Cyfarwyddwr Corfforaethol
Cyflog: £97,940 a £108,595
- Ydych chi’n arweinydd profiadol ac arloesol, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf?
- Ydych chi’n awchu i fod yn rhan o dîm o swyddogion ac aelodau etholedig sydd yn rhoi o’u gorau i drigolion ein cymunedau?
Rydym yn awyddus i recriwtio Cyfarwyddwr Corfforaethol fydd yn chwarae rhan allweddol mewn arwain y ffordd i wireddu’r weledigaeth sydd gan Cyngor Gwynedd ar gyfer y dyfodol.
Mae Cyngor Gwynedd yn sefydliad arbennig ac unigryw, sydd â gweithlu ac Aelodau Etholedig sydd yn frwdfrydig ac ymrwymedig i sicrhau’r gorau i bobl y Sir, ac yn cael ei ystyried fel un o’r awdurdodau lleol sydd yn perfformio orau yng Nghymru. Un o’r heriau ar gyfer y dyfodol fydd parhau i arloesi a darparu gwasanaethau o safon i drigolion Gwynedd.
Rydym am benodi unigolyn fydd yn gallu cydweithio’n agos â’r Prif Weithredwr, ein arweinwyr gwleidyddol a phartneriaid allanol er mwyn trosi eu dyheadau ar gyfer pobl Gwynedd yn weithredu cadarn. Bydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn cynorthwyo’r Prif Weithredwr i arwain a siapio diwylliant sy’n seiliedig ar barch, ymddiriedaeth, atebolrwydd, grymuso ac arfogi eraill.
Rydym yn chwilio am arweinydd profiadol ac arloesol, sydd yn meddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf, gyda’r gallu i arwain staff Cyngor Gwynedd i droi’r weledigaeth yn realiti. Mae’r her yn fawr ond yn un gyffrous, ac rydym am glywed gan unigolion talentog sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl y Sir.
Rydym yn flaengar yn ein defnydd o’r Gymraeg, ac wedi gwneud enw i’n hunain fel cyflogwr sydd yn arwain yn y maes, gan weithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ein holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol a nodir yn y manylion person.
Os ydych yn barod am yr her yma ac yn awyddus i weithio ag arweinyddiaeth Cyngor Gwynedd i arloesi a gwneud gwahaniaeth o fewn corff cyhoeddus mawr, yna byddwn yn croesawu’ch cais.
Dyddiad Cau : 10 o’r gloch y bore ar 30 o Fehefin, 2025
Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â’r swydd, cysylltwch â Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr ar 01286 679
I gofrestru eich diddordeb yn y swydd allweddol yma ac i dderbyn gwybodaeth ar sut i fynd ati i gyflwyno’ch cais, gallwch yrru e-bost at ein Gwasanaeth Adnoddau Dynol ar penodicyfarwyddwrcorfforaethol@gwynedd.llyw.cymru yn y lle cyntaf.
Byddwn yn cydnabod derbyn eich cais, a hefyd yn cysylltu â chi er mwyn cadarnhau os ydych wedi eich rhoi ar y rhestr fer ai peidio.
PECYN RECRIWTIO CYFARWYDDWR CORFFORAETHOL