Nodweddion personol
Hanfodol
Gallu blaenoriaethu gwaith fel bo’r angen, dangos blaengaredd ac yn cwrdd â therfynau amser penodol.
Gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Person sydd yn gallu cyflawni.
Gallu ysgogi eich hun, yn frwdfrydig ac yn ymrwymedig.
Sgiliau rhyngbersonol wedi’u datblygu’n dda.
Sgiliau datrys problemau.
Gallu i ddadansoddi gwybodaeth.
Person egnïol a phositif ei natur gyda disgwyliadau uchel.
Llygad am fanylder a chywirdeb.
Gonestrwydd, hunan hyder, pendant a hyblyg.
Gallu i dderbyn cyfrifoldebau ac i gyfathrebu’n effeithiol.
Dymunol
Sgiliau penderfynu a negodi.
Trwydded yrru gyfredol
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasol
Hanfodol
Addysg hyd at lefel TGAU (i gynnwys gradd C neu uwch mewn Cymraeg,
Mathemateg a Saesneg) neu gyfatebol.
Dymunol
Lefel A neu gyfatebol
Gradd
Cymwysterau yn y maes cyfrifiadurol/cyllid
Profiad perthnasol
Hanfodol
Deallusrwydd o systemau cyfrifiadurol perthnasol.
Wedi gweithio mewn swyddfa neu fan gwaith gyda phrofiad o ymdrin â staff.
Profiad mewn maes sy’n berthnasol i’r swydd.
Profiad o ddelio gyda chanllawiau ymarfer da, canllawiau / rheolau / safonau cenedlaethol a deddfwriaethau yn ymwneud â’r maes gwaith.
Dealltwriaeth a phrofiad o ddefnyddio systemau technoleg gwybodaeth arbenigol yn y maes gwaith.
Profiad o weithio yn effeithiol fel rhan o dîm.
Dymunol
Profiad o ddelio â phobl.
Profiad o gyd-gordio gwaith mewn modd trefnus.
Profiad o baratoi adroddiadau drwy’r defnydd o systemau technoleg gwybodaeth.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigol
Hanfodol
Deall sut i gydymffurfio gyda rheolau a Deddfau Diogelu Data a chynnig arweiniad.
Y gallu i awgrymu newidiadau a chynorthwyo mewn prosiectau yn y maes systemau er mwyn gwella’r gwasanaethau â gynigir.
Yn gwbl hyddysg am dechnoleg gwybodaeth perthnasol i’r swydd.
Sgiliau cyfathrebu da.
Gallu lefel uchel mewn technoleg gwybodaeth.
Dymunol
Dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddeddfwriaeth a rheoliadau Budd-daliadau a Trethiant lleol.
Sgiliau ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno da.
Anghenion ieithyddol
Gwrando a Siarad - Canolradd
Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy’n ymwneud â’r maes gwaith.Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â’r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Canolradd
Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith.Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi’r prif bwyntiau. ( Mae’n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Canolradd
Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).