ADDYSG
YSGOL FRIARS, BANGOR
(Cyfun 11 - 18: 1421 o ddisgyblion)
Yn eisiau: ar gyfer : 1af o Fedi, 2025
SWYDDOG DIOGELU (DROS DRO)
Cytundeb dros dro am flwyddyn hyd at 31/8/2026 yn y lle cyntaf yw hwn.
Mae’r Llywodraethwyr yn chwilio am berson brwdfrydig a blaengar i gymryd cyfrifoldeb o rol swyddog diogelu o fewn yr Ysgol.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos.
(41 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol yn ogystal â bod ar gael i weithio 3 wythnos yn ychwanegol tu hwnt i’r oriau arferol).
Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S2 pwyntiau 18-22 (£27,903 - £29,816 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Mae’r ysgol yn gweithredu’n unol a’i Bolisi Iaith. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi yn y Manylion Person.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol hefo’r Pennaeth, Mrs Margaret Davies, Rhif ffôn: 01248 364905
Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i’w cael gan Mrs Melanie Horton, Ysgol Friars, Lon y Bryn, Bangor, Gwynedd, LL57 2LN. Rhif ffôn: 01248 364905;
e-bost: pennaeth@friars.ysgoliongwynedd.cymru Os dymunir dychwelyd y cais drwy’r post, dylid ei ddychwelyd i’r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.
Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o’r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).
DYDDIAD CAU: HANNER DYDD, DYDD GWENER, 27AIN O FEHEFIN 2025.
Mae’r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae’n disgwyl y bydd pob un o’i staff a’i wirfoddolwr yn rhannu’r ymrwymiad hwn.