Pwrpas y swydd
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
•Ymgymryd a gweithgareddau medrus sy’n cynnwys gosod gwaith allan, gyrru a gweithredu offer trwm, cynnal gwaith priffyrdd
•Ymgymryd â’r sustem ar alwad tu allan i oriau Gwaith fel mae’r angen.
•Gweithio goramser tu allan i oriau Gwaith.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Cyfrifoldeb am y cerbydau, offer, peiriannau a nwyddau
•Defnyddio tabled cyfrifardurol WDM EZYTREEV, Structures, NMWTRA Trimbull (Gully Emptying)
•Rhoi arweiniad i is-gontractwyr, gyrrwyr JCB, loriau a phlaner a.y.y.b.
Prif ddyletswyddau
Dyletswyddau yn cynnwys yr angen i weithio i lefelau manwl ac yn ofynnol a gwaith adeiladwaith mewn nifer o dasgau, er engraifft:-
•Traenio
•Cynnal troedffordd e.e. cyrbio, slabio
•Gwaith haearn e.e. gwli a tyllau archwilio
•Gwaith cvoncrid
•Walio
•Ffensys diogelwch Sector Scheme Rhis 2A/2B
•Gwaith tyllu
•Gwaith tarmac yn cynnwys clytwaith
•Arwisgo ffordd Sector Scheme Rhif 13
•Marciau ffordd Sector Scheme Rhif 7.
Dyletswyddau eraill yn cynnwys:-
•Rheolaeth traffig a gweithio ar lonydd cyflymder uchel Sector Scheme 12A/B/C/D
•Symud, ailosod a cywasgiad pridd, cerrig a deunyddiau eraill
•Torri coed yn cynnwys defnyddio MEWP a pheiriant malu coed yn fân
•Plannu a chynnal amgylchion priffyrdd yn gyffredinol
•Cynnal ffosydd
•Gosod arwyddion parhaol a dros dro.
•Ymateb i’r tywydd garw, llifogydd a gorlif ayyb
•Tyllau arbrawf
•Gwaith cynnal gaeaf, gan gynnwys graeanu, delio gyda llifogydd, clirio coed , Cynnal Gaeaf City & Guilds
•Gwagio gwliau a jetio
•Cadw cofnod o waith dyddiol o’r nwyddau, pheiriannau, ayb a ddefnyddiwyd.
•Lladd chwyn
•Gweithio o uchder
Gyrru / defnyddio Peiriannau Trwm er engraifft:-
•Cerbydau o dan a dros 3.5T
•Peiriannau graeanu.
•Erydr eira.
•Hotbox
•Cerbyd Ysgubo
•Peiriant gwagu gwliau
•Telehandler
•Peiriannau arwisgo – tancar, chipper a rholer
•Peiriant Skid Steer yn cynnwys “Mini Planer, bwcad a brwsh”
•Cloddiwr 360, tractor a dympar
•MEWP.
Wrth defnyddio’r cerbydau a pheiriannau bydd rhaid :-
•Gyrru cerbydau mewn modd diogel a chwrtais yn ôl cyfyngiadau cyflymder y ffordd ac o fewn gofynion y gyfraith
•Cydymffurfio gyda polisiau’r Adran Fflyd, hynny i gynnwys cynnal archwiliadau priodol ar y cerbydau / periannau er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel i fod ar y ffordd. Cofnodi pob gwyriad ac adrodd unrhyw diffygion yn syth.
•Mynychu hyfforddiant perthnasol ar gyfer CPC, cerbydau / pheiriannau
Defnyddio Offer Llaw er engraifft :-
•Llif cadwyn, yn cynnwys coes hir
•Peiriant torri gwair a gwrych, chwythiwr dail
•Peiriant malu’r ffordd
Peiriant cywasgu - compactor
•Rholer bach
•Llif disc
•Defnyddio tabled electroneg i gofnodi a lleoli gwaith
Mae’n bwysig bod y gweithiwr yn cymeryd gofal wrth ddefnyddio’r peiriannau yn unol ag unrhyw hyfforddiant yn cynnwys gwisgo cyfarpar diogelu personol pwrpasol. Bydd y gweithiwr yn gyfrifol am gynnal a chadw peiriannau amrywiol a’u cadw’n ddiogel mewn cerbyd y Cyngor neu yn y depo. Bydd angen cynorthwyo’r Peiriannydd Safle wrth drefnu cynhaliaeth ar yr offer llaw. Bydd disgwyl i pob
gweithiwr ddefnyddio’r system HAV sydd yn ei le ar gyfer monitro dirgryniad personol pan yn defnyddio’r offer.
MAE DYLETSWYDD I SICRHAU BOD YR OFFER A CHYFARPAR YN CAEL EU DEFNYDDIO MEWN MODD DIOGEL POB AMSER GYDA’R CYFRIFOLDEB UNIONGYRCHOL AM DDIOGELWCH Y GWEITHLU A’R CYHOEDD.
Iechyd a Diogelwch:-
•Cyfrifoldeb am sicrhau diogelwch eich hun, eich cydweithiwr ac aelodau o’r cyhoedd.
•Gweithio yn unol a gweithdrefnau rheoli’n ddiogel, asesiadau risg, polisiau’r Cyngor yn unol a chyfrifoldebau’r gweithiwr fel a nodi’r yn Neddf Iechyd a Diolgelwch 1974.
•Cyfranu i asesiadau risg y gwasanaeth a cymeryd rhan mewn archwiliadau Iechyd a Diogelwch ac arddangos dealltusrwydd o’r risgiau a chydymffurfiad
•Adrodd a chynorthwyo gyda chwblhau adroddiadau damweiniau / digwyddiadau treisgar (HS11) yn ogystal a Ffurflenni Yswiriant
•Cydymffurfio gyda rheolau a chyfarwyddiadau penodol mewn mannau cyhoeddus.
•Gwisgo Cyfarpar Diogelu Personol pob amser yn cynnwys cyfarpar diogelu ar gyfer tasgiau pwrpasol
•Bydd disgwyl cymryd rhan mewn hyfforddiant cymorth cyntaf
Corfforaethol:-
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
•Mynychu unrhyw hyfforddiant sy’n addas i’r swydd
•Gweithredu o fewn polisiau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol a’r safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth a deddfwriaeth Diogelu Data
•Ymrwymiad i leihau allrydiau carbon y Cyngor yn unol a’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ol-troed carbon y Cyngor
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Amgylchiadau arbennig
•Mae’n hanfodol bod y gweithiwr yn fodlon ymgymryd a’r sustem ar alwad y Cyngor fel mae’r angen lle bydd angen gweithio tu allan i oriau gwaith wrth ymateteb i argyfyngau fel tywydd garw, cynnal y gaeaf a damweiniau ayyb.
•Mae’n ofynnol i’r gweithiwr weithio tu allan i oriau gwaith fel yr angen.
•Clirio’r cerbydlon yn dilyn damweiniau, yn cynnwys gwastraff fel gwaed a.y.y.b..