
Profiad o ddefnyddio gwahanol ddulliau i greu cynnwys e.e. ffilmiau
byrion, podlediadau, ffeithluniau (ni ddisgwylir i ymgeiswyr fod â sgiliau
ar draws pob math o greu cynnwys)
Natur chwilfrydig ac awydd i ddysgu am holl weithgareddau Menter
Môn, o egni llanw i gadwraeth llygod dŵr.
Y gallu i fesur ymateb a chynnal tôn llais cyson ar draws pob
cyfathrebu.
Y gallu i arwain ar gyfathrebu ar draws y cwmni, a chyfarwyddo staff ar
bob lefel i sicrhau gweithrediad y cynllun cyfathrebu.
Dymunol:
Ymwybyddiaeth o weithgareddau Menter Môn ar draws gwahanol
sectorau.
Cyfarwydd â'r ardal a gyda'r gwahanol randdeiliaid.
Profiad arweinyddiaeth neu reoli tîm.
Hanfodol:
Addysgwyd hyd at
lefel gradd
Gradd neu
gymhwyster mewn
Marchnata,
Cyfathrebu,
Cysylltiadau
Cyhoeddus, neu faes
cysylltiedig.
Dymunol:
Cymwyster Arweinyddiaeth neu
Reoli Tîm
Perthynas sefydledig gyda gwahanol sefydliadau o fewn y wasg a'r
cyfryngau.
Nodweddion
Arall
Trwydded Yrru lawn yn y DU a
mynediad at gar eich hun
Ie
Dyma’r nodweddion rydyn ni'n eu disgwyl o’r unigolyn yn y rôl hon.
Trefnus
Arloesol
Ymrwymedig
Chwilfrydig
Parodrwydd i weithio y tu allan
i oriau gwaith arferol
Parodrwydd i deithio
Ie
Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg a
Saesneg
Ie
Ie