ADDYSG
ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD
Dyddiad Cychwyn: Medi 1af,2025
Cymhorthydd Arbenigol Asesu ac Arsylwi Blynyddoedd Cynnar (ABC) Lefel 3
Cytundeb dros dro am flwyddyn
Lleoliad – Ysgolion a Chanolfannau ABC Gwynedd ac Ynys Mon yn bennaf Ardal Dwyfor / Canolfan ABC Dwyfor
Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol. Mi fydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am
Oriau gwaith: 30 awr yr wythnos
(39 wythnos y flwyddyn tymor ysgol gan gynnwys dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd).
Byddai profiad o weithio gyda disgyblion ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn fanteisiol ar gyfer y swydd yma. Byddai cymwysterau o fewn y maes ADYaCh hefyd yn fanteisiol.
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS4 pwyntiau 7 - 11 (sef £17,858 - £19,034) y flwyddyn, yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn angenrheidiol ar gyfer y swydd hon, ac Trwydded yrru llawn a mynediad at gar yn hanfodol.
Gellir ystyried secondiad gan ymgeiswyr addas. Pwysleisir yr angen i unrhyw ymgeisydd sydd dan gytundeb i sicrhau caniatâd Cadeirydd Llywodraethwyr ei ysgol bresennol cyn cyflwyno cais yn ffurfiol.
Gellir cael manylion pellach a/neu sgwrs anffurfiol am y swydd drwy gysylltu â Einir Rees Jones , Uwch Athrawes Arbenigol Gwasanaeth Asesu ac Arsylwi yn y Blynyddoedd Cynnar ar y rhif 01286 679007
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd.
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, dydd Mercher , Gorffennaf 9fed, 2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.