Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
•I ddarparu cymorth gweinyddol o safon uchel o fewn y Gwasanaeth Cefnogol.
•I fod yn ymrwymedig i ddarparu Gwasanaeth effeithlon ac effeithiol a chyfrannu tuag at alluogi’r Gwasanaeth gyflawni ei amcanion a’i nod.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif ddyletswyddau
•Ymdrin ag ymholiadau ddaw i law drwy ffôn ag ebyst yn broffesiynol ac yn gadarnhaol.
•Sicrhau dosbarthiad a gweithrediad priodol o brosesau post corfforaethol – yn cynnwys agor, didoli, tracio a dosbarthu ayb
•Cofnodi a phrosesu anfonebau.
•Gweithredu prosesau archebu ac anfonebu yn effeithlon, cywir a phriodol.
•Gweithredu prosesu cyllidol eraill e.e. Codi biliau (cyfrifon dyledwyr), cardiau credit yn gywir, effeithlon a phriodol.
•Sicrhau fod nwyddau/ gwasanaethau perthnasol yn cael eu caffael yn effeithlon ac effeithiol a bod y prosesau perthnasol yn cael eu dilyn e.e. nwyddau swyddfa, offer TG, ffonau symudol, offer/ dillad diogelwch, trefniadau teithio, gwestiau ayb.
•Prosesu ffurflenni amrywiol. Dyma rhai enghreifftiau yn unig - Ffurfleni Iechyd a Diogelwch HS11, Dyddiadur Client ayb
•Sicrhau gweithrediad prosesau a systemau cynhaliaeth staff. Dyma rhai enghreifftiau yn unig - Amserlenni, Costau Teithio, Benthyciadau Ceir, Tocynnau Parcio, Cardiau ID, Profion Llygaid, Cyfarwyddiadur Mewnol ayb.
•Gweithredu’r drefn profiad gwaith.
•Cynnal basau data.
•Gwneud gwaith ffeilio a thracio gohebiaeth, llungopio, ayb
•Trefnu cyfarfodydd yn ôl yr angen.
•Cynnal a datblygu systemau.
•Rhoi cymorth i gadw dyddiaduron yn ôl yr angen.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
-