Swyddi ar lein
Rheolwr Safleoedd a Iechyd a Diogelwch
£38,626 - £40,476 y flwyddyn | Dros dro 31/03/2028
- Cyfeirnod personel:
- 25-28462-H2
- Teitl swydd:
- Rheolwr Safleoedd a Iechyd a Diogelwch
- Adran:
- Plant a Chefnogi Teuluoedd
- Gwasanaeth:
- Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar
- Dyddiad cau:
- 29/07/2025 10:00
- Math Swydd/Oriau:
- Dros dro | 31/03/2028 | 37 Awr
- Cyflog:
- £38,626 - £40,476 y flwyddyn
- Gradd tâl:
- PS1
- Lleoliad(au):
- Plas Pawb, Maesincla, Caernarfon
Manylion
Hysbyseb Swydd
*DALIER SYLW* Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac i wella amrywiaeth ein gweithlu. Bydd eich ffurflen gais yn cael ei hasesu yn ddienw. Ni fydd eich teitl, enw na chyfeiriad e-bost yn cael ei rannu â’r panel sy’n penodi at bwrpas llunio rhestr fer. Dylech ystyried hyn yn ofalus wrth ysgrifennu amdanoch eich hun yn y rhan gwybodaeth pellach.
Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Sioned Owen ar 01286678824
Cynnal cyfweliadau i’w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 10.00 O’R GLOCH, 29/07/2025
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.
Manylion Person
NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL
Cyfathrebu’n effeithiol ac arddangos blaengaredd / “gweld gwaith”
Gweithio’n hyblyg o fewn fframwaith tim
Ymrwymiad i lwyddo ac adnabod cyfleon i wella gwasanaeth
Cymryd cyfrifoldeb ac atebolrwydd ac yn gallu gwneud penderfyniadau
Gallu i feithrin perthynas gwaith dda gydag eraill er mwyn cyflawni anghenion gwasanaeth a chael canlyniadau
Gallu ymateb i nifer o ofynion gwaith gan ddewis a blaenoriaethu yn addas a gan gwrdd a thargedau amser
DYMUNOL
-
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
Graddedig neu gyda chymhwyster cyfatebolIOSH
DYMUNOL
Cymhwyster NEBOSH Tystysgrif mewn Iechyd a Diogelwch neu parodrwydd i wneud y cymhwyster
Cymhwyster hyfforddi
PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL
Profiad o gynnal asesiadau risg
Profiad o weithredu ar faterion iechyd a diogelwch yn y gweithle
Profiad o reoli safleoedd
DYMUNOL
Profiad hyfforddi
Profiad o gynnal archwiliadau
Profiad o lunio polisïau iechyd a diogelwch
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOLSgiliau cyfrifiadurol cadarn
Y gallu i ddefnyddio pecynnau meddalwedd sylfaenol (ee Word, Outlook, Excel, Powerpoint) a sgiliau Technoleg Gwybodaeth cryf
Y gallu i reoli cyllideb
Y gallu i baratoi adroddiadau, cyflwyniadau a deunydd ysgrifenedig addas i gyd-fynd â gofynion y swydd
Dealltwriaeth o ddulliau adnabod a rheoli risgiau
Sgiliau datrys problemau mewn modd rhesymegol gan ganolbwyntio ar y datrysiad a goroesi rhwystrau.
Trwydded yrru lawn a defnydd o gar.
Ymwybyddiaeth o’r gofynion statudol cyfredol ym maes iechyd a diogelwch
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL
Gwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn. Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol. Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y Swydd.
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
Rheoli safleoedd gwasanaethu yr Uned gan fod yn ganolog i ymdrechion y Cyngor i wella cyflwr a defnydd o’i adeiladau a thir o fewn ffiniau’r safle ac i sicrhau eu bod yn gweithredu’n ddiogel ac yn effeithlon: unigolion ydynt sy’n cadw llygaid ar adeiladau a thir y Cyngor fel eu bod yn cael eu cynnal mewn cyflwr diogel, glân, taclus ac atyniadol, yn ogystal â bod yn addas ar gyfer anghenion staff, plant a chwsmeriaid.
Sicrhau fod gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch mewn lle i holl weithgarwch yr UnedCyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Adeilad Plas Pawb – Caernarfon
Adeilad Ty Cegin Maesgeirchen
Adeilad Dechrau’n Deg – Deiniolen
Cerbydau yr Uned
Trelar Chwarae
Pods Offer ChwaraePrif Ddyletswyddau.
