Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Cynorthwyo a chefnogi'r gwasanaeth Gweinyddiaeth Adnoddau Dynol i roi gwasanaeth proffesiynol a sicrhau fod Cynllun Gwella yr Adran Adnoddau Dynol yn weithredol
•Sicrhau bod data System Swyddi Gwynedd yn gyfddyddiol gogyfer cywirdeb strwythur ar Hunanwasanaeth Staff.
•Cefnogi Uwch Reolwyr a Rheolwyr Gwasanaethau gyda defnyddio system Hunanwasanaeth staff a System Swyddi Gwynedd
•Datblygu Cynlluniau Gwaith ar gyfer modiwlau o fewn y system Hunanwasanaeth Staff
•Cyfrannu at pob elfen o’r system Hunanwasanaeth Profi modiwlau (e.e cofrestr staff sydd heb mynediad i cyfrifiadau’r Cyngor, Modiwl Slipiau Cyflog, Gwyliau, Amserlenni)
•Sicrhau ansawdd
•Prif gyswllt ar gyfer Modiwl Amserlenni, Gwyliau a Recriwtio a Phenodi
•Arwain ar elfennau e.e. Cefnogi a Mentora unigolion ar sut i ddefnyddio’r modiwlau o fewn system Hunanwasanaeth staff
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•-
Prif ddyletswyddau
•Byddwch yn rhan o dim sydd yn delio efo ymholiadau gan Bennaethiaid, Rheolwyr, Staff, Cyhoedd a sefydliadau allanol
•Angen rhoi sylw i fanylder ac yr gofyn i fod yn ofalus a thrylwr wrth mewnbynu data yn gywir i’r system swyddi Gwynedd.
•Gwirio, gweithredu a diweddaru data System Swyddi Gwynedd drwy fod yn gwneud ymholiadau gyda Gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y strwythur yn adrodd yn gywir (adroddiadau gweifeistr)
•Trefnu a darparu rhaglen hyfforddiant i rheolwyr ar sut i ddefnyddio System Swyddi Gwynedd
•Hyfforddi rheolwyr a staff ar fodiwlau ar Hunanwasanaeth Staff.
•Defnyddio arbenigedd i adnabod ac ymchwilio am datblygiadau parhaus
•Mynychu gweithgorau yr adran, neu weithgorau gyda asianataethau allanol (Ffair Swyddi)
•Cydlynu a gweinyddu y broses recriwtio, gan cynnwys y canlynol;-
•Cynghori adrannau ar brosesau a gweithdrefnau recriwtio
•Cydlynu ag asiantaethau hysbysebu a hysbysebwyr allanol
•Trefnu Cyfweliadau
•Delio gyda ymholiadau am swyddi a gyrru pecynnau gwybodaeth allan yn amserol.
•Cydlynu trefniadau gyda ymgeiswyr
•Gweinyddu dogfennau hawl i weithio UKVI gan cydymffurfio a deddfwriaeth, rheoliadau a pholisiau perthnasol sydd gan Cyngor Gwynedd.
•Gweinyddu dogfennau gogyfer gwiriad DBS trwy system perthnasol
•Yn gyfrifol o fod yn mewnbynu manylion gweithwyr newydd i system ‘CYBORG’ yn gywir ac yn amserol
•Sicrhau bod Adran Gyllid yn cael gwybodaeth cywir o ran dyddiad cychwyn, graddfa cyflog a hyd cytundeb cyflogaeth unrhyw staff newydd yn ogystal ag unrhyw newid i amodau a thelerau staff presennol.
•Paratoi a darparu cytundebau cyflogaeth cywir yn unol a’r gofynion a safonau iaith.
•Rhoi cyngor i staff a rheolwyr ar elfennau o’r cytundeb a’r amodau gwaith e.e. hawliau mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, cyfrifo hawliau gwyliau, cynghori a sicrhau cywirdeb y broses recriwtio
•Gweithredu a gweinyddu trefniadau e.e. ‘Bring-Ups’, mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, absenoldeb rhienni a’r hawl i weithio’n hyblygu trwy cydymffurfio gyda polisiau Cyngor Gwynedd.
•Gweithredu ar brosesau pan mae staff yn ymadael a chyflogaeth.
•Rheoli a chynnal cofnodion staff yn cywir yn unol a pholisi Cyngor Gwynedd (https://gwynedd.insight4grc.com/UserHome/Policies/PolicyDisplay.aspx?&id=338&l=2), gan sicrhau bod holl gofnodion gweithwyr yn gyfredol, yn gywir ac yn cael eu storio yn unol a deddfwriaeth Diogelu Data
•Yn gyfrifol o fod yn gweinyddu desgiau gweinyddol fel enghraifft: Desg Adnoddau Dynol, Swyddi, Cyfarwyddiadur Mewnol a Hunanwasanaeth Staff.
•Sicrhau bod ffurflenni cywir yn cael eu cadw’n gyfredol ar y fewnrwyd
•Yn gyfrifol am gofnodi, monitro a dadansoddi’r data i adrodd perfformiad
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
•-