Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol dros dro hyd nes Tachwedd 2027
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gefnogi'r Uned Iechyd Galwedigaethol i ddarparu Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol ar gyfer awdurdod lleol Cyngor Gwynedd a chontractau allanol eraill.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, yn ogystal a trwydded gyrru car dilys.
Prif ddyletswyddau’r swydd
Ydych chi'n chwilio am gyfleoedd newydd i ddefnyddio eich sgiliau a gweithio fel rhan o dîm sy'n gofalu am weithwyr yn y gweithle? Fel nyrs gofrestredig sy'n gweithio ym maes Iechyd Galwedigaethol byddwch yn gyfrifol am gefnogi'r tîm i ddarparu gwasanaethau ar gyfer Cyngor Gwynedd a chontractau eraill. Cynnal ymgynghoriadau absenoldeb salwch a darparu gofal o safon uchel mewn perthynas â gofynion iechyd galwedigaethol penodol. Mae enghreifftiau o’r dyletswyddau yn cynnwys:
- Ymgynghoriadau salwch
- Cyngor ar faterion iechyd galwedigaethol a ffordd o fyw
- Cefnogi gweithgareddau iechyd a lles e.e. sioeau deithiol, gwiriadau iechyd,
ymwybyddiaeth iechyd meddwl
- Sgrinio cyn cyflogaeth
- Gwyliadwriaeth Iechyd e.e. profion clyw, spirometreg, a gwyliadwriaeth croen.
Mae angen sgiliau cyfathrebu effeithiol i sefydlu a chynnal pherthynas proffesiynol dda gyda staff y Cyngor, y tîm ac eraill.
Byddwch yn gyfrifol am sicrhau cyfrinachedd, diplomyddiaeth a disgresiwn bob amser.
Oriau gwaith
Dydd Llun i ddydd Gwener, yn amodol a'r hyblygrwydd i gynorthwyo i gwmpasu oriau craidd. Mae'n debygol y bydd angen gweithio o leoliadau eraill yng Nghyngor Gwynedd neu lleoliad contractau allanol.
Gweithio i'n sefydliadau
Os ydych chi'n mwynhau her, yn angerddol i helpu eraill, cliciwch ar y linc yma.
Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i’r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy’n cael ei nodi fel un o’r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda’r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i’r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a’r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Haf Ward Williams ar 01286 679329 neu drwy e-bost: hafwardwilliams@gwynedd.llyw.cymru
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD CAU: 12:00 O’R GLOCH, 02/07/2025
Os yn llwyddiannus, bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal 14/07/2025.
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy’r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.