Arwain trwy esiampl; meithrin a chynnal diwylliant iechyd a diogelwch positif bob amser.
Sicrhau y dilynir gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch Cyngor Gwynedd.
Rheoli unrhyw gyllideb ddatganoledig ar gyfer cynnal a chadw / gwasanaethu pan fo’n briodol. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw gyllidebau a gaiff eu rheoli gan y Gwasanaethau Eiddo.
Rheoli’r drefn o gynhyrchu incwm digonol ar gyfer rhediad y safleoedd.
Gweithredu fel, neu sicrhau fod person addas arall wedi ei ddynodi i fod yn bwynt cyswllt cyntaf am faterion dydd i ddydd yn ymwneud â’r eiddo. Dirprwyo a sicrhau gweithrediad gwiriadau safle. Cydweithio gyda is reolwyr safle pam ddim yn bresennol fel bod gweithrediad saff yn digwydd yn amserol.
Sicrhau y caiff ceisiadau am waith cynnal a chadw eu hadrodd i’r Ddesg Gymorth Eiddo, ble bo’n briodol
Os yw Rheolwr Safle / Wasanaeth yn dymuno trefnu gwaith ar yr adeilad, yna rhaid sicrhau fod cais wedi ei gyflwyno i’r Gwasanaeth Eiddo ar ffurflen C1 a sicrhau fod caniatâd ar yn awdurdodi’r gwaith wedi ei dderbyn gan y Gwasanaeth Eiddo cyn i unrhyw waith gael ei drefnu.
Sicrhau fod unrhyw waith gwasanaethu sy’n gyfrifoldeb ar y sefydliad i’w gyllido allan o’u cyllideb ddatganoledig yn digwydd yn amserol.
Cydweithio â Rheolwr Prosiect gwaith adeiladu i sicrhau integreiddiad esmwyth y gwaith prosiect â defnydd arferol yr adeilad, gan leihau’r effaith ar ddefnyddwyr yr adeilad, a chyfathrebu’n glir â defnyddwyr yr adeilad.
Sicrhau y cwblheir ac adolygir asesiadau risg, a sicrhau y cydymffurfir â’r trefniadau i reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r adeilad, y safle a’r defnydd ohono. Bydd asesiadau arbenigol ac arolygon tân, asbestos a chlefyd y lleng filwyr (legionella) yn cael eu cydgordio gan y gwasanaeth eiddo a rhennir y canfyddiadau
gyda’r Rheolwyr perthnasol.Sicrhau bod y ffeiliau Gwybodaeth Eiddo / Bocsys Glas yn cael eu cadw’n gyfredol
Sicrhau bod Cynlluniau Rheoli e.e. cynllun rheoli tân sy’n ymwneud â materion eiddo yn cael eu gweithredu ar y safle e.e. materion rheoli legionella, profi taenellwyr a gwagio unrhyw systemau biomas.
Sicrhau bod gweithdrefnau arwyddo mewn ac allan corfforaethol yn cael eu gweithredu ar y safle a bod staff, contractwyr ac ymwelwyr yn ymwybodol o wybodaeth sy’n berthnasol i risgiau ar y safle a bod y gofrestr asbestos yn cael ei dangos i gontractwyr ar bob achlysur.
Trefnu cynnal a chadw’r tiroedd. Sicrhau fod y planhigion ar ffrynt yr adeiladau yn cael eu trin, dyfrio a chadw’’n daclus.
Gwirio rheoliadau yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar y safleoedd a sicrhau cydymffurfiaeth i system rheolaeth diogelwch bwyd.
Cefnogi ymdrechion y Cyngor i leihau ein defnydd o ynni a sicrhau bod trefniadau wedi’u sefydlu i gofnodi’r defnydd ar y safle ac anfon gwybodaeth at y Gwasanaeth Eiddo yn fisol.
Sicrhau fod trefniant mewn lle i ymdrin â cheisiadau i ddefnyddio/llogi rhannau o’r adeilad yn unol â’r math o wasanaeth a ddarperir o’r adeilad hwnnw a sicrhau bod trefniadau trosglwyddo digonol wedi’u sefydlu sy’n cynnwys defnyddio a gwagio’r adeilad yn ddiogel (fodd bynnag, dylai unrhyw geisiadau am ddefnydd ehangach e.e. hawliau mynediad, trwyddedu, prydlesau a phryniadau gael eu dwyn i sylw’r Gwasanaeth Eiddo).
