Pwrpas y Swydd
• Darparu gwasanaeth cefnogol i aelodau o grŵp gwleidyddol - (grŵp Plaid Cymru)
Cyfrifoldeb am Adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
-
Prif Ddyletswyddau
1. Trefnu a mynychu cyfarfodydd grŵp gwleidyddol yn ôl yr angen gan baratoi rhaglenni, adroddiadau a chofnodion a threfnu materion technegol yn ôl y galw.
2. Cyflawni unrhyw waith ymchwil ar ran yr aelodau/Grŵp
3. Cynorthwyo arweinydd ac aelodau y grŵp gwleidyddol gyda gwaith gweinyddol a chlerigol yn ôl yr angen
4. Cynorthwyo aelodau penodol gyda threfniadau yn ymwneud â gwaith ward.
5. Cynorthwyo i ysgrifennu a chreu datganiadau i’r wasg, deunydd ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a hefyd rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a gwefan y grŵp
6. Cynorthwyo aelodau’r grŵp trwy eu cyfieirio aelodau at ffynonellau gwybodaeth cywir.
7. Hyrwyddo cysylltiadau aelodau’r grŵp ag adrannau’r Cyngor trwy eu cynghori ar sut i gael y wybodaeth gywir a gan y person cywir.
8. Cyngorthwyo’r Aelodau i ddeall sut i ddefnyddio systemau technoleg gwybodaeth y Cyngor.
9. Gweithredu yn hollol gyfrinachol a pharchu cyfrinachedd ym mhob achlysur gan gynnwys cyfarfodydd grŵp.
10. Cynorthwyo’r trysorydd gyda threfniadau ariannol priodol ar gyfer y grŵp gan weinyddu materion dydd i ddydd.
11. Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad mewn cyd-weithrediad parhaus gyda rheolwr llinell.
12. Mae’r swydd hon wedi ei dynodi fel swydd sydd â chyfyngiadau gwleidyddol – gellir gweld manylion pellach isod.
13. Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
14. Gweithredu o fewn polisi gweithdrefnau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill cyfatebol a rhesymol a bennir gan y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a chyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau Arbennig e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
• Angen gweithio oriau anghymdeithasol o dro i dro ,megis mynychu cyfarfodydd gyda’r nos neu ar ddydd Sadwrn ac mewn lleoliadau tu allan i’r ganolfan waith arferol.
Amlinelliad yn unig o ddyletswyddau’r swydd a ddangosir uchod, a hynny er mwyn rhoi syniad o’r lefel cyfrifoldeb sydd ynghlwm â hi. Nid yw’r swydd ddisgrifiad hon yn fanwl gynhwysfawr, ac fe all dyletswyddau’r swydd newid o bryd i’w gilydd heb newid ei natur sylfaenol na’r lefel cyfrifoldeb.
Gweler ar y dudalen isod ynghylch arweiniad am gyfyngiadau gwleidyddol ar y swydd.
Crynodeb o’r Cyfyngiadau Gwleidyddol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990
Cyfyngiadau sy’n berthnasol i bob swydd sydd wedi ei chyfyngu’n wleidyddol:
Mae gweithwyr sydd gan gyfyngiadau gwleidyddol wedi’u gwahardd rhag y canlynol:
1. Cyhoeddi (neu achosi, awdurdodi neu ganiatáu i unrhyw un arall gyhoeddi) ei fod/bod, neu’n bwriadu bod yn ymgeisydd i’w hethol yn aelod o’r
• Tŷ’r Cyffredin;
• Senedd yr Alban;
• Y Senedd; neu
• Awdurdod lleol (o fewn ystyr adran 21(1) neu (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989);
2. Gweithredu fel asiant neu is-asiant etholiadol i ymgeisydd ar gyfer etholiad fel aelod o un o’r cyrff a enwir ym mharagraff 1 uchod;
3. Bod yn swyddog plaid wleidyddol neu unrhyw gangen o blaid o’r fath neu’n aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o blaid o'r fath neu gangen, os yw eu dyletswyddau'n debygol o ofyn iddynt-
(a) gymryd rhan yn rheolaeth gyffredinol y blaid neu'r gangen; neu
(b) weithredu ar ran y blaid neu’r gangen wrth ddelio â phersonau ac eithrio aelodau blaid neu aelodau o blaid wleidyddol arall sy'n gysylltiedig â'r blaid.
4. Canfasio ar ran plaid wleidyddol, neu ar ran rhywun sy’n ymgeisydd neu sy’n bwriadu bod yn ymgeisydd mewn etholiad i un o’r cyrff a nodir ym mharagraff 1 uchod.
Mae pawb sy’n dal swyddi cyfyngedig, ar wahân i gynorthwywyr gwleidyddol, hefyd wedi eu rhwystro rhag:
5. Siarad gyda’r cyhoedd neu gyda charfan o’r cyhoedd gyda’r bwriad i bob golwg o effeithio ar gefnogaeth y cyhoedd i blaid wleidyddol
6. Cyhoeddi (neu achosi cyhoeddi) unrhyw waith ysgrifenedig neu artistig os mai ef/hi yw’r awdur (neu un o’r awduron) neu y mae wedi gweithredu mewn swyddogaeth olygyddol yn ei gylch, os yw’r gwaith gyda’r bwriad i bob golwg o effeithio ar gefnogaeth gyhoeddus i blaid wleidyddol
Cyfyngiadau sy’n berthnasol i Gynorthwywyr Gwleidyddol yn unig - mae swyddogion o’r fath wedi eu rhwystro rhag:
7. Siarad gyda’r cyhoedd, neu garfan o’r cyhoedd, mewn modd sy’n debygol o roi’r argraff eu bod yn siarad fel cynrychiolydd awdurdodedig plaid wleidyddol.
8. Cyhoeddi (neu achosi cyhoeddi) unrhyw waith ysgrifenedig neu artistig, os mai ef/hi yw’r awdur (neu un o’r awduron) neu os yw wedi gweithredu mewn swyddogaeth olygyddol yn ei gylch, sy’n debygol o roi’r argraff ei fod wedi’i awdurdodi gan blaid wleidyddol
(Ceir manylion llawn yn ddeddfwriaeth berthnasol)