Pwrpas y swydd
•Hyrwyddo gweithredu gwasanaethau parcio’r Cyngor yn llyfn ac yn effeithiol yn unol â Deddf Traffig Ffordd 1991, Deddf Rheoliadau Traffig Ffordd 1984 a Deddf Rheoli Traffig 2004, darparu gwasanaeth gorfodaeth parcio effeithiol er mwyn cael y lleiaf posibl o barcio anghyfreithlon a gwella diogelwch y ffordd drwy gyflwyno Rhybuddion Talu Cosb.
•Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
•Offer a cherbyd – Cyfrifoldeb am holl offer, cherbyd, a gwisg personol sydd yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau dydd i ddydd y swydd.
•Sicrhau fod y cyfarpar yn gweithio yn iawn.
Prif ddyletswyddau
•Cyfrannu’n effeithiol at strategaeth rheoli parcio’r Cyngor drwy orfodi rheoliadau aros / parcio ar ac oddi ar y stryd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Cyngor.
•Patrolio parcio ar ac oddi ar y stryd, naill ai’n unigol neu fel rhan o dîm. Bydd patrolau ar droed ond efallai y bydd angen defnyddio cerbydau.
•Cyflwyno Rhybuddion Talu Cosb gan ddefnyddio cyfrifiadur llaw yn unol â’r cyfarwyddiadau, gweithdrefnau a Gorchmynion Rheoli Traffig perthnasol sy’n weithredol ar hyn o bryd er mwyn sicrhau cyfarfod â’r gofynion parcio cyfreithiol.
•Cadw nodiadau llyfr poced yn gywir, yn gydwybodol ac yn gyson gyda thystiolaeth ffotograffig o fod Rhybudd Talu Cosb a gyflwynir a digwyddiadau cysylltiedig eraill.
•Bod yn bresennol mewn gwrandawiadau dyfarnu fel tyst ar ran y Cyngor yn ôl y gofyn gallai hynny olygu cyflwyno adroddiadau ysgrifenedig.
•I wisgo camera corff fel rhan o’r wisg bersonol i gofnodi unrhyw ddigwyddiad / digwyddiadau bygythiol neu dreisgar gan lawr lwytho'r wybodaeth yn ddyddiol gan adrodd ar ddigwyddiad difrifol yn syth i’r Rheolwr Llinell.
•Adrodd yn ôl i’r Arweinydd Tîm Gorfodaeth Sifil ar unrhyw gerbydau yr amheuir eu bod wedi eu gadael.
•Gwirio fod arwyddion parcio, llinellau a rhybuddion yn gywir ac yn bresennol a bod Rhybuddion Talu Cosb sy’n cael eu cyflwyno’n cydymffurfio gyda’r arwyddion perthnasol.
•Adrodd yn ôl i’r Arweinydd Tîm Gorfodaeth Sifil ar unrhyw arwyddion neu linellau anghywir, wedi’u difrodi neu sydd ar goll.
•Cynorthwyo gyda chynnal peiriannau talu ac arddangos ar ac oddi ar y stryd gan adrodd yn ôl ar unrhyw ddiffygion i’r Arweinydd Tîm Gorfodaeth Sifil.
•Sicrhau y cydymffurfir â’r holl weithdrefnau Iechyd a Diogelwch ac adrodd yn ôl i’r Arweinydd Tîm Gorfodaeth Sifil ar unrhyw ddiffygion mewn meysydd parcio neu ardaloedd parcio ar y stryd.
•Ymateb i ymholiadau oddi wrth a chynnig cymorth i’r cyhoedd.
•Pan fo angen cynghori ar bolisi a gweithdrefnau’r Cyngor mewn perthynas â pharcio a rhoi cyngor ar sut i gyflwyno cwyn / sylwadau swyddogol i’r Cyngor.
•Gweithredu radio ddwy ffordd er mwyn cadw cyswllt rheolaidd gyda’r Arweinydd Tîm Gorfodaeth Sifil gan sicrhau fod y gweithdrefnau radio cywir yn cael eu dilyn pob amser.
•Adrodd yn ôl a chofnodi tystiolaeth o weithgareddau anghyfreithlon.
•Cadw edrychiad personol gweddus a phroffesiynol, gan sicrhau fod y wisg sy’n cael ei wisgo ar ddyletswydd yn lân ac yn dwt bob amser.
•Bod yn gyfrifol am gadw, gofalu a chynnal yr offer personol a geir gan y Cyngor, gan gynnwys cyfrifiaduron llaw, camerâu, offer cyfathrebu a ble bo’n berthnasol, cerbydau’r Cyngor.
•Monitro’ch gwaith eich hunain a nodi’r ymarfer gorau er mwyn gwella’r gwasanaeth a datblygu trwy Fuddsoddi mewn pobl.
•Cynorthwyo’r Rheolwr Gorfodaeth Parcio gydag unrhyw ddyletswyddau eraill o fewn cymhwysedd deilydd y swydd.
•Gofyniad ac ymrwymiad i weithio at ac ennill ardystiad Tystysgrif Cynorthwydd Parcio NVQ Lefel 2 fewn 2 flynedd o gychwyn y swydd.
•Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
•Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â’r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
•Gweithredu o fewn polisïau’r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
•Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data.
•Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â’r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu’n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
•Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy’n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
•Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gam-drin.
Dyddiad Adolygu / Hawl i Amrywio
Bydd angen bod yn hyblyg er mwyn manteisio i’r eithaf ar sgiliau ac arbenigedd penodol deilydd y swydd er budd pawb. Disgrifiad yw hwn o’r swydd fel y mae ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei adolygu gyda deilydd y swydd a’i ddiweddaru neu ei newid fel bo’r gofyn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd yn rhaid i ddeilydd y swydd fod yn weithiwr tîm effeithiol a hefyd allu gweithio ar ei liwt ei hunan a rheoli amser yn effeithiol. Yn unigolyn hynod o ysgogol, rhaid i chi allu delio gyda sefyllfaoedd anodd ac ymfflamychol yn dawel gan ganolbwyntio ar y cwsmer, bydd gofyn bod yn ddoeth ac yn ddiplomyddol bob amser.
Amodau Gwaith
Mae’n rhaid iddo / iddi fod yn gorfforol ffit ac mae gofyn gwisgo’r wisg lawn a ddarperir bob amser yn ystod oriau’r gwaith, sydd yn 37 awr yr wythnos dros 5 diwrnod ar sail rota, gan gynnwys Sadyrnau a Suliau. Bydd amser dechrau a gorffen rhwng 06:00 awr 22:00 awr ac efallai y bydd yn gofyn gweithio tu allan i’r amseroedd hyn yn ôl y gofyn.
Amgylchiadau arbennig
Bydd gofyn i ddeilydd y swydd weithio ar Sadyrnau fel rhan o wythnos waith arferol ac ar Suliau ar rota. Ar gyfnodau brig ac ar benwythnosau gŵyl y banc efallai y bydd gofyn i chi weithio oriau ychwanegol neu newid patrwm shifft er mwyn sicrhau bod digon o swyddogion ar gael i gynnal lefel dderbyniol o orfodaeth.