Sicrhau bod unrhyw gontractwyr a ddefnyddir ganddynt i wneud gwaith yn gymwys i ymgymryd â’r gwaith yn ddiogel, yn cynhyrchu asesiadau risg ar y gwaith, ac yn cydymffurfio â gweithdrefnau rheoli Contractwyr Cyngor Gwynedd.
Sicrhau bod swyddfeydd allanol sydd ar rhent yn saff a diogel i staff gan gydweithio gyda swyddogion Iechyd a Diogelwch y safle ag asiantaethau eraill fel y BCUHB.
Sicrhau bod archwiliadau safle yn digwydd yn rheolaidd ac yn cael eu cofnodi ar y daflen log perthnasol e.e. llyfr log diogelwch tân, gwiriadau ROSPA offer chwarae
Cyfrifoldeb dros Cymorth Cyntaf safleoedd a mynychu hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn y gweithlu a sicrhau cydymffurfiaeth ar y safleoedd
Sicrhau fod y ‘containers’ chwarae sy’n storio offer chwarae yr Uned yn cael ei archwilio ac yn saff.
Mynychu unrhyw hyfforddiant a ddarperir ar gyfer rheolwyr safle fel IOSH gan gynnwys hyfforddiant atgoffa.
Ymateb yn brydlon i geisiadau am wybodaeth gan yr Uwch Dim, Gwasanaeth Iechyd Diogelwch a Llesiant neu’r Gwasanaethau Eiddo.
Cydweithio gyda’r Uwch Dim a’r Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch perthnasol ar y gwaith o gyflwyno deddfwriaethau a pholisïau iechyd a diogelwch a gweithdrefnau newydd.
Cydweithio gyda’r Uwch Dim a’r Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch perthnasol i sefydlu a gweithredu system asesiadau risg ar gyfer yr Uned a system o fonitro ei weithrediad.
I ymgymryd â’r gwaith o archwilio safon ac ansawdd systemau iechyd a diogelwch o fewn yr Uned a sicrhau cyflenwad cywir o ‘PPE’ i gydfynd gyda asesiadau risg a bod defnydd cywir o’r PPE yn digwydd.
Cynorthwyo i gydgordio hyfforddiant iechyd a diogelwch staff yr Uned fel Cymorth Cyntaf, Tân a.y.b.
Darparu arweiniad a chynhaliaeth mewn perthynas ag adnabod ac asesu risg drwy :
Ddarparu modelau o asesiadau generig perthnasol i staff
Cyfrannu at hyfforddiant perthnasol.
Gwirio asesiadau risg a gynhyrchwyd gan y timau
rheoli gweithrediad a monitro’r bas data asesiadau risg fel bod modd diweddaru yn amserol
Cyfrannu at sefydlu a gweithredu cyfundrefn ar gyfer monitro.
Amlygu anghenion hyfforddiant iechyd a diogelwch ar gyfer staff yr Uned i’r Uwch Dim
Ymgymryd â hyfforddi staff i drefniadau Iechyd a Diogelwch yn fewnol ac allanol.
Adrodd ar ddamweiniau drwy’r drefn HS11 y Cyngor gan adrodd ar ddiffygion i’r Uwch Dim a’r tîm I&D corfforaethol.
Mynychu fforwm Iechyd a Diogelwch Adrannol a chydweithio gydag Ymgynghorwyr a Swyddogion Iechyd a Diogelwch Corfforaethol
Paratoi a chynnal gwybodaeth, gohebiaeth, cofnodion ac adroddiadau yn amserol, yn unol ag anghenion Deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch.
Gyda chymorth y tîm gweinyddol trefnu cyfarfodydd chwarterol gyda staff safleoedd.
Sicrhau bod archwiliadau cerbydau yn digwydd yn rheolaidd ac yn cael eu cofnodi ar y daflen log perthnasol.
Cydweithio gyda’r tîmau i wneud asesiadau risg cychwynnol ar leoliadau newydd i gynnal gweithgareddau fel y Trelar Chwarae.
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drinAmgylchiadau Arbennig. . e.e. angen i weithio oriau anghymdeithasol, trefniadau gwaith arbennig, a.y.y.b.
Bydd angen gweithio oriau anghymdeithasol ar adegau os bydd problemau yn codi ar y safleoedd. Ni ellir ystyried gweithio’n hybrid