Swyddi ar lein
Cyfrifydd Rheoli Trysorlys
£36,124 - £38,626 y flwyddyn
- Cyfeirnod personel:
- 25-28444
- Teitl swydd:
- Cyfrifydd Rheoli Trysorlys
- Adran:
- Swyddi cyffredinol
- Gwasanaeth:
- Swyddi cyffredinol
- Dyddiad cau:
- 09/06/2025 10:00
- Cyflog:
- £36,124 - £38,626 y flwyddyn
- Lleoliad(au):
- Coed Pella, Bae Colwyn
Manylion
Hysbyseb Swydd
Ydych chi'n angerddol am gyllid cyhoeddus, yn edrych i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned ac yn angerddol am rifau a llygad craff am fanylion? Rydym yn chwilio am Gyfrifydd Rheoli’r Trysorlys penodedig i ymuno â'n tîm Cyfrifeg awdurdod lleol i gefnogi'r Prif Gyfrifydd i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau ariannol o fewn y Cyngor. Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio portffolio buddsoddi’r awdurdod, monitro a rheoli llif arian a pharatoi adroddiadau ariannol.
Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl hon ac rydych yn barod i gyfrannu at lwyddiant ariannol ein hawdurdod lleol, rydym am glywed gennych.
I gael gwybod mwy am brif ddyletswyddau a gofynion y swydd, cymerwch olwg ar y Swydd-Ddisgrifiad a’r Manylion am yr Unigolyn.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Huw Jones, Prif Gyfrifydd (Huw.Jones@conwy.gov.uk / 01492576174)
Gofynion y Gymraeg: Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o’n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na’r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na’i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a’ch annog i ddefnyddio’ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i’ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy’n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy’n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi’i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda ‘H’ ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â’r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â’r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.