NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Y gallu i weithio a chymysgu yn hawdd â phobl. Gallu i ddelio a phobol yn hyderus, pwyllog a chwrtais.
Yn gallu adeiladu perthynas waith da gyda chydweithwyr o fewn y maes.
Y gallu i weithio o dan bwysau ac fel rhan o dîm.
Person taclus a threfnus sy’n gallu blaenoriaethu gwaith fel bo’r angen ac yn dangos blaengaredd
Gallu cyflwyno gwaith cywir a thaclus yn rheolaidd
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
NVQ3 mewn cymhwyster Gofal Plant neu Chwarae
Neu’n fodlon gweithio tuag at cymhwyster Gofal Plant neu Chwarae, neu profiad perthnasol o’r maes gofal plant a chwarae
3 TGAU (gradd A-C yn cynnwys Cymraeg a Saesneg)
DYMUNOL
Hyfforddiant Ysgol Goedwig neu Gwaith Chwarae
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o weithio gyda plant yn y blynyddoedd cynnar, mewn lleoliad gofal plant, chwarae neu addysg blynyddoedd cynnar
Profiad o gasglu, dadansoddi a chyflwyno data a gwybodaeth
Profiad o drefnu a chydlynu sesiynau amrywiol
Profiad o ymwneud yn effeithiol ag amrywiol unigolion a phartneriaid eraill
DYMUNOL
Profiad o gyflwyno gwybodaeth i gyfarfodydd
Profiad o gynllunio a chwblhau gwaith ymchwil ffurfiol ac anffurfiol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Gwybodaeth eang am y sector Gofal Plant, Chwarae ac Addysg Blynyddoedd Cynnar
Deallusrwydd o ddatblygiad plentyn
Sgiliau cyfathrebu da a chadarn, a’r gallu i ymwneud â phobol yn effeithiol gan barchu’r angen am gyfrinachedd.
Sgiliau gofal cwsmer ardderchog
Sgiliau trefnu a blaenoriaethu
Sgiliau cyfrifiadur da – defnydd o raglen Windows (Word, Excel,Outlook, TEAMS)
Defnydd o gar a thrwydded yrru gyfredol lawn.
DYMUNOL
ANGHENION IEITHYDDOL
Gwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)