ADDYSG - ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD
Yn eisiau: Cyn gynted â phosib
Athro/awes Cynhwysiad Gwynedd
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i ymuno a thîm ymroddgar ac eginol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a’r sgiliau addas i gefnogi disgyblion ag anawsterau ymddygiadol ,cymdeithasol ac emosiynol.
Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio gyda disgyblion ar draws Gwynedd mewn ysgolion a chanolfannau. Byddai profiad o gefnogi disgyblion yn y maes cynhwysiad yn fanteisiol. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig i’r ymgeiswyr llwyddiannus.
Mae lleoliadau’r swydd yn amrywio oddi fewn Gwynedd a bydd gofyn i'r ymgeisydd deithio i ardaloedd eraill yn achlysurol.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon.
Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£32,433 - £49,944) ynghyd a lwfans anghenion addysgol arbennig (£2,585 - £5,098) y flwyddyn yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg ar Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon. Mae’r adran yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Am sgwrs anffurfiol a manylion pellach am y swydd gellir cysylltu â Deio Brunelli , Pennaeth Ganolfan Cyfeirio Disgyblion ar rif ffôn 01286 679007.
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.
DYDDIAD CAU: 10:00 y.b. Dydd Gwener, 11/07/25
Cyfweliadau i’w gynnal 16.07.2025.