Pwrpas y Swydd
Gweinyddu Cofrestr Amddiffyn Plant Gwynedd
Darparu cefnogaeth weinyddol i’r Cydlynydd Amddiffyn Plant, yr Uwch Reolwr Gweithredol a’r
Uwch Reolwr Adnoddau
Darparu cefnogaeth i’r Uned Ddiogelu ag Ansawdd, Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd
Gwynedd
Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am Adnoddau. . e.e. staff, cyllid, offer
Defnyddio gliniadurClick here to enter text.
Prif Ddyletswyddau
Cyfrifol am weithredu’r Gofrestr Amddiffyn Plant gan sicrhau ei bod yn gyfredol ac yn
cael ei diweddaru heb oediad yn unol a’r disgwyliadau yng Nghanllawiau Diogelu
Cymru.
Gweinyddu’r Gofrestr Amddiffyn Plant trwy fewn-fwydo, diweddaru, llythyru, gwirio a
monitro’r cofnod o blant sydd mewn perygl o niwed arwyddocaol.
Gweinyddu cyfarfodydd, (gan gynnwys Panel Sefydlogrwydd a Cyfarfodydd PLO) ar
ran yr Uwch Reolwr Gweithredol, gan gynnwys trefnu, cylchlythyru dogfennau,
cofnodi a gweinyddu canlyniadau cyfarfodydd o’r fath ar systemau cyfrifiadurol
perthnasol.
Gweinyddu taliadau, derbyn anfonebau a cofnodi taliadau ar ran yr Uwch Reolwr
Adnoddau.
Derbyn a cofnodi galwadau ffon, llun gopïo, postio ac unrhyw dasgau gweinyddol
eraill yn ôl y galw.
Gweinyddu trefniadau ar gyfer asesiadau meddygol Plant mewn Gofal, gan gynnwys
dosbarthu ffurflenni trefnu, cyfeirio i wasanaethau Iechyd, cofnodi, trefnu a rheoli’r
broses o sicrhau fod asesiadau meddygol yn cael eu cyflawni.
Mewn fwydo i systemau cyfrifiadurol fel WCCIS.
Unrhyw ddyletswyddau eraill priodol ar gais y Pennaeth Gwasanaeth
Bod yn ymwybodol o ofynion Deddfau Iechyd a Diogelwch a chydweithio gyda
Swyddog Iechyd a Diogelwch a Sicrwydd Ansawdd y Gyfadran i sicrhau ein bod yn
Cyngor Gwynedd – SD-CY Swydd Ddisgrifiad Cymraeg 03/14 Tudalen 2 o 2
Prif Ddyletswyddau. .
cydymffurfio gyda’r gofynion Iechyd a Diogelwch perthnasol.
Mae’r Cyngor yn gweithredu rhaglen barhaus o hyfforddiant a ddatblygu sgiliau
personol ynghyd a phroses Gwerthuso sydd yn cyfrannu tuag at hyn, disgwylir i
ddeilydd y swydd cydymffurfio a hyn.
Rhestr ddarluniol yn unig yw hon. Disgwylir i ddeilydd y swydd fod yn rhan o’r broses
o reoli a monitro perfformiad yn unol a gofynion y swydd a gweithredu ar unrhyw
ddyletswyddau eraill yn unol a natur y swydd ai graddfa yn unol a chais y Pennaeth
Gwasanaeth/Rheolwr neu’r Cyfarwyddwr Strategol.
Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r
cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi
Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth
y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â
deddfwriaeth Diogelu Data
Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac
i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel
cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn
cael ei gam-drin.
Amgylchiadau Arbennig-