Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo mewn rheoli prosiectau, o dan arweiniad Uwch Ymgynghorwr Costau er mwyn sicrhau darpariaeth yn unol â gofynion penodol y briff a gafwyd gan y Cleient o ran cost, amser ac ansawdd.
•Datblygu arbenigedd personol mewn materion technegol.
•Defnyddio technegau a sustemau rheoli prosiect (e.e. PRINCE2, Llawlyfr Rheoli Prosiect y Cyngor ayyb) a fydd yn sicrhau bod yr Ymgynghoriaeth yn ymrwymo’n llawn i fodloni anghenion y Cwsmer o ran gwerth am arian tra’n gweithredu ar sail fasnachol ac yn addasu eu hun i weithredu’n effeithiol.
•Cynorthwyo mewn rheoli timau prosiect hyblyg, o fewn yr Uned a’r Gwasanaeth cyfan, bod yn rhan o a pharatoi cefnogaeth i aelodau’r tîm.
•Cynorthwyo mewn rheolaeth ariannol o brosiectau a chyflwyno adborth ariannol i’r Uwch Ymgynghorwr Costau ar faterion ynghylch prosiectau.
•Perfformio dyletswyddau Ymgynghorwr Costau ar brosiectau adeiladwaith o dan arweiniad Uwch Ymgynghorwr Costau neu Brif Ymgynghorwr Costau.
•Cynorthwyo i ddatrys materion cytundebol gyda chyrff megis contractwyr ac ymgynghorwyr.
•Bod yn ymwybodol o, a gweithredu ar, y gweithdrefnau newydd a gyflwynwyd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yn ogystal â datblygiadau cenedlaethol.
•Bod yn ymwybodol o holl fentrau’r Llywodraeth / yr Undeb Ewropeaidd a’u goblygiadau.
•Bodloni gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch a’r amgylchedd.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
Datblygu a chynnal gwybodaeth gyfredol ynghylch:-
•yr ymarfer gorau cyfredol mewn materion dylunio
•dulliau caffael ar gyfer prosiectau isadeiladwedd.
•safonau technegol a datblygiadau (gan gynnwys y systemau cyfrifiadurol mewn defnydd ar hyn o bryd), a
•cyfrifioldebau proffesiynol a statudol (gan gynnwys e.e. y rhai dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ayb, 1974, Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1982, Rheoliadau Cynefinoedd 1994 a Rheoliadau addas e.e. Rheoliadau CDM) a’u defnyddio mewn perthynas â’r gwaith a’r dyletswyddau.
•Rheoli staff iau.
•Dirprwyo ar ran yr uwch swyddog yn ei h/absenoldeb.
•Sicrhau fod yr Ymgynghoriaeth yn cyfarfod â gofynion y Cyngor a’r Gyfadran.
•Cynorthwyo mewn rheoli cyllid prosiectau a dychwelyd cardiau dyddiadur staff i’r swyddfa'r dydd Llun yn dilyn yr wythnos waith.
•Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn ymwybodol o ofynion Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd y Gyfadran i sicrhau bod yr Uned yn cydymffurfio gyda’r gofynion perthnasol.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
Prif ddyletswyddau
•Datblygu a chynnal perthynas broffesiynol ac ymarferol gyda’r prif gleientiaid, megis gwasanaethau eraill y Gyfadran, y Swyddfeydd Rhanbarth, Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol, Cyfadrannau eraill ac Awdurdodau eraill.
•Paratoi amcangyfrifon o gostau, cynnal asesiadau risg, cynllunio anghenion staff ar gyfer prosiectau, cynhyrchu rhaglenni a rhagolygon gwariant. Monitro’r cynnydd gwirioneddol yn erbyn y rhagolygon a chymryd y camau adferol angenrheidiol.
•Bod yn flaenweithgar wrth ddatblygu a monitro’r Cynllun Busnes er mwyn sicrhau perfformiad orau posibl yr uned a bod targedau allweddol yn cael eu cyflawni.
•Gweithredu fel y Goruchwyliwr ar waith adeiladu ar safleoedd fel bo angen ac ymgymryd â chyfrifoldebau a dyletswyddau dirprwyedig yn unol â hynny.
•Cynorthwyo mewn datblygu a chynnal dogfennau model contract.
•Cynorthwyo mewn rheoli prosiectau, o dan arweiniad Uwch Ymgynghorwr Costau a bod yn rheolwr prosiect ar gynlluniau cymharol fychain a syml.
•Ymgymryd â chasgliad data, ymchwiliadau rhagarweiniol, gweinyddol, ansawdd a threfniadau cyllidol ar gyfer gwaith a ymgymerir ar ran y Cleient.
•Sicrhau bod prosiectau yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth a rheoliadau Iechyd a Diogelwch ac amgylcheddol.
•Goruchwylio rheolaeth ariannol, weinyddol a thechnegol gwaith adeiladu, ymchwilio, asesu neu gynnal a wneir ar ran y Cleient. Cynorthwyo i ddatrys materion cytundebol ar ran cleientiaid.
•Datblygu arbenigedd mewn sustemau cyfrifiadurol a meddalwedd sy’n berthnasol a dylunio. Cysylltu gyda swyddog technoleg gwybodaeth y Gyfadran.
•Cydlynu gyda gwasanaethau eraill, cyfadrannau eraill, Aelodau’r Cyngor, ymgymerwyr statudol, awdurdodau eraill, sefydliadau allanol ac unigolion ynghylch pob agwedd o’r gwaith.
•Goruchwylio a rhoi arweiniad ar waith a datblygiad staff iau.
•Adrodd i, a derbyn cyfarwyddiadau gan uwch staff.
•Dyletswyddau gweinyddol a phroffesiynol eraill yn unol â statws y swydd.
•Rhestr ddangosol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod â rôl yn y broses o reoli a monitro perfformiad yn unol â gofynion y swydd ac ysgwyddo cyfrifoldebau eraill perthnasol i natur ac i raddfa’r swydd ar gais gan Bennaeth / Rheolwr y Gwasanaeth neu’r Cyfarwyddwr Strategol.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•Rheoli cyllid ei hun ar brosiectau
•Y gallu i weithio o dan bwysau. Y gallu i ysgogi staff i sicrhau llwyddiant yr Ymgynghoriaeth.
•Bydd gofyn gweithio y tu allan i oriau swyddfa gan gynhelir Ymchwiliadau Cyhoeddus, ymgynghoriadau, arddangosfeydd, cyfarfodydd y Cyngor neu pan elwir allan i achos argyfwng.